BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag

Ynglŷn â’r canllawiau hyn 

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i awdurdodau lleol i gynorthwyo gyda gweinyddu rhyddhad ardrethi annomestig. I Gymru yn unig y mae’n gymwys ac nid yw’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau penodol. 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau bilio at yr awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol yma. Dylid anfon ymholiadau am y canllawiau hyn a’r ddeddfwriaeth berthnasol at Lywodraeth Cymru i’r cyfeiriad e-bost canlynol: 
PolisiTrethiLleol@llyw.cymru

Mae nifer o ryddhadau ardrethi annomestig gorfodol a dewisol eraill ar gael hefyd ar gyfer mathau penodedig o eiddo neu feddianwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig ar gael ar ein  tudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Mae adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) yn gosod atebolrwydd eiddo heb ei feddiannu mewn rhestr ardrethi lleol yn 100% o ardrethi eiddo a feddiannir. Mewn rhai amgylchiadau, gall yr atebolrwydd hwn fod yn llai.

Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Y cyfnod rhyddhad ar gyfer eiddo gwag;
  • Eiddo nad yw’n talu ardrethi eiddo gwag;
  • Rhyddhad ar eiddo gwag i elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol; 
  • Eiddo a feddiannir yn rhannol; ac
  • Osgoi trethi ac eiddo gwag.

Mae adran 44A o Ddeddf 1988 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol leihau atebolrwydd talwr ardrethi lle yr ymddengys i’r awdurdod lleol bod rhan o eiddo heb ei meddiannu ac y bydd yn parhau felly am gyfnod byr yn unig.

Cyfnod y rhyddhad ar gyfer eiddo gwag

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (Rheoliadau 2008) yn darparu ar gyfer rhoi rhyddhad gorfodol yn y tri mis cyntaf y mae eiddo annomestig yn wag, neu’r chwe mis cyntaf os yw wedi’i ddosbarthu’n eiddo diwydiannol. 

Mae’n darparu ymhellach fod yn rhaid bod yr eiddo gwag wedi’i feddiannu am gyfnod o fwy na 26 wythnos yn union cyn hynny er mwyn bod yn gymwys i gael y cyfnod rhyddhad cychwynnol hwn. Caiff unrhyw gyfnod o feddiannu sy’n llai na 26 wythnos ei ddiystyru.

Mae hyn yn osgoi hawliadau am gyfnodau dilynol o ryddhad ar ôl cyfnodau byr o ddeiliadaeth.

Eiddo nad yw’n talu ardrethi eiddo gwag

Mae Rheoliadau 2008 hefyd yn diffinio’r mathau o eiddo nad ydynt yn talu ardrethi eiddo gwag (hyd yn oed ar ôl y cyfnod o dri mis pan na thelir ardrethi). 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith;
  • Eiddo a gedwir yn wag oherwydd camau penodol a gymerir gan y Goron neu awdurdod lleol neu gyhoeddus;
  • Adeiladau rhestredig ac adeiladau sy’n destun hysbysiadau cadw adeilad;
  • Henebion cofrestredig; 
  • Eiddo y mae gan ei berchennog ond hawl i’w feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig, datodwr neu ymddiriedolwr o dan weithred gymodi; 
  • Eiddo y mae ei berchennog yn destun achos ansolfedd; ac
  • Eiddo y mae ei werth ardrethol yn llai na £2,600. 

Rhyddhad ar eiddo gwag ac elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol

Mae Deddf 1988 yn darparu rhyddhad elusennol llawn ar gyfer eiddo heb ei feddiannu pan fo'r talwr ardrethi yn elusen neu'n glwb chwaraeon amatur cymunedol a bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Bydd rhyddhad yn cael ei roi pan fo'r talwr ardrethi yn elusen neu yn ymddiriedolwyr elusen a bod pob un o'r canlynol yn berthnasol: 

  • bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni bod eiddo heb ei feddiannu am reswm sy'n ymwneud â dibenion elusennol yr elusen;
  • bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni y bydd yr eiddo, pan gaiff ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol yr elusen (neu at ddibenion yr elusen honno ac elusennau eraill);
  • bod ymddiriedolwyr yr elusen wedi rhoi copi o gyfrifon diweddaraf yr elusen i'r awdurdod lleol; a
  • phan fo'n ofynnol i'r elusen lunio adroddiad blynyddol, bod ymddiriedolwyr yr elusen wedi rhoi copi o adroddiad diweddaraf yr elusen i'r awdurdod lleol.

