Ynglŷn â’r canllawiau hyn
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i awdurdodau lleol i gynorthwyo gyda gweinyddu rhyddhad ardrethi annomestig. I Gymru yn unig y mae’n gymwys ac nid yw’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau penodol.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn a’r ddeddfwriaeth berthnasol at Lywodraeth Cymru i’r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Mae ein tudalennau gwe Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau y rhyddhadau sydd ar gael.
Cyflwyniad
Nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i dalwyr ardrethi gyflwyno ceisiadau ysgrifenedig am ryddhad. Fodd bynnag, mae’n arfer da i awdurdodau lleol ddyfarnu rhyddhad ar sail prosesau gwneud penderfyniadau tryloyw ac atebol.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r gofynion statudol ac arfer da mewn perthynas â’r canlynol:
- gwybodaeth a roddir i dalwyr ardrethi;
- derbyn a chydnabod ceisiadau;
- rhoi gwybod am benderfyniadau;
- adolygu rhyddhad a’i dynnu’n ôl; a
- rheoli cymhorthdal.
Gwybodaeth a roddir i dalwyr ardrethi
Nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i gynlluniau rhyddhad. Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio ag arfer da, dylai awdurdodau lleol roi gwybodaeth ar dudalennau gwe perthnasol am y cynlluniau rhyddhad sydd ar gael, meini prawf cymhwysedd, unrhyw bolisïau cyffredinol sydd gan yr awdurdod lleol a hefyd fanylion am arolygiadau, apeliadau a sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.
Dylai fod modd i ymgeiswyr gwblhau’r broses ymgeisio ar-lein naill ai drwy gwblhau ffurflen ar-lein, neu drwy lawrlwytho cais o’r wefan. Dylai awdurdodau lleol hefyd anfon copïau papur o’r ffurflen gais os gofynnir am hynny neu/a chynnig cymorth pan fo’i angen i ymgeiswyr sy’n llenwi’r ffurflen ar-lein.
Dylai awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth a thystiolaeth ategol briodol sy’n berthnasol i’w cais. Gall hyn, er enghraifft, gynnwys tystiolaeth o statws elusennol, cyfrifon archwiliedig, cyfansoddiadau ysgrifenedig, manylion aelodaeth, fel sy’n briodol.
Weithiau, mae sefydliadau yn methu â hysbysu awdurdodau lleol am newid mewn amgylchiadau, yn enwedig os ydynt o’r farn y gallai arwain at fil ardrethi uwch. Dylai awdurdodau lleol bwysleisio bod dyletswydd ar y rhai sy’n cael rhyddhad i hysbysu’r awdurdod lleol am unrhyw newid mewn amgylchiadau.
Derbyn a chydnabod ceisiadau
Dylai awdurdodau lleol gydnabod pob cais am ryddhad ardrethi yn unol â’u targedau arferol ar gyfer ymateb i ohebiaeth gan dalwyr ardrethi. Dylai cydnabyddiaethau hysbysu talwyr ardrethi pryd y bydd unrhyw benderfyniad yn debygol o gael ei wneud, ac am y posibilrwydd y bydd angen i’r awdurdod lleol ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau pellach.
Bydd gan awdurdodau lleol eu gweithdrefnau sefydledig eisoes ar gyfer penderfynu ar geisiadau am ryddhad ardrethi. Bydd llawer yn dirprwyo pwerau i wneud penderfyniadau i swyddogion unigol neu bwyllgorau gyda chylch gorchwyl y cytunir arno.
Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol wedi deall canllawiau ar benderfynu p’un a ddylid rhoi rhyddhad ac ar benderfynu swm unrhyw ryddhad a roddir.
Ym mhob achos, dylai awdurdod lleol allu dangos ei fod wedi ystyried achos yn ôl ei deilyngdod.
Rhoi gwybod am benderfyniadau
Dylai awdurdodau lleol hysbysu pob ymgeisydd am ryddhad ardrethi am eu penderfyniad yn ysgrifenedig. Lle y rhoddir rhyddhad, dylai’r llythyr nodi:
- swm y rhyddhad a roddir ac o ba ddyddiad y’i rhoddwyd;
- os rhoddwyd rhyddhad am gyfnod penodol, y dyddiad y daw i ben;
- y swm newydd y gellir ei godi;
- manylion unrhyw ddyddiadau adolygu arfaethedig a’r rhybudd a roddir cyn bod lefel y rhyddhad a roddwyd yn cael ei newid;
- gofyniad y dylai’r ymgeisydd hysbysu’r awdurdod lleol am unrhyw newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar yr hawl i gael rhyddhad.
Dylai awdurdodau lleol roi esboniad o’u penderfyniad ym mhob achos lle y caiff rhyddhad ei wrthod neu ei gyfyngu i swm sy’n llai na’r hyn y gwnaed cais amdano.
Gall gweithredu fel uchod fod yn arbennig o bwysig. Yn gyntaf, i sicrhau bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r rhesymau dros y penderfyniad ac yn ail, i sicrhau y gall sefydliad, os dymuna, gymryd camau i gydymffurfio â’r meini prawf a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol ar gyfer rhoi rhyddhad. Mae’n un o egwyddorion cyfraith gyhoeddus y dylai awdurdod lleol roi rhesymau dros benderfyniad ac, os na wneir hynny, mae mwy o risg y caiff penderfyniad ei adolygu.
Dylid hefyd hysbysu’r talwr ardrethi ar yr un pryd am unrhyw hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.
Adolygu rhyddhad a’i dynnu’n ôl
Mae’n arfer da i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth wedi’i diweddaru bob blwyddyn gan dalwyr trethi am y defnydd presennol o’r eiddo a ph’un a fu unrhyw newid mewn amgylchiadau. Pan fydd awdurdodau lleol yn amau bod newid wedi digwydd ond nad yw’r talwr ardrethi wedi’u hysbysu amdano, dylid cysylltu â’r talwr ardrethi i ofyn am wybodaeth. Mae’n bwysig gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y talwr ardrethi yn dal i fod yn gymwys i gael rhyddhad.
Gall rhai awdurdodau lleol ofyn i ymgeiswyr wneud cais am ryddhad bob blwyddyn neu ddwywaith y flwyddyn. Gall eraill anfon llythyr wedi’i gyfeirio at y talwr ardrethi cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd, yn gofyn iddo gadarnhau’r defnydd presennol o’r eiddo.
Os na fydd awdurdod lleol yn cael ymateb i unrhyw gais am wybodaeth am y defnydd presennol o’r eiddo, gall ddewis cynnal archwiliad gweladwy o’r eiddo. Os ymddengys nad yw’r eiddo yn cael ei ddefnyddio mwyach at ddibenion y dyfarnwyd rhyddhad yn wreiddiol ar eu cyfer, gall awdurdod lleol anfon llythyr ffurfiol yn nodi ei fwriad i dynnu’r rhyddhad yn ôl.
Rheoli cymorthdaliadau
Dechreuodd cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU ar 4 Ionawr 2023, pan ddaeth Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 i rym. Mae canllawiau pellach ar wefan GOV.UK.
I gael cyngor pellach, cysylltwch â’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau yn Llywodraeth Cymru drwy’r manylion isod:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru