Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.
Y newyddion diweddaraf
Diwygio ardrethi annomestig
Ar 29 Mawrth 2022, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn y Senedd, yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig. Yna, gwnaethom ymgynghori ar amrywiaeth o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae’r cynigion hyn yn golygu symud tuag at ailbrisio yn fwy aml a’r mesurau sydd eu hangen i gyflawni hynny. Maen nhw hefyd yn cynnwys gwelliannau er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i addasu’r system ardrethi annomestig yn well i ddiwallu anghenion Cymru. Rydym wedi cadarnhau y byddwn yn parhau i ddatblygu’r cynigion ac wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad.
Mae gweddill y diweddariad hwn yn crynhoi ystod y newidiadau a diwygiadau mwy uniongyrchol a geir i ardrethi annomestig yng Nghymru. Daw pob un i rym ar 1 Ebrill 2023.
Bydd rhestr ardrethu newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar 1 Ebrill 2023, yn dilyn y broses o ailbrisio eiddo annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae rhagor o wybodaeth am broses ailbrisio 2023 ar gael ar wefan yr Asiantaeth. Os oes gan dalwyr ardrethi gwestiynau am eu prisiadau, dylent gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
O ganlyniad i’r broses ailbrisio, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad trosiannol a fydd yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau ardrethi annomestig. Bydd talwr ardrethi cymwys y mae ei atebolrwydd wedi cynyddu fwy na £300 yn talu 33% o’i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). Bydd y rhyddhad yn cael ei gymhwyso i filiau talwyr ardrethi yn awtomatig. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ryddhad trosiannol.
Bydd y lluosydd ardrethi annomestig, sef 0.535, yn parhau i fod wedi’i rewi yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Mae’r lluosydd yn rhan annatod o bennu biliau talwyr ardrethi ac os yw’n parhau wedi’i rewi bydd hyn o fudd i dalwyr ardrethi nad ydynt yn cael rhyddhad llawn. Gall biliau unigol gynyddu, gostwng neu aros yr un fath, o ganlyniad i’r ailbrisio a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 75% drwy gydol 2023-24. Bydd cap o £110,000 fesul busnes ledled Cymru ar gyfer y rhyddhad. Mae hyn yn golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu cymhwyso’r rhyddhad i filiau talwyr ardrethi yn awtomatig.
Bydd yn ofynnol i fusnesau cymwys wneud cais i’w hawdurdod lleol am ryddhad a datgan nad yw cyfanswm y rhyddhad sy’n cael ei hawlio oddi wrth awdurdodau ledled Cymru yn fwy na £110,000. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2023-24.
Roedd ein hymgynghoriad diweddar ar ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru yn cynnwys cynnig am ddeddfwriaeth er mwyn egluro materion na ddylai arwain at newid gwerth ardrethol rhwng prosesau ailbrisio. Ers hynny, rydym wedi cadarnhau y byddwn yn gweithredu’r cynnig hwn. Mae’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023 bellach yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Ym mis Mawrth 2022, yn dilyn ymgynghoriad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r meini prawf ar gyfer eiddo sy’n darparu llety hunanddarpar. Bydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig sydd angen talu ardrethi annomestig, yn hytrach nag eiddo domestig sydd angen talu’r dreth gyngor. Bydd y cyfnod lleiaf y mae'n ofynnol i eiddo gael ei osod yn cael ei gynyddu o 70 o ddiwrnodau i 182 o ddiwrnodau, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Bydd y cyfnod lleiaf y mae'n ofynnol i eiddo fod ar gael i'w osod yn cynyddu o 140 o ddiwrnodau i 252 o ddiwrnodau.
Yn dilyn ymgynghoriad technegol ar ddeddfwriaeth ddrafft, rydym wedi cadarnhau bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 bellach yn gyfraith. Bydd y meini prawf newydd yn gymwys i bob asesiad ar gyfer y rhestr ardrethu annomestig, o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety hunanddarpar i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Mae ein cynlluniau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn cynnwys prosesau ailbrisio amlach. Un o alluogwyr hanfodol y diwygiad hwn yw gwelliannau i'r broses apelio. Y llynedd, gwnaethom gadarnhau manylion y newidiadau, a fydd yn sail i fabwysiadu platfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio a phroses 'Gwirio, Herio, Apelio' ar gyfer Cymru. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 bellach yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Yn y gorffennol, roedd unedau o eiddo drws nesaf i’w gilydd, a ddefnyddir gan yr un talwr ardrethi am yr un rheswm, yn cael un bil ardrethi annomestig. Gwnaeth dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn 2015 newid yr arfer hwn, gan effeithio ar nifer fach o dalwyr ardrethi yng Nghymru. Gwnaethom gadarnhau yn flaenorol bod y gyfraith wedi newid i adfer yr arferiad cyn y dyfarniad hwn. Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Lluniwyd rhestr ardrethu 2023 yn unol â chofnodion a dull presennol Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn dilyn dyfarniad 2015. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn diwygio unrhyw asesiadau, fel sy'n angenrheidiol, ar ôl 1 Ebrill 2023. Gwneir hyn pan fydd achosion yn cael eu dwyn i'w sylw. Os yw talwr ardrethi yn credu y dylid diwygio ei asesiad, dylai 'Wirio' ei eiddo. Efallai y bydd hefyd angen ei 'Herio', yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amrywiaeth o fesurau er mwyn mynd i’r afael â thwyll ac osgoi ym maes ardrethi annomestig, yn dilyn ymgynghoriad yn 2018. Un o’r mesurau hyn oedd cyflwyno pŵer cyfreithiol newydd i awdurdodau lleol. Gallant ofyn am wybodaeth gan dalwyr ardrethi a thrydydd partïon sy’n darparu gwasanaeth mewn perthynas ag eiddo. Bydd hyn yn eu cefnogi yn eu rôl wrth filio a chasglu taliadau ardrethi annomestig. Y llynedd, gwnaethom gadarnhau y byddem yn deddfu i gyflawni’r mesur hwn. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 bellach yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Mae pob ymgynghoriad yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio ardrethi annomestig i Gymru – crynodeb o'r ymatebion
Roedd ymgynghoriad ar amrywiaeth o gynigion ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn ystod gweddill tymor y Senedd ar agor am ddeuddeg wythnos, o 21 Medi hyd at 14 Rhagfyr 2022.
Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru.
Bwriedir cyhoeddi'r diweddariad nesaf yn ystod haf 2023 (amodol).
Dolenni defnyddiol:
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru