Make sure you prosper from pasture

Mae’r ffenest ymgeisio ar gyfer Rhagori ar Bori nawr ar agor, bydd ar agor tan 12pm, 9 Rhagfyr.

Cydnabyddir mai ardal y fferm yw’r ffactor cyntaf sy’n cyfyngu ar allbynnau busnes posibl. Y ffactor nesaf sy’n cyfyngu yw gallu perchennog y busnes i reoli’r ardal honno.
Mae porfeydd parhaol i’w gweld ym mhob rhan o Gymru; yn wir, mae'n cyfrif am fwy na 75% o gyfanswm y tir sy’n cael ei ffermio. Gall porfeydd a phorthiant o ansawdd da helpu ffermwyr i wella eu cynnyrch llaeth a chynnydd pwysau byw.

Mae Rhagori ar Bori yn rhaglen fer gyda 3 lefel, sef lefel Mynediad, Canolradd ac Uwch, a fydd yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder wrth reoli tir glas. Gellir symud ymlaen i lefel nesaf y rhaglen ar ôl cyflawni’r lefel cynt yn llwyddiannus.

Mae ffermwyr o bob lefel gwybodaeth yn cael cyfle i gyflwyno newidiadau i’w busnesau. Gall hyn arwain tuag at broffidioldeb a chynaliadwyedd gwell o fewn eu systemau fferm. Gwahoddir unigolion i benderfynu pa lefel sy’n gweddu orau ar eu cyfer hwy a’u busnes. Mae’r ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i ystyried rhaglen lefel fynediad i ddechrau, sydd wedi ei greu ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried pa newidiadau allant gyflwyno i’w busnesau er mwyn cynyddu proffidioldeb.

Mae Rhagori ar Bori ar lefel Mynediad yn gyfres o bum digwyddiad undydd, gyda phob un wedi’i dargedu ar agwedd ragarweiniol benodol o ddefnydd glaswellt: Deall eich busnes, pridd a systemau cynaliadwy, glaswelltau, perlysiau a chnydau porthiant, rheolaeth pori ar gyfer busnes proffidiol, iechyd a geneteg anifeiliaid. 
Dywed Patrick Loxdale, aelod lefel Mynediad:

“Mae Rhagori ar Bori wedi bod yn agoriad llygad. Roedd wedi cael ei drefnu’n dda ac yn rhedeg yn llyfn. Roedd ansawdd y siaradwyr a’u cyflwyniadau’n berffaith, ac roedd y pwnc yn berthnasol ac yn ddiddorol iawn.”

Mae modd i aelodau llwyddiannus lefel Mynediad symud ymlaen tuag at lefel Ganolradd, sef Meistr ar Borfa.

Mae’r lefel Canolradd, Meistr ar Borfa yn gwrs preswyl deuddydd ar gyfer ffermwyr bîff, defaid neu laeth sydd yn awyddus i wella eu dealltwriaeth o reoli porfa a dysgu am y wybodaeth a’r technegau diweddaraf sydd ar gael.

Mae modd i aelodau llwyddiannus lefel Ganolradd symud ymlaen tuag at lefel Uwch.

Roedd saith grŵp rhanbarthol Uwch ar draws Cymru, oedd yn cael eu hwyluso a’u cadeirio gan ymgynghorydd Precision Grazing.

Cafodd cyfarfodydd eu cynnal ar ffermydd yr aelodau, gan ganolbwyntio ar bynciau allweddol oedd yn dymhorol ac yn seiliedig ar ddata. Roedd gofyn i bob aelod ddarparu data am dwf eu glaswellt, gorchudd glaswellt cyfartalog, y gofyn am laswellt ac unrhyw ddata sy’n berthnasol i bwnc trafod y grŵp er mwyn meincnodi a hwyluso trafodaeth ar arfer dda. 

Dywed Rhidian Glyn, aelod grŵp Uwch:

“Mae’r gefnogaeth a ddarparwyd fel rhan o’r rhaglen Rhagori ar Bori wedi rhoi’r hyder i mi allu gwneud penderfyniadau busnes pwysig yn ymwneud â chyfradd stocio a chyllidebu porthiant ar gyfer y gaeaf, ac mae hynny wedi effeithio’n gadarnhaol ar effeithlonrwydd y fferm.”

Bydd angen i bob ymgeisydd sicrhau bod gan y busnes Gynllun Rheoli Maetholion cyfredol (heb fod dros 5 mlwydd oed). 

Mae’r ffenest ymgeisio ar agor tan 12pm 09/12/2019 Gwnewch y mwyaf o’r cyfle! Er mwyn datgan diddordeb, ewch i lenwi ffurflen ar www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu rhowch alwad ffôn i’r Ganolfan Wasanaeth: 08456 000 813

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.