Mae cynhyrchwyr cig gafr sydd â chyfraddau stocio isel sy’n troi gyrroedd allan i bori ar laswellt hir yn ysbeidiol yn dweud eu bod wedi gweld dipyn llai o heriau llyngyr.

Mae pedwar busnes cig gafr yng Nghymru wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect sy’n ceisio arwain at drefn dosio parasitiaid sy’n fwy effeithiol, yn sicrhau bod yr anifeiliaid yn magu mwy o bwysau bob dydd ac felly yn barod am y lladd-dy ynghynt.

Os gallant wneud hyn, bydd yn helpu i alluogi i’r sector cynhyrchu geifr cig yng Nghymru ddatblygu’n gynaliadwy. Mae’r pedwar ffermwr yn rhedeg gyrroedd yng nghanolbarth a de Cymru, gan ffermio 270 o eifr cig Boer rhyngddynt.

Daethant at ei gilydd ar gyfer un o brosiectau dwy flynedd EIP yng Nghymru* i gael mwy o eglurder ynglŷn â’r gyfradd gywir o ddos parasitiaid i’w rhoi i eifr.

Mae defaid a geifr yn anifeiliaid lletyol i’r un parasitiaid gastroberfeddol (GI). Ar hyn o bryd, prin yw’r cyfraddau dosio sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer trin geifr yn erbyn llyngyr; yn lle hynny, rydym yn tybio ei fod yn uwch na’r dos sy’n cael ei argymell ar gyfer defaid – sef 1.5 gwaith y dos ar gyfer Levamisole (dosys melyn grŵp 2 (2-LV)) a Macrocyclic lacton (dosys clir grŵp 3 (3-ML)), ddwywaith y dos ar gyfer monepantel (grŵp 4 (4-AD)) a rhwng 1.5-2 ar gyfer Benzimadazole (dosys gwyn grŵp 1 (1-BZ)).  

Gan fod geifr yn metaboleiddio tocsinau yn gyflymach na defaid, mae pryder y gallai hyn fod yn creu ymwrthedd i ddosys lladd llyngyr mewn bridiau geifr cig.

Mae’r prosiect EIP, a ddechreuodd flwyddyn yn ôl, yn sefydlu data sylfaenol gan ddefnyddio sgoriau cyflwr y corff (BCS), pwyso’n rheolaidd, cyfrifiadau wyau llyngyr (WECs) a chyfrifiadau wyau ysgarthol (FEC) cyfansawdd i weld a oes problemau ymwrthedd yn y gyrroedd.

Mae gan y pedair fferm ddulliau rheoli gwahanol. Mae gwell gwytnwch yn cael ei gofnodi yn y gyrroedd sy’n pori glaswellt hirach ac mewn grwpiau o wahanol oedrannau, meddai Kate Hovers, y milfeddyg sy’n gweithio gyda’r grŵp.

“Lle ceir cyfuniad o o leiaf ddau o’r canlynol – lefelau stocio isel, pori ysbeidiol neu laswellt hir – mae gyrroedd yn cofnodi her llyngyr llawer llai i’r geifr,” meddai.

Mae’r geifr sy’n cael eu rheoli ar dir sydd wedi’i stocio’n drwm ac sydd â hanes o wahanol grwpiau yn cylchdroi dros yr un bloc pori, yn dangos ymwrthedd i ddosys llyngyr clir (ML) a gwyn (BZ) ac maent yn ymateb yn effeithiol i Monepantel ar ddwywaith y dos sy’n cael ei argymell ar gyfer defaid.

Mae geifr sy’n cael eu stocio’n ysgafnach hefyd yn dangos ymwrthedd i BZ ac ML ac mae profion rhywogaethu yn mynd rhagddynt.

Oherwydd y gwelwyd bod geifr unigol yn cael effaith ar WECs cyfansawdd, gofynnir i’r ffermwyr fod yn gydwybodol wrth gofnodi BCS anifeiliaid unigol penodol a, phan geir anifail sy’n sefyll allan o’r grŵp, dylid nodi ei rif tag ar y sampl.

Mae’r grŵp EIP wedi elwa o hyfforddiant BCS ymarferol penodol i eifr cig gan Dr Yoav Alony-Gilboa o Friars Moor Vets, Dorset.

