Cymru'n efelychu lleoliad arall

Mae Cymru wedi cael ei efelychu fel lleoliadau eraill o amgylch y byd, ac hyd yn oed fel planedau eraill.

  • Mae Parc Margam yn safle 850 erw o barc gwledig efo’i blas Neo-gothig ac abaty yn deillio o’r ddeuddegfed ganrif. Mae’n cael ei efelychu hefyd fel rhan o Dwsgani heulog y Dadeni pan maent yn ffilmio’r ddrama boblogaidd Da Vinci’s Demons
  • Yn 2013 cafodd cefngwlad prydferth Sir Gâr ei efelychu fel bryniau Lloegr yn y ffilm How I Live Now.
  • Yn 2011 cafodd Windsor Place yng nghanol Caerdydd ei efelychu fel Llundain yn y 1980au.
  • Ffilmiwyd golegfeydd olaf y ffilm 28 Weeks Later yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod cyfnod ail adeiladu’r Wembley newydd yn 2006
  • Cafodd Traeth Penbryn yng Ngheredigion ei efelychu fel Gogledd Korea yn yr 20fed ffilm Bond, Die Another Day, cyfarwyddwyd gan Lee Tamahori ac yn serennu Pierce Brosnan.
  • Cafodd Castell Caerffili ei efelychu fel Llundain yn ystod y Tan Mawr yn y ffilm Restoration a oedd yn serennu Robert Downey Jr and Meg Ryan.
  • Mae Doctor Who wedi elwa o’r amrywiaeth enfawr o leoliadau sy’n bodoli yn Ne Ddwyrain Cymru. Defnyddiwyd adeiladau eiconig sef Gerddi Dyffryn fel Palas Versailles yn 'The Girl Who Waited' / Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel Canolfan Hydroponeg yn 'The Waters of Mars' / Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel Musée D’Orsay ym Mharis yn 'Vincent and the Doctor.'
  • Mae adeiladau godidog Sgwar Mount Stuart wedi cael eu defnyddio i efelychu strydoedd Llundain mewn nifer o gyfresi Doctor Who a Sherlock.
  • Mae gogoniant enfawr Eryri wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol gan wneuthurwyr ffilm i efelychu lleoliadau pell egsotig fel China yn Lara Croft Tomb Raider:The Cradle of Life (2003) a The Inn of the Sixth Happiness (1958), Kazakhstan yn The World Is Not Enough(1999) a'r Khyber Pass yn Carry On Up The Khyber (1968).
  • Defnyddiwyd Traeth Penrhos, goleudy Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn a Phorthdinllaen i efelychu arfordir Yr Alban yn y ffilm Half Light a oedd yn serennu Demi Moore yn 2005.