Disgrifiad o'r Prosiect

Prosiect i dreialu ffyrdd newydd o ddefnyddio ciosgs coch eiconig Giles Gilbert Scott yn ein hardaloedd cefn gwlad. Y ddau gynnig yw eu troi'n mannau rhoi gwybodaeth i dwristiaid ac yn fannau cadw diffibriliwr. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni? 

Gosod 5 man gwybodaeth i dwristiaid ac 1 diffibriliwr.

Ffôn Coch Segur

Pwy fydd yn elwa? 

Y cymunedau sy'n cymryd rhan. 

Heriau /gwersi mwyaf y prosiect? 

Roedd yn anodd weithiau cael cytundeb yn y cymunedau ynghylch beth i'w wneud â'r ciosgs a chan ei fod yn brosiect peilot, roedd angen llawer o gefnogaeth ar gymunedau. Mae swyddogion wedi gorfod treulio mwy o amser gyda phob cymuned ar y prosiect hwn nag ar brosiectau peilot eraill. Hefyd, roedd gweithio ar y prosiect hwn yn broses lawer arafach gan fod llawer o broblemau yr oedd yn rhaid eu datrys gyntaf e.e. roedd angen cael y gymuned i lofnodi'r lês oddi wrth BT, mae rhai blychau ffôn wedi'u rhestru ac roedd angen caniatâd i gynnal y gwaith, dim ond unwaith y mis y mae cynghorau cymuned yn cwrdd felly roedd penderfyniadau'n hir yn dod ac roedd angen llawer o waith ar rai blychau i wella'u cyflwr yn ddigon da i gymryd rhan yn y cynllun (e.e. drws neu golfachau neu gwareli newydd). 

Beth sy'n digwydd nesaf? 

Oherwydd y galw yn Sir Ddinbych, rydym wedi estyn y prosiect i gynnwys dau giosg arall. Byddwn yn hysbysebu lleoliad y blychau ffôn sydd wedi'u cwblhau ar wefan Cadwyn Clwyd. Byddwn yn cysylltu â grwpiau a chylchgronau beicio i ddweud bod gorsafoedd trwsio beiciau yn y blychau ffôn yn y Gogledd-ddwyrain.