BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ionawr 2024

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system Ardrethi Annomestig (NDR) yng Nghymru.

Y Diweddaraf

Cyhoeddiadau o'r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, cyhoeddwyd y canlynol:

  • Bydd y cynnydd yn y lluosydd NDR ar gyfer 2024-25 wedi'i gapio ar 5%, gan arwain at luosydd o 0.562 (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd o'r rheoliadau gofynnol). Mae hyn yn is na'r cynnydd o 6.7% a fyddai fel arall yn berthnasol yn sgil chwyddiant diofyn y lluosydd yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) a bydd o fudd i bob talwr ardrethi nad yw eisoes yn cael rhyddhad llawn.
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn 40% o ryddhad NDR drwy gydol 2024-25, a fydd wedi'i gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2024-25, sy'n dilyn yr un model â'r cynllun ar gyfer y blynyddoedd diwethaf.

Diwygio ardrethi annomestig

Wedi iddo gael ei gyflwyno ar 20 Tachwedd 2023, mae'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn cael ei ystyried gan y Senedd. Bydd y Bil yn cyflawni'r mwyafrif o'r cynigion ar gyfer diwygio NDR a nodwyd yn yr ymgynghoriad ar ddiwygio NDR a gynhaliwyd yn yr hydref 2022. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys ymarferion ailbrisio amlach a'r mesurau sydd eu hangen i'w cynnal, yn ogystal â gwelliannau ehangach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu addasu'r system NDR er mwyn iddi ddiwallu anghenion Cymru yn well.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a'i gynnydd drwy'r cyfnod craffu ar gael ar wefan y Senedd. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am weithredu'r diwygiadau hyn yn ystod ystyriaeth y Senedd o'r Bil ac yn dilyn hynny.

Mae gweddill y diweddariad hwn yn atgoffa rhanddeiliaid o newidiadau mwy uniongyrchol i'r system NDR yng Nghymru, a fydd yn cael effaith o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Rhyddhad gwelliannau

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad gwelliannau newydd yn cael ei ddarparu i gefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau sy'n cynyddu gwerth ardrethol yr eiddo y maent yn ei feddiannu. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023 bellach wedi'u gwneud yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ryddhad gwelliannau.

Rhyddhad rhwydweithiau gwresogi

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau newydd i gefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio gwres mewn eiddo annomestig. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhad ar gyfer rhwydweithiau gwresogi carbon isel. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024 bellach wedi'u gwneud yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ryddhad rhwydweithiau gwresogi.

Eithriadau ar gyfer peiriannau a pheirianwaith adnewyddadwy

Mae'r mesurau newydd i gefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy hefyd yn cynnwys eithrio, o asesiadau ardrethu yr eiddo y maent yn rhan ohonynt, beiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir mewn ynni adnewyddadwy a mannau gwefru cerbydau trydan ar y safle. Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023 bellach wedi'u gwneud yn gyfraith a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am weithredu'r newidiadau.

Ymgynghori ar ardrethi annomestig

Ar hyn o bryd, nid oes ymgyngoriadau ar agor na rhai sydd newydd gau yn ddiweddar (ers y diweddariad diwethaf) mewn perthynas ag NDR.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf yn yr haf 2024 (dyddiad dros dro).

Dolenni defnyddiol:

Llywodraeth Cymru 
Busnes Cymru 
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru 
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Senedd Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.