Gwelwyd bod BCS yn ddull hynod effeithiol o ganfod tueddiadau ac eithriadau  mewn preiddiau.

Pan fo’r gofod bwydo, iechyd, beichiogrwydd ac oedran anifeiliaid unigol yn gyfartal, gall BCS fod yn ddangosydd baich llyngyr mewn anifeiliaid unigol, neu ar draws y grŵp.

Un o aelodau’r grŵp yw Meg McNamara, sy’n ffermio yn Sir Benfro. Fe wnaeth hi a’i gŵr sefydlu gyr o 250 o eifr Boer ynghyd â geifr cadw ifanc dros bedair blynedd cyn lleihau’r gyr yn sylweddol ddiwedd 2019 i ganolbwyntio ar eu teulu ifanc.

Mae ganddynt fusnes llwyddiannus o hyd yn gwerthu stoc bridio ac yn cyflenwi cig gafr a mynnod gafr o ansawdd dda yn uniongyrchol i ddefnyddwyr ledled y DU.

Mae’r prosiect, meddai, yn helpu i lywio systemau dulliau rheoli amgen o safbwynt pori a rheoli endoparasitiaid.

I Debbie Church, sy’n ffermio 130 o eifr mewn system dan do gyda mynediad at chwe acer o dir pori yn Fronrhydd yn Sir Benfro, roedd y profion ymchwiliol a’r astudiaeth o’i system reoli wedi ei helpu i ddeall yn well achos ac effaith sylfaenol y broblem llyngyr yn ei gyr. 

Mae hi wedi sefydlu busnes llwyddiannus sy’n gwerthu’n uniongyrchol drwy siop ar y safle ac i gwsmeriaid amrywiol ledled y DU gan gynnwys unigolion a chogyddion bwytai sy’n teimlo’n angerddol am gynnyrch lleol a chynaliadwy.

Y ddau aelod arall o’r grwp ydi Andy Menzies a Sue Leyshon.

O ganlyniad i’r prosiect, dywed Andy, sy’n berchen ar tua 50 o eifr yn Llanerfyl, ei fod wedi gwneud ei strategaeth atal llyngyr yn fwy effeithlon ac, wrth wneud hynny, wedi lleihau ei gostau.

“Drwy ddefnyddio FEC a BCS rwyf wedi dysgu llawer am eifr Boer fel anifail sy’n cynhyrchu cig drwy bori,” meddai.

Mae Sue yn ffermio 19 gafr fenyw ac yn gwerthu’r holl stoc ifanc dros ben fel cig i’r cyhoedd drwy werthiannau preifat ac fel byrgyrs drwy safle bwyd brys ger Llangadog.

“Rydyn ni’n dysgu mwy wrth i’r prosiect fynd rhagddo ac yn codi cwestiynau ynglŷn â’r ffordd rydyn ni’n ffermio ein geifr,” meddai.

Fel rhan o gam nesaf y prosiect, cynhaliwyd FECs ar y geifr sydd yn eu llawn dwf yn y cyfnod cyn iddynt ddod â rhai bach hyd at ddechrau gwanwyn 2020; unwaith y bydd y mynnod geifr wedi cyrraedd tua chwe wythnos oed, bydd samplau ysgarthol yn cael eu cymryd ganddynt hwythau hefyd gydol y tymor llyngyr.

Bydd profion ar ôl trin hefyd yn dal i gael eu gwneud ar bob fferm i ganfod pa mor effeithiol yw’r cyfraddau dosio a ddefnyddiwyd.

“Bydd y prosiect hwn, gyda lwc, yn helpu i ddatblygu trefn dosio fwy effeithiol ar gyfer geifr cig ac yn sicrhau bod yr anifail yn ennill mwy o bwysau bob dydd ac felly yn barod am y lladd-dy ynghynt,” meddai Lynfa Davies.

“Os yw cig gafr yn dod yn fwy o gynnyrch prif ffrwd, mae’n hanfodol bod cynllun gofal iechyd i’w rheoli yn datblygu’n effeithiol.”

Mae EIP Cymru, a ddarperir gan Menter a Busnes a Cyswllt Ffermio, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.