BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Elusennol

Ynglŷn â’r canllawiau hyn 

Mae’r canllawiau yn rhoi gwybodaeth i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol am ryddhad ardrethi elusennol. I Gymru yn unig y mae’n gymwys ac nid yw’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau penodol.  

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn a’r ddeddfwriaeth berthnasol at Lywodraeth Cymru i’r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru

Mae amryw o ryddhadau gorfodol a dewisol eraill hefyd ar gael ar gyfer mathau penodol o eiddo a pherchnogion. Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig ar wefan Busnes Cymru

Cyflwyniad

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn darparu bod gan eiddo sydd o dan berchenogaeth sefydliadau elusennol neu a feddiannir ganddynt yr hawl i gael rhyddhad ardrethi annomestig gorfodol. Pennir y lefel hon ar 80% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir. Mae’r rhyddhad hwn hefyd ar gael i glybiau chwaraeon amatur cymunedol.

Ariennir rhyddhad gorfodol yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol dalu’r swm a ildiwyd i mewn i’r gronfa.

Gall awdurdodau lleol ychwanegu at y rhyddhad hyd at 100% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir yn ôl eu disgresiwn. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol dalu 75% o unrhyw ryddhad ychwanegol o’r fath i mewn i’r gronfa ardrethi annomestig. Caiff y 25% arall ei ariannu’n ganolog.

Nid oes rhaid i awdurdod lleol gynnig rhyddhad dewisol. Fodd bynnag, os bydd yn penderfynu gwneud hynny, mae’n arfer da dyfarnu rhyddhad ar sail meini prawf cymhwysedd sydd ar gael ar wefan yr awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer elusennau

Mae eiddo sy’n cael ei feddiannu ar y rhestr ardrethu leol yr hawl i gael rhyddhad gorfodol: 

  • os yw’r talwr ardrethi yn elusen neu ymddiriedolwr elusen;  
  • os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol.

Ceir hefyd delerau ac amodau ychwanegol ar gyfer siopau elusennol. Caiff hyn ei esbonio yn nes ymlaen yn yr adran hon.

A yw’r eiddo yn cael ei feddiannu gan elusen neu ymddiriedolwr elusen?

Cyn bod awdurdod lleol yn dyfarnu rhyddhad, mae’n rhaid iddo fodloni ei hun bod y sefydliad sy’n gwneud cais am ryddhad yn elusen (neu ymddiriedolwr elusen) mewn gwirionedd. Os yw’r sefydliad yn elusen sydd wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Elusennau, yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn gallu rhoi ei rif cofrestru. 

Fodd bynnag, nid yw pob elusen yn elusen gofrestredig. Ceir rhagor o wybodaeth am elusennau nad oes angen iddynt gofrestru ar wefan y Comisiwn Elusennau

Os oes gan awdurdod lleol unrhyw amheuon ynglŷn â ph’un a yw sefydliad yn elusen, gall ofyn am lythyr gan Cyllid a Thollau EM yn cadarnhau bod y sefydliad yn cael ei drin fel elusen at ddibenion treth. 

A yw’r adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol?

Defnyddir adeiladau at amrywiaeth o ddibenion elusennol ac, mewn llawer o achosion, bydd yn amlwg eu bod yn cael eu defnyddio ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf’ at ddibenion elusennol. Er enghraifft, gallant gael eu defnyddio fel pencadlys elusen neu ganolfannau cymunedol, hyfforddi ac addysgol neu fel siopau elusennol. 

Mae cyfraith achosion ddiweddar yn rhoi mwy o eglurder ynghylch p’un a ddylai awdurdodau lleol ddyfarnu rhyddhad i sefydliadau elusennol os nad ydynt yn defnyddio rhan sylweddol o’r eiddo. Ceir rhagor o wybodaeth am y mater hwn ar wefan y Comisiwn Elusennau.

Os bydd gan awdurdod lleol broses gwneud cais, dylid gofyn i’r elusen roi esboniad clir a chyfiawnhad dros y defnydd arfaethedig o’r adeiladau. 

Mae’r Comisiwn Elusennau yn ymwybodol o achosion lle mae manwerthwyr a landlordiaid eiddo anodd ei osod yn cysylltu ag elusennau er mwyn gofyn iddynt ymrwymo i gytundebau tenantiaeth a fyddai’n rhoi rhyddhad i’r landlordiaid rhag y gofyniad i dalu ardrethi annomestig llawn. 

Telerau ac amodau ychwanegol i siopau elusennol

Mae adran 64(10) o Ddeddf 1988 yn nodi mai dim ond os yw siop elusennol yn cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf i werthu nwyddau a roddwyd i elusen a bod yr enillion o werthu’r nwyddau (ar ôl didynnu unrhyw dreuliau) yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusen y bydd ganddi hawl i gael rhyddhad ardrethi gorfodol.

