Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£931.00

Disgrifiad o’r Prosiect 

Gweithio gyda Chartrefi Gofal i ddangos y gall dawns weithredu fel offeryn pwerus wrth fynd ir afael â materion cymdeithasol syn digwydd o fewn cymunedau, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, unigrwydd, datblygu perthnasau cymdeithasol, cynnal agweddau positif tuag at iaith a diwylliant, a chryfhau hunaniaeth a chydraddoldeb.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Mae preswylwyr mewn cartrefi gofal gwledig sy’n dioddef o ddementia wedi eu cyflwyno i ddawns ac wedi rhoi eu hesgidiau dawnsio ymlaen mewn cynllun dawns arloesol o’r enw “Dawns i Bawb”.

Daeth y cynllun i fodolaeth pan gafwyd galwad gan swyddog prosiect Treftadaeth a Diwylliant gwledig, Ela Fon Williams, am brosiectau i fynd i’r afael ag unigedd yn yr ardal wledig.

Dywedodd Ela Fon Williams,

“Roeddem yn chwilio am rywbeth gwahanol ac arloesol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghonwy wledig i leihau unigedd ac amddifadedd mewn cymunedau”.

“Pan gefais eu cais i ddechrau, roedden yn meddwl bod y prosiect yn ffordd wych o ymgysylltu pobl hŷn sydd wedi profi arwahanrwydd cymdeithasol”.

Nod y prosiect oedd dangos y gall dawns weithredu fel adnodd pwerus o ran mynd i’r afael â materion cymdeithasol sy’n digwydd mewn cymunedau gan gynnwys arwahanrwydd cymdeithasol, unigrwydd, datblygu perthnasoedd cymdeithasol, cynnal agweddau cadarnhaol at iaith a diwylliant, a chryfhau hunaniaeth a chydraddoldeb.

Cyflwynodd Dawns i Bawb gais i ddefnyddio perfformiad rhyngweithiol o’r enw “Dyddiau Braf / Golden Days”, yn seiliedig ar thema’r haf gan ddefnyddio elfennau amrywiol yn y perfformiad sy’n chwarae ar synhwyrau golwg, cyffyrddiad, sain ac arogl.

Cynigiwyd y perfformiadau i bum cartref preswyl drwy Gonwy wledig lle roedd arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn broblem benodol.

Y pum cartref a gymerodd ran yn y cynllun oedd; Hafan Gwydir Llanrwst, Yr Hen Ficerdy Pandy Tudur, Dol Awel Abergele, Llys y Coed Llanfairfechan a Bryn yr Eglwys Betws-y-Coed.

Dywedodd Catherine Young (cydlynydd Dawns i Bawb),

“Ar y cyfan, cafwyd croeso da iawn i’r prosiect. Gwelsom bobl yn symud a chreu gyda’i gilydd a rhyngweithio gyda’i gilydd mewn ffordd na fyddent yn ei wneud fel arfer.”

“Roedd y profiad cyfan yn annisgwyl i lawer ond rydym yn teimlo bod pawb wedi cael budd o gymryd rhan yn y profiad. Drwy ddawns, gallwn gynnig y cyfle i archwilio a rhoi sylw i faterion drwy ddod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd cadarnhaol, creadigol, grymusol nad yw’n barnu.”

Cymerodd cyfanswm o 106 o bobl ran yn y prosiect ar draws Conwy wledig, gan gynnwys preswylwyr a gwahoddedigion. O’r rheini, mae 3 o’r 5 o gartrefi wedi parhau eu perthynas gyda “Dawns i Bawb”, ac wedi cael cyfres o sesiynau dawns a symudiad rheolaidd.

Cafwyd adborth gwych i’r cynllun prawf gan breswylwyr yn y cartrefi gofal, gyda nifer yn sôn am gymaint o amrywiaeth o unigolion a gymerodd ran, sy’n dangos llwyddiant dod â phobl at ei gilydd. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elen Edwards
Rhif Ffôn:
01492 576670
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://ruralconwy.org.uk/