Sustainable Farming and Our Land Consultation 2020

Datganiad Ysgrifenedig: Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Heddiw mae’n bleser gennyf lansio ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar gynigion ar gyfer cymorth amaethyddol i ffermwyr Cymru o 2021: https://llyw.cymru/ffermio-cynaliadwy-tir-symleiddio-cymorth-amaethyddol

Mae’r cynigion yn ceisio rhoi ar waith fframwaith dros dro yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chyn symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig. 

Mae tir Cymru yn bwysig i bob un ohonom. Mae’n cynnal bywoliaethau a chymunedau ac yn creu’r adnoddau naturiol rydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae’r rheini sy’n rheoli ein tir yn gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi, ein hamgylchedd, ein cymunedau gwledig a’n gwlad.

Mae gadael yr UE yn peri heriau sylweddol. Fodd bynnag, mae gennym gyfle unigryw i roi polisi pwrpasol ar gyfer Cymru ar waith sy’n cyflawni ar gyfer ein heconomi, ein cymdeithas a’n hamgylchedd naturiol.

Y llynedd gwnaeth y ddogfen ymgynghori ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ gyflwyno cynigion ar gyfer darparu sefydlogrwydd hirdymor ar gyfer ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir yng Nghymru. Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud hyd yn hyn ynghylch natur unrhyw gynllun newydd, ond mae’r gwaith hwn yn parhau ac mae llawer o randdeiliaid wrthi’n datblygu dull newydd, yn seiliedig ar y Fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Mae’r cynigion hyn yn sefydlu fframwaith dros dro symlach, yn seiliedig ar gyfraith yr UE a ddargedwir, sydd ar gael o dan y pwerau sydd mewn grym am gyfnod penodol sy’n mynd drwy Fil Amaethyddiaeth y DU, a byddant yn parhau i gefnogi cystadleurwydd ffermio a chynhyrchu bwyd, wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd, gwrthdroi dirywiad bioamrywiaethol, sicrhau lefelau uchel o iechyd a lles anifeiliaid a diogelu ein hadnoddau naturiol.

Rydw i yn ddiolchgar am gymorth ac egni’r holl randdeiliaid yng Nghymru sydd wedi dod at ei gilydd i helpu gyda’r gwaith hwn. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam nesaf wrth sicrhau ein bod yn symud i’r cynllun newydd mewn modd strwythuredig, a hynny dros nifer o flynyddoedd, er gwaethaf yr ansicrwydd parhaus ynghylch trefniadau masnachu ag Ewrop. 

Hoffwn i glywed eich barn ynghylch a fydd y cynigion yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion tymor hir. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Hydref 2020.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.