Grŵp o barasitiaid yw Cryptosporidiwm sy’n heintio llwybrau gastroberfeddol nifer o rywogaethau, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, moch, ieir, ceffylau a cheirw, ond gall hefyd effeithio ar iechyd dynol. Felly, gall lleihau’r achosion o Gryptosporidiwm mewn da byw fod yn fantais ddeublyg, gan wella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid yn ogystal â lleihau halogiad yr amgylchedd, sy’n arwain at leihad mewn peryglon iechyd dynol.
Mae yna lefel isel o ddealltwriaeth o hyd ynghylch y dyfalbarhad, llwybrau trosglwyddo a’r opsiynau rheoli sydd ar gael ynglŷn â Chryptosporidiwm mewn defaid. Yn nodweddiadol, mae haint yn arwain at gyfradd marwolaeth uchel i ŵyn sydd o dan fis oed a diffyg cyflwr mewn ŵyn. Mae graddfa’r colledion cynhyrchu i’r diwydiant defaid o ganlyniad i Gryptosporidiwm yn anhysbys.
Mae pedwar ffermwr o Bowys wedi adnabod Cryptosporidiwm mewn lloi ac ŵyn ar eu ffermydd dros y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw nawr yn ymgymryd â phrosiect, sy’n para dwy flynedd, i ganfod presenoldeb a tharddleoedd y parasitiaid ar eu ffermydd. Maent yn gobeithio cynyddu eu dealltwriaeth o’r llwybrau lle mae’r parasitiaid yn cael eu trosglwyddo ymysg defaid, yn ogystal ag adnabod y camau y gallant gymryd i reoli ac atal y clefyd mewn defaid.
Cynllun y Prosiect
- Bydd pob fferm yn cael arolygiad bioddiogelwch gan eu milfeddyg lleol.
- Bydd rhai samplau ysgarthol yn cael eu cymryd o famogiaid i asesu lefelau Cryptosporidiwm yn y ddiadell fridio ar gychwyn y cyfnod ŵyna.
- Bydd isadeiledd a dyfrffosydd y ffermydd yn cael eu samplu a’u profi am Gryptosporidiwm. Bydd hyn yn cynnwys y siediau ŵyna, deunydd gorwedd a chyflenwadau porfa a dŵr.
Bydd yr ysgarthion o ŵyn newydd-anedig sy’n dangos y symptomau clinigol o gael Cryptosporidiwm (dolur rhydd, dadhydriad) yn cael eu samplu pan fyddant yn:
- 1 wythnos oed
- 10 diwrnod oed
- 2 wythnos oed
- 3-4 mis oed yn ystod diddyfnu
Bydd y fethodoleg samplu yn cael ei asesu ar ôl y flwyddyn gyntaf, a’i addasu yn ôl yr angen ar gyfer ailadrodd yn yr ail flwyddyn. O ganlyniad i’r arolygiad bioddiogelwch, samplu’r isadeiledd a samplu canlyniadau’r ŵyn a brofwyd, bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu dulliau i leihau cyffredinolrwydd Cryptosporidiwm ar y ffermydd.
Gallai’r opsiynau rheoli a argymhellir gynnwys:
- Glanhau adeiladau gyda stêm i ladd öosytau (cyfnod cwsg parasitiaid).
- Glanhau a diheintio siediau da byw yn fwy aml.
- Rhoi gwellt glân yn fwy aml.
- Rhoi anifeiliaid gyda dolur rhydd mewn cwarantîn.
- Sicrhau bod ŵyn yn cael digon o golostrwm o ansawdd uchel, yn gyflym.
Canlyniadau Posibl
- Adnabyddiaeth o darddleoedd posibl haint Cryptosporidiwm ar ffermydd.
- Datblygu dealltwriaeth o gyffredinolrwydd Cryptosporidiwm o fewn amgylchedd fferm.
- Dilyn dulliau a fydd yn rheoli neu’n atal heintio Cryptosporidiwm a’n rhannu’r dulliau hyn gyda’r diwydiant amaethyddol ehangach.
- Darparu argymhellion ynglŷn â’r dulliau ymyrraeth posibl i leihau risg a chyffredinolrwydd Cryptosporidiwm mewn dŵr wyneb, gan gyfeirio’n benodol at systemau defaid a gwartheg yng Nghymru.
Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.