New officer The Outdoors

Mae elusen sy’n cefnogi pobl i ddechrau gweithgareddau awyr agored fel diddordeb gydol-oes er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant wedi ehangu o’u canolfan yng Nghapel Curig i gwmpasu Cymru gyfan. 

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi penodi pedwar swyddog datblygu gweithgareddau awyr agored newydd i gwmpasu Canolbarth a De Cymru, diolch i gefnogaeth ariannol gan Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru.

Mae’r ENRaW yn cefnogi datblygiad a darpariaeth prosiectau sy’n gwneud cysylltiadau clir rhwng gwella gwytnwch ein adnoddau naturiol a llesiant. 

Darperir yr arian drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Wedi ei sefydlu yn Ngogledd Cymru ers dros 15 mlynedd, ehangodd y Bartneriaeth Awyr Agored i Ogledd Iwerddon, Yr Alban a Cymbria yn 2020

Swyddogion datblygu newydd yr elusen yw Sioned Thomas ar gyfer Rhanbarth Bae Abertawe, Brett Mahoney ar gyfer Gwent, Bethan Logan ar gyfer Canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) a Leila Connolly ar gyfer Canol De Cymru.

Maent yn gobeithio y bydd llwyddiant y cystadleuwyr Cymreig a Phrydeinig yn y Gemau Olympaidd yn Japan yr haf yma yn ysbrydoli mwy o bobl ledled Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau awyr agored. 

Byddant yn cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored newydd a chlybiau sy’n bodoli eisioes er mwyn ymgysylltu mwy o bobl mewn gweithgareddau sy’n amrywio o hwylio a dringo i gerdded. 

Mae prosiectau’r elusen yn datblygu hyder, sgiliau a gweithio fel tîm i ddarparu’r camau tuag at gyfleoedd newydd a bywydau iachach. Trwy wifoddoli, addysg, cyfranogiad, hyfforddiant a chyflogaeth, dywed fod lle i bawb i newid er daioni. 

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae ei brosiectau wedi darparu dros 100,000 o gyfleoedd gweithgareddau awyr agored ar gyfer iechyd a llesiant, wedi hyfforddi dros 4,000 o wirfoddolwyr, wedi helpu dros 500 o bobl diwaith yn ôl i mewn i waith, wedi sefydlu dros 80 o glybiau a grwpiau awyr agored cymunedol gyda dros 7,000 o aelodau’n cymryd rhan ac wedi darparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer mwy na 1,000 o bobl anabl. 

Cenhadaeth y Bartneriaeth Awyr Agored yw i wella cyfleoedd i bobl yng Nhgymru i gyrraedd eu potensial drwy weithgareddau awyr agored. 

Yn hapus i fod yn datblygu ac yn ehangu’r Bartneriaeth Awyr Agored yng Nghanolbarth a De Cymru, dywedodd y prif weithredydd Tracey Evans: “Rydyn ni wedi bod yn helpu pobl i wella eu bywydau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn Ngogledd Cymru ers dros 15 mlynedd ac wedi ehangu y llynedd i Ogledd Iwerddon, Swydd Aeron a Cymbria.

“Mae’n wych i fod yn ehangu’r gwasanaethau ledled Cymru erbyn hyn. Diolch enfawr i Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru am ddarparu cefnogaeth ariannol i alluogi i hyn ddigwydd.”

Sioned Thomas

Wedi ei chyffroi gan ei rôl newydd yn Rhanbarth Bae Abertawe, dywedodd Sioned: Yn dilyn dros flwyddyn o gyfnodau clo, diffyg digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon, rwy’n meddwl fod gwylio’r Gemau Olympaidd wedi dod â phawb yn ôl at ei gilydd ac yn gyffrous am chwaraeon unwaith eto.

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio’r chwaraeon newydd yn arbennig, yn cynnwys dringo, syrffio a sglefrfyrddio, ac yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i ddechrau gyda gweithgaredd newydd.”

Brett Mahoney

Dywedodd Brett: “Rwy’n awyddus i ddechrau arni ac i weithio gyda darparwyr, clybiau a grwpiau cymunedol lleol i wella’r cyfleoedd gweithgareddau awyr agored ar gyfer trigolion Gwent.

“Rwy’n gobeithio y bydd cyflwyniad dringo fel un o’r chwaraeon yn y Gemau Olympaidd yn ysbrydoli ac yn annog mwy o bobl leol i ddechrau dringo ac i gael mynediad i’r awyr agored. Mae’r buddion o ran iechyd a llesiant yn enfawr.”

Bethan Logan

Dywed Bethan ei bod hi’n gyffrous am ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored ac yn bwriadu hyrwyddo mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl yng Nghanolbarth Cymru i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. 

“Gobeithio fod pawb arall hefyd wedi’u gludo i’w sgriniau teledu yn ystod y Gemau Olympaidd, ac wedi eu hysbrydoli gan athletwyr cartref fel Hannah Mills sydd wedi dangos i ni yr hyn mae’n bosibl i’w gyflawni,” meddai.

“Roeddwn wrth fy modd yn gwylio ymddangosiad dringo fel un o’r chwaraeon yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, a hynny mewn ffurff reit gyffrous. Pwy a ŵyr, efallai y bydd y Shauna Coxsey nesaf yn dod o’r ochr yma i’r ffîn. 

“Ni ddaeth Team GB â medal aur adref yn y dringo, does neb yn dod yn agos i Janja Garnbret o Slofenia, ond ni allem ofyn am well model rôl ar gyfer merched a dynion yn y dringo.”

Leila Connolly

Dywed Leila ei bod hi’n ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored i ddatblygu chwaraeon, clybiau a gweithgareddau awyr agored yng Nghymru. 

“Gyda’r nifer o Gymry’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd eleni, rwy’n meddwl bod lefel yr ysbrydoliaeth yn uchel iawn,” meddai. “Gallwn weld athletwyr Cymreig fel Hannah Mills yn ennill yr aur.

“Teimlaf y bydd y llwyddiant Olympaidd yma’n parhau i ysgogi pobl Cymru mewn chwaraeon ac, yn bwysicach fyth, yn gwella mynediad i gael hwyl, i archwilio ac i ddiogelu ein gofodau gwyrdd ac arfordirol awyr agored enwog. 

“Cychwynodd Hannah Mills yng Nghlwb Hwylio Caerdydd pan ond yn wyth mlwydd oed. Mae’n wych bod yn rhan o sefydliad sy’n gweithio’n galed i agor drysau i’r awyr agored i bawb, achos mae pawb angen i rhywun agor y drws cyntaf yna, fel y gwnaeth Hannah Mills ei hun.”