BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 June 2017
Diweddarwyd diwethaf:
25 October 2024

Cynnwys

1. Trosolwg

Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Os ydych yn talu ardrethi busnes, fe all eich eiddo fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes.

Mae rhai adeiladau wedi eu heithrio rhag ardrethi busnes, ac eraill yn gymwys i gael rhyddhad gan Lywodraeth Cymru.

Fe all eich awdurdod lleol hefyd ganiatáu rhyddhad caledi i fusnesau os yw’n credu y byddai o fudd i’r gymuned leol i wneud hynny.

Mae canllawiau cyffredinol i gefnogi awdurdodau lleol wrth weinyddu rhyddhadau ar gael
yma.

2. Sut y caiff eich ardrethi busnes eu cyfrifo

Caiff eich ardrethi busnes eu cyfrifo trwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eiddo a'i luosogi gyda 'lluosydd' (neu'r 'tâl yn y bunt') cyfredol ar gyfer ardrethi annomestig. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 y lluosydd yw 0.562.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sydd yn prisio eiddo ac yn pennu'r Gwerth Ardrethol. 

Os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir ac eisiau gwneud apêl, cysylltwch â’r VOA. Os na fedrwch chi a’r VOA ddod i gytundeb gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Mae’r eiddo sydd wedi’u heithrio o dalu ardrethi busnes yn cynnwys:

  • Tir ac adeiladau amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
  • adeiladau a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer llesiant pobl anabl
  • adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoliad crefyddol cyhoeddus a neuaddau eglwys

Gallwch ddod o hyd i restr o’r mathau o eiddo sydd wedi’u heithrio yn Atodlen 5 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

3. Mathau o rhyddhad ardrethi

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-25

Dylid gwneud pob cais am ryddhad i'ch awdurdod lleol. Bydd dolenni i ffurflenni cais perthnasol yr awdurdod lleol ar gael yma ar ôl i'r cynllun gael ei lansio ar 1 Ebrill 2024. 

Yn 2024-25, bydd Llywodraeth Cymru’n darparu gwerth £78m o gymorth ardrethi annomestig wedi’i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Bydd busnesau’n gymwys i gael 40% i ffwrdd o’u hatebolrwydd am y flwyddyn ariannol. Bydd swm y rhyddhad o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn uchafswm o £110,000 i bob busnes ar draws Cymru.

Gweler y canllawiau yma ar y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2024-25.

Rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%; 
  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa a fydd yn gostwng o 100% i sero; ac
  • yn amodol ar uchafswm o ddau eiddo fesul busnes ym mhob awdurdod lleol.

Mae cymorth wedi’i deilwra ar gael ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig a swyddfeydd post.

Mae’r canllawiau llawn ar Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru ar gael yma.

Rhyddhad Ardrethi Elusennol

Os ydy’ch eiddo wedi’i feddiannu gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol, ‘rydych yn gymwys yn awtomatig am ryddhad ardrethi gorfodol o 80%.

Fe allech fod yn gymwys am rhyddhad o hyd at 100% yn ôl disgresiwn y cyngor lleol os ydy’ch eiddo wedi’i feddiannu gan gorff di-elw ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymwys.

Mae canllawiau ar Ryddhad Ardrethi Elusennol ar gael yma.

Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag

Nid oes angen talu ardrethi busnes ar eiddo busnes gwag am dri mis ar ôl i'r eiddo ddod yn anghyfannedd.

Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu eiddo â gwerth ardrethol sy'n llai na lefel benodol.  
Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn gorfod talu'r bil ardrethi busnes llawn.
Dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol pan ddaw eiddo'n wag a hefyd pan fydd yn cael ei ail-feddiannu.

Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag ar gael yma.

Rhyddhad Trosiannol

O 1 Ebrill 2023, yn dilyn ymarfer ailbrisio, mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r holl drethdalwyr y mae ei atebolrwydd yn cynyddu o fwy na £300, o ganlyniad i ailbrisio, gyda rhyddhad trosiannol. Bydd unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig o ganlyniad i’r ailbrisio yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd.

Bydd trethdalwyr yn talu 33% o'u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu hatebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad hwn, gan gefnogi pob maes o'r sylfaen drethu drwy gynllun trosiannol cyson a syml. 

Canllawiau ar gyfer Rhyddhad Trosiannol yn cael yma.

Rhyddhad Gwelliannau

O 1 Ebrill 2024, mae Llywodraeth Cymru yn darparu Rhyddhad Gwelliannau i dalwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes. Bydd y rhyddhad yn gohirio effaith y byddai cynnydd mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i'r gwelliannau hynny yn ei chael ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig am gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn sicrhau y gall busnesau a thalwyr ardrethi eraill ddechrau gweld manteision y gwelliannau a wneir ganddynt, cyn i'w bil ardrethi annomestig gynyddu.

Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Gwelliannau ar gael yma.

Rhyddhad Rhwydweithiau Gwres

O 1 Ebrill 2024, mae Llywodraeth Cymru yn darparu Rhyddhad Rhwydweithiau Gwres.  Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi datblygiad a thwf y sector hwn a ragwelir dros y degawd nesaf, drwy helpu i leihau'r rhwystrau ariannol i sefydlu rhwydweithiau. Bwriad hyn, yn ei dro, yw helpu i gefnogi'r broses o symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil a datgarboneiddio gwres. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad llawn (100%) ar gyfer hereditamentau annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwres sy'n darparu ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel. Esbonnir yr amodau cymhwyso yn fanylach yn y canllawiau.

Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Rhwydweithiau Gwres ar gael yma.

Rhyddhad Caledi

Fe all eich awdurdod lleol hefyd ganiatáu rhyddhad caledi i fusnesau os yw’n credu y byddai o fudd i’r gymuned leol i wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth am ryddhad caledi cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Ceir canllawiau ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r rhyddhad yma.

4. Eiddo Hunanddarpar

O 1 Ebrill 2023 ymlaen yng Nghymru, mae eiddo hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig, ac yn gorfod talu ardrethi busnes, os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon:

  • bod yr eiddo ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu ragor yn y 12 mis canlynol
  • bod buddiant y trethdalwr yn yr eiddo yn ei alluogi i’w rentu am gyfnodau o’r fath
  • y bu’r eiddo, yn y 12 mis cyn yr asesiad, ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu ragor
  • bod y cyfnodau byr y’i gosodwyd yn fasnachol mewn gwirionedd yn dod i gyfanswm o 182 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw

Mae canllawiau ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar yng Nghymru ar gael yma.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.