Mae’n arfer cyffredin ystyried y canlynol wrth benderfynu p’un a ddefnyddir siop elusennol yn gyfan gwbl neu’n bennaf i werthu nwyddau a roddwyd:  

  • Canran yr arwynebedd a feddiannir gan nwyddau a roddwyd;
  • Canran y trosiant a’r elw sy’n dod o werthu nwyddau a roddwyd; 
  • Canran yr eitemau unigol a werthir sy’n nwyddau a roddwyd.

Mae rhai busnesau wedi codi pryderon yn y gorffennol ynglŷn â’r twf yn nifer y siopau elusennol ar y stryd fawr. Er bod rhanddeiliaid yn cydnabod bod siopau elusennol mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru yn cynnig llawer o fanteision, mae rhai yn credu bod gwerthu nwyddau newydd mewn siopau elusennol yn arwain at elfen o gystadleuaeth annheg i fusnesau bach. 

Wrth ddyfarnu rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ i siopau elusennol, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried effaith bosibl siopau elusennol ar fusnesau lleol. Dylai awdurdodau lleol fonitro niferoedd mewn ardaloedd gwahanol yn ofalus ac addasu eu polisi ynglŷn â rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ yn unol â hynny. Os bydd awdurdod lleol yn credu bod siopau elusennol yn cael effaith negyddol ar yr economi leol, gall, er enghraifft, ddewis peidio â dyfarnu rhyddhad dewisol ‘ychwanegol’ i unrhyw siopau elusennol, yn unol â Deddf 1988. Os bydd gan awdurdod lleol bryderon penodol ynglŷn â gwerthu nwyddau newydd mewn siopau elusennol, gall ddewis pennu trothwy uwch mewn perthynas â’r rhyddhad dewisol ychwanegol nag y byddai ei angen o dan ryddhad gorfodol.

Mae’n arfer da i awdurdodau lleol gynnal arolygiadau o siopau elusennol o bryd i’w gilydd hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw reswm dros amau bod cyfran ormodol o nwyddau newydd yn cael ei gwerthu. Dylid cynnal arolygiadau ar adegau gwahanol o’r flwyddyn fel y gellir cadarnhau i ba raddau y cydymffurfir â’r rheolau yn ystod amodau masnachu arferol. 

Gall awdurdodau lleol hefyd ddewis cynnal arolygiad o siopau elusennol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, er mwyn sicrhau bod elusennau yn parhau i gydymffurfio â’r rheolau ar nwyddau newydd yn ystod y cyfnod hwn. 

Cyfrifoldeb yr elusen yw sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o’r rheolau ar werthu nwyddau newydd. Os bydd siop yn torri’r rheolau, ni ddylid caniatáu iddi gael rhyddhad gorfodol mwyach. Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi rhyddhad dewisol, efallai y bydd am anfon llythyr ffurfiol yn hysbysu’r elusen nad yw’n gymwys i gael rhyddhad dewisol mwyach ac, o ganlyniad, y caiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol

Mae gan eiddo a feddiannir ar y rhestr ardrethu leol yr hawl i gael rhyddhad gorfodol:

  • os yw’r talwr ardrethi yn glwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig; ac
  • os yw’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion y clwb chwaraeon amatur cymunedol a/neu sefydliadau tebyg.

Fodd bynnag, ni all awdurdod lleol gynnig rhyddhad i glwb chwaraeon amatur cymunedol ar gyfer eiddo sy’n hereditament a eithrir. 

Cyn bod awdurdod lleol yn dyfarnu rhyddhad ar y sail hon, bydd angen iddo gadarnhau mai clwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig ydyw, fel y diffiniwyd yn adran 658 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010. Mae rhestr gyfredol o glybiau sydd wedi’u cofrestru â CThEM ar gael ar wefan GOV UK. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i sefydliadau sydd am gofrestru’n glwb chwaraeon amatur cymunedol. 

Os nad yw clwb chwaraeon yn elusen nac wedi’i gofrestru’n glwb chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig, gall awdurdod lleol serch hynny benderfynu dyfarnu rhyddhad dewisol yn unol â’u pwerau i wneud hynny. Wrth wneud penderfyniad i ddyfarnu rhyddhad, efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried y diffiniad cyfreithiol o glwb chwaraeon amatur cymunedol ac i ba raddau y mae’r sefydliad yn cyfrannu at y gymuned leol ac amcanion yr awdurdod lleol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol.

Efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried defnyddio system bwyntiau i asesu ceisiadau am ryddhad. Nid oes angen rhoi 100% o ryddhad ym mhob achos a gellir dyfarnu canran is os bodlonir rhai ond nid pob un o’r meini prawf. Dylai meini prawf ar gyfer system o’r fath fod ar gael i’r cyhoedd er tryloywder.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.