Bydd rhyddhad yn cael ei roi pan fo'r talwr ardrethi yn glwb chwaraeon amatur cymunedol (clwb cofrestredig at ddibenion adran 658 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010) a bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni y bydd yr eiddo, pan gaiff ei ddefnyddio nesaf, yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion y clwb hwnnw (neu at ddibenion y clwb hwnnw a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol eraill).

Y dystiolaeth sy'n ofynnol er mwyn hawlio rhyddhad eiddo gwag ar gyfer elusennau

Mewnosododd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 baragraff 2(3) i (8) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988, i gryfhau'r meini prawf cymhwysedd o ran rhyddhad eiddo gwag ar gyfer elusennau a mynd i'r afael â chamfanteisio ar y rhyddhad hwn at ddibenion osgoi ardrethi annomestig. Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried tystiolaeth a ddarperir gan y talwr ardrethi er mwyn penderfynu a yw'n gymwys i gael rhyddhad. 

Bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn penderfynu sut i fodloni ei hun mewn perthynas â'r rheswm pam nad yw eiddo wedi'i feddiannu a sut y bwriedir ei ddefnyddio yn y dyfodol. Argymhellir ei bod yn ofynnol cael eglurhad a datganiad ysgrifenedig gan y talwr ardrethi, yn arbennig os nad yw wedi meddiannu'r eiddo yn flaenorol. Dylai'r talwr ardrethi allu egluro, yn gysylltiedig â'r dibenion elusennol, pam nad yw'r eiddo wedi'i feddiannu a sut (a phryd) y bwriedir ei feddiannu yn y dyfodol. Gall yr awdurdod lleol ofyn am dystiolaeth bellach yr ystyrir ei bod yn briodol i ategu'r eglurhad a ddarparwyd. 

Bydd y dull hwn yn galluogi'r awdurdod lleol i ystyried a yw'r eglurhad a roddwyd yn gydnaws â'r eiddo. Os nad yw'r awdurdod lleol wedi'i fodloni gan yr eglurhad a roddwyd, bydd yn atal y rhyddhad ar y sail honno. Rhagwelir y bydd angen i dalwyr ardrethi ddarparu tystiolaeth wedi'i diweddaru yn rheolaidd er mwyn bodloni'r awdurdod lleol o'u cymhwysedd parhaus, yn arbennig os yw'r cyfnod pan fo'r eiddo yn wag yn para'n hirach na'r disgwyl.

O dan gyfraith elusennau, mae mathau gwahanol o elusennau yn ddarostyngedig i ofynion cyfrifyddu ac adrodd gwahanol. Dylai elusen allu cadarnhau wrth yr awdurdod lleol pa fath o elusen ydyw a'r gofynion cysylltiedig.

Mae cyfrifon diweddaraf elusen fel a ganlyn:

  • yn achos cwmni elusennol, y cyfrifon blynyddol sydd wedi'u paratoi o dan Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sydd naill ai wedi bod yn destun archwiliad llawn, wedi'u harchwilio gan archwilydd annibynnol, neu sy'n ymwneud â blwyddyn y mae'r cwmni wedi'i esemptio rhag archwiliad ar ei chyfer (ac nad yw adran 144(2) nac adran 145(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (Deddf 2011) yn gymwys);
  • yn achos elusen wedi'i hesemptio, y cyfrifon sydd wedi'u paratoi, ac, os oes angen, wedi'u harchwilio; neu
  • yn achos pob elusen arall, y datganiad o gyfrifon sydd wedi'i baratoi o dan adran 132(1) o Ddeddf 2011, neu'r cyfrifon a'r datganiad sydd wedi'u paratoi o dan adran 133 o Ddeddf 2011. 

