Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd.
Beth yw’r Addewid Twf Gwyrdd?
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.
Mae’n cynnig ystod o weithredoedd syml ac ymarferol a all eu cymryd, fel lleihau defnydd o gerbyd, cynyddu effeithlonrwydd dŵr ac ynni, a gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol a fydd yn helpu cwmnïau i ddod yn fwy effeithlon, datgarboneiddio ac ennill busnes newydd.
Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad cynaliadwy, gan gynnwys:
- Gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol
- Logisteg a thrafnidiaeth effeithlon
- Defnyddio tir, ynni a dŵr yn ddoeth
- Mesur effeithiau eich busnes
- Gwella llesiant staff a’ch cymuned leol
- Defnyddio pecynnau addas
- Atal gwastraff a llygredd
- Adolygu cynnyrch a gwasanaethau
- Hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy
Pam ddylai fy musnes gymryd rhan?
Bydd llofnodi’r Addewid Twf Gwrdd yn helpu eich busnes i:
- Gynyddu ei siawns o ennill tendrau
- Cynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau buddsoddiad
- Arbed arian yn hirdymor
- Dod yn fwy effeithlon a gwella ei wytnwch
- Gwella delwedd y brand ac ennill mantais gystadleuol
- Gosod arfer gorau i eraill ei ddilyn
Byddwch hefyd yn ymuno â chymuned gynyddol o dros 2,150 o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth cynaliadwy gan Busnes Cymru, gan helpu Cymru i ddatgarboneiddio a phontio at ddyfodol carbon isel.
Cymorth Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru’n cynnig mynediad at wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn rhithiol, yn ogystal â chymorth arbenigol.
Mae gweminarau a gweithdai rhithiol yn cael eu cynnal yn rheolaidd i helpu gydag ystod o faterion busnes gan gynnig mynediad at arbenigedd annibynnol a diduedd.
Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy.
Rhagor o wybodaeth
Astudiaeth Achos - Excell Rail
Mae Excell Rail, a gafodd ei sefydlu yn 2009 gan Daniel Dummer, yn ddarparwr gwasanaethau recriwtio annibynnol yn y sector rheilffordd. Ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru, llofnododd Daniel yr Addewid Twf Gwyrdd sydd wedi’i alluogi i:
- Nodi wyth maes blaenoriaeth allweddol i’w datblygu
- Haneru’r defnydd o danwydd trafnidiaeth ac allyriadau carbon
- Datblygu cadwyn gyflenwi sy'n 100% lleol
- Gwella eu proffil tendro drwy arddangos arferion cynaliadwyedd da