Amdanom Ni
Mae Sgrin Cymru’n dîm bach gwybodus ac ymroddedig o fewn sector y diwydiannau Creadigol yn Llywodraeth Cymru. Rydym wedi helpu miloedd o gynyrchiadau dros y blynyddoedd ers cael ein sefydlu fel Comisiwn Sgrin Cymru yn wreiddiol yn 2002. Cysylltwch â ni os ydych yn chwilio am unrhyw gyngor am leoliadau neu ffilmio cyffredinol yng Nghymru.
Mae Sgrin Cymru’n gweithio gyda phrosiectau rhyngwladol, brodorol bach a mawr. Rydym yn darparu cymorth amhrisiadwy i gynyrchiadau sy’n ffilmio yng Nghymru yn cynnwys ffilmiau byr, prif ffilmiau, hysbysebion, dramâu a saethiadau ffotograffiaeth.
Help eithriadol o fawr i unrhyw gwmni cynhyrchu yn edrych i ffilmio ar leoliad yng Nghymru. Mae’r cysylltiadau sydd ganddynt efo’r cynghorau, eu gwybodaeth o’r rhanbarthau a’r gallu iddynt gynnig opsiynau ac awgrymiadau am leoliadau annhebygol yn fendith lwyr.
Wordley Productions
Gallwn helpu efo:
- Cynorthwyo gyda sgowtio ledled Cymru (dibynnol ar adnoddau) gall cynyrchiadau hefyd cyrchu amrywiaeth o reolwyr lleoliadau/sgowtiaid o’n cronfa ddata a’u cyflogi ar raddfa diwrnod i’w gytuno o flaen llaw.
- Ymchwilio lleoliadau gofynnol..
- Rhoi cymorth gyda chanfod criw llawrydd.
- Helpu cael o hyd i gwmnïau cyfleusterau (Arlwyo, golau, llogi offer ayyb).
- Helpu cael o hyd i lety (gwestai, fflatiau wedi eu gwasanaethu ayyb).
- Cysylltu efo perchnogion lleoliadau perthnasol er mwyn derbyn caniatâd.
- Cysylltu efo perchnogion tir, fel e.e. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdodau Lleol ayyb.
- Cysylltu efo’r Heddlu lleol ayyb er mwyn helpu gyda logisteg fel cau ffyrdd.
- Hyrwyddo gofynion eraill trwy ein rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol.
Cysylltwch â ni:
(t): +44 (0) 300 025 2341