BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ardrethi annomestig: Mehefin 2023

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru. 

Y newyddion diweddaraf 

Diwygio ardrethi annomestig 

Ar 2 Mai 2023, rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn y Senedd, gan ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio trethi lleol yng Nghymru a'r cynnydd a wnaed tuag at hynny. O ran ardrethi annomestig, rhoddwyd nifer o ddiwygiadau cychwynnol ar waith ar 1 Ebrill 2023, i gyd-fynd a'r ailbrisiaid, fel yr amlinellwyd yn y diweddariad blaenorol (Mawrth 2023).

Rydym yn parhau i ddatblygu cynigion i gwblhau'r diwygiadau ehangach a nodwyd yn ein hymgynghoriad diweddar. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys cynnal ailbrisiadau'n fwy aml a'r mesurau sydd eu hangen er mwyn eu cyflwyno, yn ogystal â gwelliannau ehangach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud y system ardrethi annomestig yn fwy addas i ddiwallu anghenion Cymru. 

Bil Ardrethu Annomestig Llywodraeth y DU 

Ar 5 Ebrill 2023, cyhoeddwyd bod Bil Ardrethu Annomestig Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio er mwyn cwblhau rhai diwygiadau penodol i Gymru ar y cyfle cynharaf posibl. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu hestyn i Gymru yn cynnwys pwerau i sefydlu cynlluniau rhyddhad newydd, sy'n destun ymgyngoriadau ar hyn o bryd (gweler isod). Rydym hefyd wedi gofyn am ddarpariaethau i alluogi rhannu gwybodaeth rhwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio a thalwyr ardrethi ar yr un sail ledled Cymru a Lloegr, er mwyn gwella tryloywder y system ardrethi annomestig a sicrhau bod pobl yn ei deall yn well. At hynny, mae darpariaethau i hwyluso prosesau rhannu gwybodaeth rhwng CThEF, talwyr ardrethi ac awdurdodau bilio wedi cael eu hestyn i Gymru er mwyn sicrhau bod modd inni elwa ar y nodau a rennir gennym ar gyfer y rhaglen Digideiddio Ardrethi Busnes

Bwletin ystadegol ar ardrethi annomestig yng Nghymru 

Rydym wedi cyhoeddi'r bwletin ystadegol cyntaf ar ardrethi annomestig yng Nghymru. Y nod yw cyhoeddi bwletin o'r fath bob blwyddyn. Mae'r bwletin ystadegol yn cynnwys data ar faint o ardrethi annomestig sy'n cael eu casglu a faint o ryddhadau sy'n cael eu rhoi, hyd at a chan gynnwys blwyddyn ariannol 2021-22. Rydym yn croesawu unrhyw adborth gan randdeiliaid.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig 

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig. 

Rhyddhad ardrethi gwelliannau – ar agor 

Mae ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer rhyddhad gwelliannau ar agor am 12 wythnos, o 16 Mai i 8 Awst 2023. 

Cymorth ardrethi annomestig ar gyfer ynni adnewyddadwy – ar agor 

Mae ymgynghoriad ar fesurau arfaethedig i gefnogi ynni adnewyddadwy ar agor am 12 wythnos, o 23 Mai i 15 Awst 2023. 

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Anfonwch unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi'r diweddariad nesaf yn hydref 2023 (amodol). 

Dolenni defnyddiol: 

Llywodraeth Cymru 

Busnes Cymru

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Tribiwnlys Prisio Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Senedd Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.