BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ardrethi annomestig: Ionawr 2023

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru. 

Y newyddion diweddaraf

Cyhoeddiadau ynghylch Cyllideb Ddrafft 2023-24

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, cyhoeddwyd yr wybodaeth a ganlyn:

  • Bydd y lluosydd ardrethi annomestig, sef 0.535, yn parhau i fod wedi’i rewi yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Mae’r lluosydd yn rhan annatod o bennu biliau talwyr ardrethi ac mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru i gynnal y lluosydd yn 0.535 yn amddiffyn talwyr ardrethi rhag effeithiau chwyddiant cynyddol. Gall biliau unigol gynyddu, gostwng neu aros yr un fath, o ganlyniad i’r ailbrisio ardrethi annomestig a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
  • Bydd rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar gynnydd i filiau ardrethi annomestig, o ganlyniad i’r ailbrisio. Bydd talwr ardrethi cymwys yn talu 33% o’i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26).
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 75% drwy gydol 2023-24. Yn debyg i’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cap o £110,000 fesul busnes ledled Cymru yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar y cynllun ar gyfer 2023-24 maes o law.

Proses ailbrisio 2023 – rhyddhad trosiannol

Mae gwaith paratoi ar y gweill ar gyfer cyflwyno rhestrau ardrethu newydd yng Nghymru, yn sgil yr ailbrisio, o 1 Ebrill 2023. Mae proses ailbrisio yn cynnwys yr adolygiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio o werth ardrethol pob eiddo annomestig, ar adeg benodol. Bydd gwerth ardrethol newydd yn cael ei neilltuo i bob eiddo annomestig, yn seiliedig ar amcangyfrif o’i werth rhent blynyddol ar 1 Ebrill 2021. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o’r rhestr ardrethu newydd. Mae rhagor o wybodaeth am broses ailbrisio 2023 ar gael ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os oes gan dalwyr ardrethi gwestiynau am eu prisiadau, dylent gysylltu â’r Asiantaeth.

Cynhelir yr ailbrisio er mwyn sicrhau bod y system ardrethi annomestig yn parhau i fod yn deg, drwy ailddosbarthu cyfanswm yr ardrethi sy’n daladwy rhwng talwyr ardrethi, er mwyn adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo. Mae hyn yn golygu, yn achos talwr ardrethi unigol, nad y newid i werth ardrethol ei eiddo ei hun yn unig fydd yn pennu ei atebolrwydd ardrethi annomestig. Bydd rhai talwyr ardrethi yn gweld cynnydd i’w bil, bydd rhai yn gweld gostyngiad, ac efallai na fydd unrhyw newid yn achos rhai, gan adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo ar draws y sylfaen drethu.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y cynllun rhyddhad trosiannol. Bydd y rhyddhad yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau, o ganlyniad i’r ailbrisio, ar gyfer pob talwr ardrethi y mae ei atebolrwydd wedi cynyddu fwy na £300. Bydd unrhyw gynnydd i atebolrwydd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros ddwy flynedd, yn unol â Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Mae’r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau i gyfrifo’r swm a godir ar gyfer talwyr ardrethi cymwys. Bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei gymhwyso i filiau yn awtomatig.

Ymgyngoriadau ynghylch ardrethi annomestig

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Diwygio ardrethi annomestig yng Nghymru – wedi dod i ben 

Roedd ymgynghoriad ynghylch amryw o gynigion ar gyfer diwygio ardrethi annomestig dros weddill tymor y Senedd ar agor am ddeuddeg wythnos, o 21 Medi i 14 Rhagfyr 2022. Mae’r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a bydd crynodeb yn cael ei gyhoeddi maes o law. 

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ynghylch y diweddariad hwn i randdeiliaid. Anfonwch unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf ym mis Mawrth 2023 (amodol).

Dolenni defnyddiol:
Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.