Adroddiad blynyddol diweddaraf elusen (pan fo angen) yw'r un a gaiff ei baratoi yn unol ag adrannau 162(1) a 168(3) o Ddeddf 2011. Nid oes angen adroddiad blynyddol gan elusen nad yw'n ofynnol iddi gofrestru â'r Comisiwn Elusennau. Nid yw'n ofynnol i elusen fod wedi cofrestru:

  • os yw'n elusen wedi'i hesemptio (adran 30(2) o Ddeddf 2011); 
  • os yw'n elusen a eithrir gan y Comisiwn Elusennau neu drwy reoliadau, yn cydymffurfio ag amodau'r eithriad, ac nad yw ei hincwm blynyddol gros yn fwy na £100,000 (adran 30(2)(b) ac (c) o Ddeddf 2011) (elusen a eithrir)); neu
  • os nad yw'n elusen wedi'i hesemptio nac yn elusen a eithrir, ac nad yw ei hincwm blynyddol gros yn fwy na £5,000 (adran 30(2)(d) o Ddeddf 2011; cyfeirir at elusennau o'r fath yn gyffredin fel "elusennau bach anghofrestredig"). 

Fodd bynnag, gall y Comisiwn Elusennau ddewis gofyn am adroddiad blynyddol gan elusen a eithrir, yn unol ag adran 168(2) i (8) o Ddeddf 2011 (er dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y mae hyn yn debygol o ddigwydd). Pan fydd y Comisiwn Elusennau wedi gofyn am adroddiad o'r fath, bydd yn ofynnol i'r elusen a eithrir roi copi o'i hadroddiad diweddaraf i'r awdurdod lleol. 

Bydd darparu tystiolaeth o gydymffurfedd â'r gofynion cyfreithiol sefydledig hyn yn dangos bod y talwr ardrethi yn elusen weithredol. Dylai'r dystiolaeth hon fodoli eisoes ac ni fydd ei rhannu ag awdurdodau lleol felly yn gosod unrhyw faich gormodol ar elusennau dilys sy'n ceisio hawlio rhyddhad. 

Bydd talwr ardrethi yn elwa ar ryddhad unwaith y bydd awdurdod lleol yn cadarnhau ei fod wedi'i fodloni bod y meini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni. Ar gyfer elusennau sydd newydd eu sefydlu, nad ydynt eto wedi paratoi cyfrifon blynyddol (nac adroddiadau blynyddol lle bo hynny'n berthnasol), gall hyn olygu y bydd oedi rhwng dod yn dalwr ardrethi a dyfarnu rhyddhad ar gyfer eiddo gwag.

Pan fydd yr elusen yn gallu tystiolaethu'i chymhwysedd, bydd yr awdurdod lleol yn gallu addasu ei bil er mwyn ystyried unrhyw ordaliad, wedi'i ôl-ddyddio i'r dyddiad trethadwy perthnasol. Pan fo awdurdod lleol o'r farn resymol bod elusen newydd yn ddilys ac y bydd yn gallu tystiolaethu'i chymhwysedd maes o law (ee ar ôl iddi lunio ei chyfrifon a'i hadroddiad blynyddol cyntaf), gall yr awdurdod lleol ddewis rhoi rhyddhad yn ôl disgresiwn fel mesur dros dro. 

Eiddo a feddiannir yn rhannol

Gall awdurdodau lleol ddewis addasu’r atebolrwydd ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol pan fo anawsterau ymarferol o ran meddiannu neu adael eiddo. Er enghraifft, pan fydd angen meddiannu neu adael yr eiddo dros nifer o wythnosau neu fisoedd, neu pan fo rhyw ddigwyddiad megis tân neu lifogydd yn golygu nad oes modd defnyddio rhan o’r eiddo. 

Ni fwriedir i’r dull hwn gael ei ddefnyddio lle nad yw rhan o eiddo yn cael ei defnyddio dros dro neu lle y gwneir llai o ddefnydd ohoni dros dro, (e.e. lle mae offer, cyfarpar neu beiriannau yn parhau i fod ynddo).

Dylai ymgeiswyr roi’r dyddiad y cafodd yr eiddo ei feddiannu’n rhannol, neu y caiff ei feddiannu’n rhannol, y rheswm dros ei feddiannu’n rhannol a’r dyddiad y maent yn disgwyl i’r eiddo gael ei feddiannu’n gyfan gwbl neu ei adael yn wag yn gwbl gyfan.

