BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023

Canllawiau

Disgrifiad o’r canllawiau 

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i drethdalwyr ac awdurdodau lleol am y rhyddhad trosiannol a fydd ar gael, ar ôl ailbrisio ardrethi annomestig (NDR) ar 1 Ebrill 2023. Maent yn berthnasol i Gymru yn unig ac nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth NDR bresennol nac unrhyw ganllawiau ar gynlluniau rhyddhad eraill (e.e. rhyddhad ardrethi busnesau bach).  

Dylid cyfeirio ymholiadau bilio am y rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Dylid anfon ymholiadau am y canllawiau hyn a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig at Lywodraeth Cymru drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru

Mae mathau eraill o ryddhad NDR gorfodol a dewisol hefyd ar gael i fathau penodol o eiddo neu feddianwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ryddhad NDR ar gael ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd y cynllun rhyddhad trosiannol hwn fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau NDR, o ganlyniad i'r ailbrisio ar 1 Ebrill 2023. Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). 

Ariennir y rhyddhad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo sydd â chynnydd yn ei atebolrwydd NDR o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r rhyddhad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad trosiannol hwn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu drwy gynllun trosiannol cyson a syml. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.