BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Tachwedd 2023

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system Ardrethi Annomestig (NDR) yng Nghymru

Y Diweddaraf

Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25

Bydd cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn cael eu hamlinellu pan fyddwn yn cyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU ar 22 Tachwedd. Rydym yn deall y bydd trethdalwyr yn dymuno gwybod manylion y trefniadau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys lefel y lluosydd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadarnhau ynghyd â’r cyhoeddiad ar y Gyllideb Ddrafft, a’i chynnwys yn ein diweddariad nesaf.

Diwygio Ardrethi Annomestig

Ar 20 Tachwedd, cyflwynwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn y Senedd. Bydd y Bil yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r cynigion ar gyfer diwygio ardrethi annomestig a nodwyd y llynedd yn ein hymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys cynnal ailbrisiadau'n amlach a'r mesurau sydd eu hangen i’w cyflawni, yn ogystal â gwelliannau ehangach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud y system ardrethi annomestig yn fwy addas i ddiwallu anghenion Cymru.

O ran Ardrethi Annomestig, bydd y Bil yn:

  • cynyddu amlder ailbrisiadau i bob tair blynedd;
  • galluogi addasu’r cylch ailbrisio gan ddefnyddio rheoliadau;
  • newid y ffordd y mae trethdalwyr yn darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), i sicrhau bod ailbrisiadau amlach yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor;
  • galluogi Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar unrhyw ryddhad neu eithriadau, eu hamrywio neu eu tynnu’n ôl, ac i ragnodi lluosyddion gwahaniaethol, gan ddefnyddio rheoliadau;
  • cryfhau’r amodau cymhwysedd ar gyfer rhyddhad elusennol i eiddo sydd heb eu meddiannu;
  • dileu’r cyfyngiad amseru i awdurdodau lleol roi rhyddhad dewisol;
  • ehangu’r diffiniad o adeilad newydd at ddiben rhoi hysbysiadau cwblhau gan awdurdodau lleol; a
  • galluogi gwrthbwyso’r manteision sy’n deillio o drefniadau osgoi artiffisial a nodwyd yn y rheoliadau.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am weithredu’r diwygiadau hyn yn ystod y broses o ystyried y Bil gan y Senedd, a wedi hynny.

Deddf Ardrethu Annomestig 2023

Cafodd Deddf Ardrethu Annomestig 2023 Gydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref. Defnyddiwyd y Ddeddf hon i sicrhau diwygiadau penodol i Gymru cyn gynted â phosibl. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu hestyn i Gymru yn cynnwys pwerau i sefydlu cynlluniau rhyddhad newydd, a oedd yn destun ymgyngoriadau diweddar (gweler isod).

Rhyddhad gwelliannau

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad gwelliannau newydd yn cael ei ddarparu o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Bydd y rhyddhad yn cefnogi trethdalwyr sy'n buddsoddi mewn gwelliannau a fydd yn cynyddu gwerth trethadwy'r eiddo y maent yn ei feddiannu. Bydd yn gweithredu fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad ac yn gyson â’r un rhyddhad yn Lloegr. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gwblhau’r broses o roi tystysgrifau ar gyfer gwaith gwella cymwys. Bydd gwybodaeth ar gyfer awdurdodau lleol ar yr agwedd hon yn dilyn maes o law gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd y ddeddfwriaeth ofynnol yn cael ei chyflwyno maes o law.

Cefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mesurau newydd ar waith i gefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio gwres mewn eiddo annomestig o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae'r mesurau hyn yn rhyddhad ar gyfer rhwydweithiau gwres carbon isel ac yn eithrio'r eiddo y maent yn rhan ohonynt, peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir mewn ynni adnewyddadwy ar y safle a phwyntiau gwefru cerbydau trydan rhag asesiadau ardrethu. Byddant yn gweithredu fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad. Bydd y ddeddfwriaeth ofynnol yn cael ei chyflwyno maes o law.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Rhyddhad gwelliannau ardrethi annomestig – crynodeb o'r ymatebion

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer rhyddhad gwelliannau am ddeuddeg wythnos, rhwng 16 Mai ac 8 Awst 2023.

Cefnogaeth ardrethi annomestig ar gyfer ynni adnewyddadwy – crynodeb o'r ymatebion

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar fesurau arfaethedig i gefnogi ynni adnewyddadwy am ddeuddeg wythnos, rhwng 23 Mai a 15 Awst 2023.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Mae'r diweddariad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2024 (dros dro).

Dolenni defnyddiol:

Llywodraeth Cymru

Busnes Cymru

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Tribiwnlys Prisio Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Senedd Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.