Lle mae awdurdod lleol yn bwriadu rhoi gostyngiad, dylai geisio dosraniad o’r gwerth ardrethol gan y swyddog prisio. Ar ôl cael cais o’r fath, mae’n ofynnol i’r swyddog prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr eiddo rhwng y rhan o’r eiddo a feddiannir a’r rhan sydd heb ei meddiannu. Mae hyn yn galluogi cyfrifo rhyddhad eiddo gwag a’i gymhwyso mewn perthynas â rhan wag yr eiddo yn unig.

Ar ôl i gyfnod y rhyddhad cychwynnol a fyddai’n berthnasol i ran wag yr eiddo ddod i ben (ar ôl tri mis, neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol), yn y rhan fwyaf o achosion daw’r dosraniad i ben a bydd ardrethi eiddo a feddiannir yn gymwys i’r eiddo cyfan. Fodd bynnag, os na fydd y meddiannydd yn gymwys ar gyfer yr ardrethi eiddo gwag ar yr eiddo am ei fod wedi’i eithrio neu os bydd yr eiddo yn cael rhyddhad arall, (e.e. am ei fod o dan berchenogaeth elusen neu ymddiriedolwyr elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol), bydd y dosraniad yn parhau’n weithredol ac ni fydd y talwr ardrethi yn atebol am dalu ardrethi ar y rhan wag.

Mae’r cyfnod gweithredol yn dechrau ar y diwrnod y daw’r eiddo yn eiddo heb ei feddiannu’n rhannol. Yn achos dosraniad pellach, mae’r cyfnod gweithredol yn dechrau ar y diwrnod y daw’r dosraniad pellach yn weithredol. Yn y naill achos a’r llall, bydd y cyfnod yn parhau hyd at un neu ragor o’r digwyddiadau canlynol: 

  • caiff unrhyw ran o’r rhan o’r eiddo sydd heb ei meddiannu y mae’r dosraniad yn berthnasol iddi ei meddiannu;
  • diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r awdurdod lleol yn gofyn am y dosraniad ynddi;
  • mae gofyn am ddosraniad pellach;
  • daw’r eiddo yn eiddo heb ei feddiannu’n gyfan gwbl.

Mae’r cyfyngiadau uchod yn golygu y bydd unrhyw ddosraniad sy’n weithredol yn peidio â bod yn weithredol ar ôl 31 Mawrth bob blwyddyn. Os bydd awdurdod lleol yn dymuno parhau â’r trefniant yn y flwyddyn ariannol ddilynol, mae’n rhaid iddo ddefnyddio ei ddisgresiwn i’w gwneud yn ofynnol i gael dosraniad pellach. Yn ymarferol, os na fu unrhyw newid i’r graddau y mae’r eiddo wedi’i feddiannu’n rhannol, gallai’r dystysgrif gynharach a roddwyd gan y swyddog prisio barhau oni bai:

  • bod y flwyddyn ariannol nesaf yn flwyddyn ailbrisio; neu 
  • bod y gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament fel arall wedi cael ei newid (e.e. yn sgil newid perthnasol mewn amgylchiadau).

Lle y bo modd i’r rhan o’r eiddo sy’n wag gael ei hasesu ar wahân, ni fydd angen i’r awdurdod lleol arfer ei ddisgresiwn os gofynnir i’r swyddog prisio rannu’r asesiad presennol yn ôl y rhan a feddiannir a’r rhan sy’n wag. 

Osgoi trethi ac eiddo gwag

Mae’n ymddangos bod y dulliau mwyaf cyffredin o osgoi trethi yn gysylltiedig â rhyddhad eiddo gwag. Mae tactegau osgoi cyffredin yn cynnwys: 

  • cyfnodau mynych o feddiannaeth artiffisial/ffug;
  • eiddo yn cael ei feddiannu’n artiffisial neu’n ffug gan elusennau; a
  • defnyddio esemptiadau methdaliad.

Bydd awdurdodau lleol eisoes yn ymwybodol o’r tactegau hyn a nifer o dactegau eraill. Mae’n bwysig eu bod yn archwilio pob cais yn ofalus ac yn gofyn am fwy o wybodaeth a thystiolaeth os oes amheuaeth ynghylch a ddylid rhoi rhyddhad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.