Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth diduedd wedi’i ariannu’n llawn i bobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn datblygu eu busnes
Beth bynnag fo’r her sy’n wynebu eich busnes, mae’n debygol y bydd modd i’n cymorth a’n harbenigedd helaeth eich helpu. Cyngor yn ymwneud ag Adnoddau Dynol, cynllunio busnes, lleihau carbon a gwella cynhyrchiant trwy gael help gyda chyllid – mae popeth ar flaenau ein bysedd.
Cyfarfod â’r Cynghorwyr
Mae ein criw o gynghorwyr ledled Cymru yn hen lawiau ar ddechrau, rhedeg a datblygu busnesau. Mae eu harbenigedd a’u rhwydweithiau eang yn golygu y gallant helpu eich busnes i oresgyn heriau, osgoi oedi a chanfod cyfleoedd newydd.
Busnes Cymru - Mewnwelediadau Cynghorydd dod o hyd i'r cyllid cywir
Mewnwelediadau Cynghorydd
Busnes Cymru - Mewnwelediadau Cynghorydd Recriwtio
Mewnwelediadau Cynghorydd
Busnes Cymru - Mewnwelediadau Cynghorydd gwella cynaliadwyedd amgylcheddol
Mewnwelediadau Cynghorydd
Dod o hyd i gymorth
Datblygu eich busnes
Dechrau busnes, ehangu busnes – rydym yma i’ch helpu. Mae ein rhwydwaith o gynghorwyr wedi helpu busnesau i sicrhau buddsoddiadau sy’n werth mwy na £120 miliwn a chreu 17,500 o swyddi. Cliciwch ar y botymau isod i weld sut y gallwn eich helpu i gymryd y cam nesaf a datblygu eich busnes:
Ar ôl mynd i’r afael â gwaith dadansoddeg busnes manwl i bennu cyfleoedd datblygu a thwf yn eich busnes, bydd ein cynghorwyr yn gweithio gyda chi i lunio a gweithredu cynllun strategol er mwyn gwireddu potensial eich busnes. I’r perwyl hwn, byddant yn defnyddio’u rhwydweithiau eang i drefnu cymorth a chyngor arbenigol ychwanegol.
Mae rheolaeth ariannol effeithiol yn hanfodol os yw eich busnes am weld twf cynaliadwy. Gall ein cynghorwyr busnes eich helpu i baratoi rhagolygon a dogfennau ariannol hollbwysig yn ogystal â gweithredu fel cynghorwyr diduedd, gan eich helpu i ganfod yr opsiynau cyllid mwyaf priodol, ynghyd â gwneud cais amdanynt a’u sicrhau, a hynny ar y telerau iawn i’ch busnes.
Mae recriwtio staff wastad yn her oherwydd rhaid sicrhau bod yr ymgeiswyr nid yn unig yn bodloni anghenion eich busnes ond eu bod hefyd yn cyd-fynd â diwylliant a gwerthoedd eich busnes.
Bydd ein cynghorwyr yn eich grymuso ac yn eich tywys yr holl ffordd, o’r camau recriwtio cynnar hyd at y broses gynefino, gan eich helpu i greu tîm gwych ar gyfer eich busnes
Mae arallgyfeirio yn cynnig cyfleoedd i’ch busnes wasgaru’r risg ac archwilio marchnadoedd newydd; cyfleoedd i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol er mwyn gwneud y busnes yn fwy proffidiol. Bydd ein cynghorwyr yn defnyddio’u gwybodaeth, eu profiad a’u rhwydweithiau proffesiynol i’ch helpu i bennu meysydd lle gall eich busnes arallgyfeirio a datblygu mewn modd cynaliadwy.
Cymorth arbenigol i’ch busnes
Pa un a ydych eisiau bod yn fwy ynni-effeithlon, cyflogi gweithwyr newydd neu wneud cais am gontractau’r sector cyhoeddus, mae ein tîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i’ch helpu gydag anghenion penodol eich busnes.
Bydd y cynghorwyr arbenigol hyn yn cynnig cyngor ac arweiniad pwrpasol, un-i-un i’ch busnes yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys:
Mae sicrhau bod eich busnes yn gynaliadwy yn hollbwysig i’r amgylchedd a hefyd i lwyddiant eich busnes – megis lleihau eich ôl troed carbon, arbed arian ar gostau ynni a gwella effeithlonrwydd eich prosesau cynhyrchu. Gall ein Cynghorwyr Cynaliadwyedd eich helpu i fapio pethau a chymryd camau rhagweithiol er mwyn sicrhau bod eich busnes yn gweithredu mewn modd effeithlon a chynaliadwy.
Mae’r sector cyhoeddus a phrynwyr mewn diwydiannau mawr yn gwario £6.5b bob blwyddyn yng Nghymru. Ni waeth be fo maint eich busnes, ym mha ran o Gymru rydych yn gweithio na pha gynhyrchion neu wasanaethau a ddarparwch, gall ein cynghorwyr arbenigol helpu eich busnes i ddod o hyd i gyfleoedd tendro newydd a dod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
Trwy helpu eich gweithwyr i gyrraedd eu llawn botensial, gallwch roi hwb enfawr i dwf eich busnes. Bydd ein cynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda chi i ganfod pa sgiliau sydd i’w cael eisoes yn eich busnes, gan dynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu. Hefyd, byddant yn rhannu eu gwybodaeth am raglenni hyfforddi perthnasol, darparwyr a chyfleoedd cyllid er mwyn datblygu ac uwchsgilio eich tîm
Mae ein Rhaglen Fentora yn cynnig gwasanaeth paru i fusnesau Cymru fel y gallant gael cymorth mentora un-i-un gan gannoedd o fentoriaid busnes gwirfoddol profiadol ledled Cymru.
Bydd y mentoriaid hyn yn rhannu eu gwybodaeth, yn rhoi arweiniad, yn cynnig safbwyntiau newydd ac yn cynnig clust i wrando er mwyn helpu eich busnes i ffynnu a thyfu.
Cyngor a Chefnogaeth Busnes
Mynediad i gefnogaeth ddiduedd ac annibynnol gan ein tîm profiadol o gynghorwyr busnes.
Llenwch y ffurflen cefnogi ac fe'ch cyfathrebwch ag ymgynghorydd arbenigol.