BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Gorffennaf 2024

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig (NDR) yng Nghymru.

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Cafodd Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ei gymeradwyo gan y Senedd ar 16 Gorffennaf. Mae disgwyl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol ar 13 Awst neu'n fuan wedi hynny, pan fydd yn dod yn Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Ceir rhagor o wybodaeth am y Bil a'i hynt drwy'r broses graffu ar wefan y Senedd.

O safbwynt ardrethi annomestig, mae'r Bil yn cynnwys y rhan fwyaf o'r cynigion a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yn 2022. Mae amseriad y newidiadau a gaiff eu cynnwys yn y Bil yn amrywio, fel y mae'r crynodeb isod yn dangos.

Ceir rhagor o wybodaeth yn nes ymlaen yn y diweddariad hwn am y newidiadau a fydd yn dod i rym ar 14 Hydref 2024 neu'n fuan wedi hynny (ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol). Mae'r newidiadau hyn fel a ganlyn:

  • ymarfer ailbrisio yn 2026 a phob tair blynedd wedi hynny (adrannau 2 a 3);
  • ehangu'r diffiniad o adeilad newydd at ddibenion cyflwyno hysbysiadau cwblhau (adran 7);
  • symleiddio rhyddhad yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol drwy gael gwared ar y terfyn amser (adran 8).

Bydd y diweddariad nesaf yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y newid a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025, sef:

  • cryfhau'r meini prawf cymhwystra ar gyfer rhyddhad elusennol i eiddo heb eu meddiannu (adran 6).

Nid oes goblygiadau ar unwaith yn sgil y newidiadau i ardrethi annomestig a gyflwynir gan yr adrannau eraill o’r Bil. Bydd angen rheoliadau naill ai i gychwyn y newidiadau eu hunain neu i weithredu unrhyw gynigion polisi yn y dyfodol y mae’r newidiadau yn eu galluogi. Mae'r newidiadau hyn fel a ganlyn:

  • pŵer i newid y flwyddyn neu'r cylch ailbrisio drwy reoliadau (adran 4);
  • pwerau i roi ac amrywio rhyddhadau, a'u tynnu'n ôl drwy reoliadau (adran 5);
  • pŵer i roi ac amrywio esemptiadau, a'u tynnu'n ôl drwy reoliadau (adran 9);
  • pŵer i bennu lluosyddion gwahaniaethol drwy reoliadau (adrannau 10 ac 11);
  • dyletswyddau i dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, er mwyn cefnogi ailbrisiadau amlach (adran 12);
  • pennu fframwaith mewn rheoliadau i wrthbwyso manteision sy'n deillio o drefniadau osgoi artiffisial (adran 13).

Ymarfer Ailbrisio 2026

Mae'r Bil yn cadarnhau y bydd yr ymarfer ailbrisio nesaf ar gyfer ardrethi annomestig yn digwydd ar 1 Ebrill 2026 a phob tair blynedd wedi hynny. Rydym eisoes yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i baratoi ar gyfer ymarfer ailbrisio 2026, yn seiliedig ar y dyddiad prisio rhagflaenol, sef 1 Ebrill 2024. 

Diben y dyletswyddau newydd i dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chadarnhau'n flynyddol bod y wybodaeth a ddelir am eu heiddo yn gywir, yw sicrhau bod ymarferion ailbrisio bob tair blynedd yn gynaliadwy dros y tymor hwy. Ni chaiff y gofynion hyn eu defnyddio i baratoi ar gyfer ymarfer ailbrisio 2026, a fydd yn dibynnu ar ddull presennol Asiantaeth y Swyddfa Brisio o gasglu tystiolaeth. Ni fydd y dyletswyddau yn dod i rym hyd nes y byddwn yn fodlon y gellir disgwyl yn rhesymol i dalwyr ardrethi gydymffurfio â nhw, gan ddefnyddio'r system ar-lein a chanllawiau cysylltiedig a gaiff eu datblygu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer ymarfer ailbrisio, mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r cyfraddau datgyfalafu a fydd yn gymwys i eiddo a gaiff eu prisio gan ddefnyddio ‘Sail y Contractwr’. Defnyddir y dull hwn i brisio adeiladau arbenigol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat (e.e. ysgolion ac ysbytai). Caiff y cyfraddau datgyfalafu isaf (1.9%) a safonol (3.4%) presennol eu cadw ar gyfer ymarfer ailbrisio 2026. Caiff y gyfradd isaf ei defnyddio ar gyfer adeiladau addysgol, gofal iechyd, amddiffyn a chyfleustodau cyhoeddus.

