Romeo Sarra

Mae Romeo Sarra yn ffermwr ail genhedlaeth a anwyd yn Sir Benfro, a phenderfynodd flynyddoedd yn ôl nad oedd yn bwriadu ymroi ei holl fywyd gwaith i odro. Yn raddol, dechreuodd leihau’r niferoedd o dda byw a rhoi’r gorau i odro gan ddechrau arallgyfeirio i arddwriaeth cae agored.     

Dros y 24 blynedd diwethaf mae Mr Sarra a’i deulu wedi bod yn cynhyrchu llysiau organig ar raddfa cae agored ac er bod y busnes yn ffynnu, mae bellach yn edrych ymlaen at leihau ei gyfraniad dyddiol i’r fenter. Wrth edrych at y dyfodol, trodd at raglen Mentro Cyswllt Ffermio i’w helpu i ganfod partner busnes ifanc newydd ar gyfer Fferm Organig Peepout. Mae’n gobeithio canfod unigolyn a fydd yn hapus i weithio ochr yn ochr ag ef ar gyfnod prawf i ddechrau, gyda’r gobaith y bydd yr unigolyn yn cymryd yr awenau rhyw ddiwrnod. Mae Mentro yn paru ffermwyr a thirfeddianwyr sydd am gamu yn ôl o’r diwydiant gyda’r rheiny sy’n edrych am gael troed yn y drws neu gyfle busnes newydd.

Yn y 90au cynnar, prynodd Mr Sarra dyddyn 40 erw ym Mhortfieldgate ger Hwlffordd gyda’r bwriad o dyfu grawnfwyd a thatws. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd newid y fferm i fod yn un organig. Mae’r cyfuniad llwyddiannus hwn wedi ei alluogi i dyfu, pacio a gwerthu ystod eang o gnydau llysiau gwraidd, cnydau bresych a chnydau salad yn yr haf i nifer gynyddol o brynwyr arbenigol. Ar hyn o bryd, mae’n gwerthu’n bennaf trwy gynllun bocsys sydd wedi’u teilwra, yn lleol ac ar goridor yr M4 gan roi’r dewis o ddosbarthu neu gasglu, yn ogystal â gwerthu niferoedd mwy i gyfanwerthwr lleol yn Sir Benfro. 

“Rydw i wedi datblygu’r busnes yn raddol, blwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ennill cwsmeriaid rheolaidd o unigolion sy’n gwerthfawrogi’r blas heb ei ail a tharddiad y cynnyrch ffres sydd wedi’u tyfu’n organig ar fferm leol.

“Rwy’n cynnig profiad sy’n fwy na beth all siopau mawr eu cynnig ac am bris cystadleuol,”

Dywedodd Mr Sarra.

Ar ôl sylweddoli’n gynnar iawn nad oedd am gystadlu na delio’n uniongyrchol gydag unedau pecynnu ar raddfa fawr ac archfarchnadoedd na fyddai wedi gadael iddo leisio barn ynglŷn â’r cnydau fyddai’n cael eu tyfu na’r prisiau yn ôl Mr Sarra, ei strategaeth gwerthu yn gynnar iawn oedd canolbwyntio ar hyrwyddo’r agwedd ‘iach, blasus a gwerth da’, trwy argymhellion personol cwsmeriaid yn bennaf. Serch hynny, dros y blynyddoedd diweddaraf mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi trawsnewid ei ddull o farchnata sydd rhoi mwy o amser iddo ddatblygu’r busnes a chynnig ystod ehangach o gynnyrch.

“Rydym bellach yn dibynnu’n bennaf ar dudalen Facebook Peepout Organic Farm, ble rydym yn postio lluniau a rhestr prisiau popeth sydd ar gael yn gyson, sy’n amrywio yn ôl adeg y flwyddyn a’r tywydd.”

Heddiw, mae Mr Sarra yn rheoli’r tir ar sail gylchdro ac mae’n dweud fod hyd at deg erw o dir bellach wedi’u neilltuo i fathau gwahanol o datw, moron, pannas, swêj a chnydau gwraidd eraill, ynghyd â chnydau bresych gan gynnwys bresych, blodfresych, brocoli a bresych deiliog. Mae cnydau’r haf yn cynnwys amrywiaeth o bys a ffa gan gynnwys ffa Ffrengig a ffa dringo, cnydau salad, courgettes, india-corn a llawer mwy.  

Mae Mr Sarra eisoes wedi prynu dau dwnnel polythen ac yn dweud y bydd y tymor tyfu’n ehangu sylweddol trwy gydol y flwyddyn unwaith y bydd wedi cyflwyno partner newydd i’r busnes a chodi’r ddau dwnnel. Mae posibilrwydd o greu lle i swyddfa ac ar gyfer pecynnu, a bydd peiriannau’n ymwneud â garddwriaeth yn cael eu darparu. Mae’n credu y dylai’r partner busnes newydd fedru bwrw ati’n syth a dywedodd fod yna ddigon o gyfleoedd i ddatblygu’r busnes ymhellach.  

“Bydd angen i’r person rwy’n chwilio amdano fod yn gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol a chael rhywfaint o brofiad o arddwriaeth, ac o dyfu cnydau mewn twnnel polythen yn ddelfrydol, oherwydd bydd y gwaith yn cynnwys pob elfen o’r broses tyfu a gwerthu, o gynhyrchu hyd at gynaeafu, pecynnu, marchnata a dosbarthu.” 

Mae hefyd wedi dweud ei fod wrth law i gynnig cyn lleied neu gymaint o arweiniad a chymorth a fydd ei angen ar unrhyw adeg a’i fod yn agored i weithio gyda thyfwr mwy profiadol sydd â’i syniadau a’i gynigion ei hun o bosib.  Dywedodd y gellid cynnwys mwy o dir yng nghytundeb Mentro os yw’r ddau barti’n teimlo y byddai o fantais ar ôl y cyfnod prawf. Nid oes llety ar gael ar y safle ar hyn o bryd felly byddai’r cyfle hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n byw yn yr ardal neu’n barod i symud.
 
Dywedodd Mr Sarra hefyd fod yna nifer o opsiynau ar gael yn lleol am bris rhesymol.

Yn ogystal â chefnogi unigolion drwy’r camau cychwynnol o ganfod partneriaid busnes addas, mae rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio yn darparu pecyn integredig o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth busnes a chyngor cyfreithiol arbenigol sydd wedi’i deilwra i ofynion busnes a gofynion personol y ddau barti.

Mae rhaglen Mentro yn casglu data oddi wrth ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n ystyried menter ar y cyd, a data gan gystadleuwyr posib fel newydd ddyfodiaid, gweithwyr fferm, bugeiliaid neu’r rheiny sydd eisoes yn ymwneud â ffermio neu arddwriaeth ond sydd am dyfu neu ddatblygu busnes.  

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle am fenter ar y cyd gyda Mr Sarra, neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Delyth Jones, Swyddog Mentro ar gyfer de Cymru ar 01970 631422 neu ar e-bost: Delyth.jones@menterabusnes.co.uk. Gallwch hefyd ymweld â www.llyw.cymru/cyswlltffermio 

Gwybodaeth gefndirol:


Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.