Taliadau Gwledig Cymru (RPW): Diweddariad gwasanaeth - Canllawiau Llawn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor a gwybodaeth ar COVID-19 ar gyfer :
- unigolion
- busnesau a chyflogwyr
- y sectorau cymdeithasol, cymunedol a gofal preswyl
- y sector addysg.
Mae’r cyngor hwn i’w weld yn https://llyw.cymru/coronafeirws
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cynllun gweithredu ar sut mae’r DU wedi cynllunio a pha gamau pellach fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r coronafeirws (COVID-19).
Diben y canllawiau uchod yw helpu unigolion a busnesau i baratoi ar gyfer lleihau risgiau ac effaith ac rydym yn argymell, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, y dylai’r rheini a allai elwa arnynt eu darllen.
Mae argyfwng byd-eang COVID 19 yn effeithio ar bawb. Ein blaenoriaeth gyntaf yw cynnal iechyd y cyhoedd yn unol â chyngor y Llywodraeth, tra’n anelu at barhau i wasanaethu ein cwsmeriaid, drwy y cynlluniau grant amrywiol a gwahanol sydd gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-20.
Mae Taliadau Gwledig Cymru yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn datblygu’n gyflym iawn gyda’r cyngor yn debygol o newid ar fyr-rybydd.
Gan ystyried hyn, byddwn yn ceisio gwneud penderfyniadau cyn gynted â phosibl a fesul achos, tra’n ystyried pob cyngor swyddogol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os ydych yn gweld bod coronavirus (COVID-19) yn cael effaith ar eich gallu i gyflawni eich prosiect, cysylltwch â ni ar unwaith.
Er mwyn helpu i ddelio â’r argyfwng presennol rydym wedi ail-agor blwch negeseuon e-bost Yr Uned Rheoli Cynlluniau: SMU@gov.wales
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio y cyfeiriad e-bost ar gyfer pob gohebiaeth gan nodi yn glir deitl y prosiect a nod adnabod yr achos ble yn bosibl, gan ei bod yn bosibl na fydd staff unigol ar gael ar fyr-rybydd.
Canolfan Cyswllt Cwsmeriad
Mae canolfan gyswllt RPW ar agor fel arfer i dderbyn galwadau ffôn yn ystod yr oriau canlynol;
- Dydd Llun – Iau 8.30am i 5pm
- Dydd Gwener 8.30am i 4.30pm
Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i alwadau am hawliadau a chroniadau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Dylid cyflwyno pob ymholiad arall am brosiectau yn ysgrifenedig, drwy Flwch Negeseuon E-bost SMU.