Hysbysiadau cwblhau

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno hysbysiadau cwblhau ar gyfer adeiladau newydd. Mae hysbysiad yn cadarnhau'r diwrnod cwblhau, fel y gall yr adeilad newydd gael ei ychwanegu at y rhestr ardrethu a'i gwneud yn ofynnol talu ardrethi annomestig arno o'r dyddiad hwnnw. Mae'r Bil yn ehangu'r diffiniad o adeilad newydd at y diben hwn. Bydd y newid hwn yn dod i rym ar 14 Hydref 2024 neu'n fuan wedi hynny (ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol).

Bydd y weithdrefn hysbysiadau cwblhau yn gymwys i adeiladau nad ydynt yn newydd, ond nad oeddent wedi'u cynnwys ar restr ardrethu mwyach am nad oedd modd eu meddiannu at ddibenion buddiol tra bod addasiadau'n cael eu gwneud iddynt. Bydd hefyd yn gymwys i ran newydd o adeilad a gaiff ei hychwanegu at adeilad presennol (e.e. fel estyniad neu lawr newydd). O ganlyniad, caiff yr adeiladau hyn eu dychwelyd i'r rhestr ardrethu yn gyflymach.

Symleiddio rhyddhad yn ôl disgresiwn

Mae gan awdurdodau lleol bwerau cyffredinol i ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn. Mae'r Bil yn cael gwared ar derfyn amser gweddilliol, a oedd yn golygu na allai awdurdodau lleol wneud na newid penderfyniad i ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn fwy na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol yr oedd penderfyniad yn ymwneud â hi. Bydd y newid hwn yn gymwys i'r flwyddyn ariannol bresennol a blynyddoedd ariannol yn y dyfodol, ond ni chaiff ei gymhwyso'n ôl-weithredol i flynyddoedd ariannol blaenorol.

Adolygu rhyddhadau

Fel rhan o'r rhaglen ddiwygio ehangach a nodwyd ar gyfer tymor presennol y Senedd, rydym wedi comisiynu adolygiad o ryddhadau ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Cynhelir yr adolygiad hwn er mwyn rhoi cipolwg ar effeithiolrwydd y cymorth ariannol presennol a gynigir i dalwyr ardrethi, er mwyn llywio unrhyw newidiadau posibl i'r pecyn presennol o ryddhadau yn y dyfodol. 

Mae tair elfen graidd i'r gwaith ymchwil: 

  • Egwyddorion – datblygu set o egwyddorion allweddol i lywio newidiadau yn y dyfodol i ryddhadau ar gyfer ardrethi annomestig. 
  • Ymarferoldeb – profi a mireinio'r egwyddorion a ddatblygwyd, gan ystyried ymarferoldeb y rhyddhadau a'r modd y cânt eu gweinyddu gan awdurdodau lleol. 
  • Canfyddiadau – ystyried safbwyntiau talwyr ardrethi presennol a'u cynrychiolwyr, er mwyn profi a mireinio'r egwyddorion a ddatblygwyd ymhellach.

Dyfarnwyd contract ymchwil i Alma Economics gynnal yr adolygiad. Caiff y gwaith ei gwblhau dros y 12 mis nesaf a chaiff adroddiad ei gyhoeddi gan wasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Caiff rhanddeiliaid eu gwahodd i ymgysylltu â'r adolygiad wrth i'r gwaith ymchwil fynd rhagddo ac fe'ch anogir i gymryd rhan os bydd cyfle'n codi.

Bwletin ystadegol ar ardrethi annomestig yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein bwletin ystadegol blynyddol diweddaraf ar ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae'r bwletin yn cynnwys data ar swm yr ardrethi annomestig a gasglwyd a'r rhyddhadau a ddarparwyd, hyd at a chan gynnwys blwyddyn ariannol 2022-23. Croesawn unrhyw adborth gan randdeiliaid.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ymgyngoriadau ar waith ar hyn o bryd nac unrhyw ymgyngoriadau sydd wedi cau'n ddiweddar mewn perthynas ag ardrethi annomestig.

Rhagor o wybodaeth

Croesawn adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: localtaxationpolicy@gov.wales.

Mae'r diweddariad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer hydref 2024 (am y tro).

Dolenni defnyddiol:

Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.