BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Gair am y canllawiau hyn 

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau am y ffordd y mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) yn cael ei weithredu a’i gyflwyno.  Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.
 
Nid yw'r canllawiau’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar gael ar hyn o bryd sy’n ymwneud â chyfraddau annomestig nac unrhyw ryddhad arall.
 
Gallai’r Cynllun gael ei ddiwygio unrhyw bryd. Felly, efallai y bydd rhai busnesau’n peidio â bod yn gymwys i gael rhyddhad.

Dylech anfon unrhyw gwestiynau a all fod gennych am y cynllun at: localtaxationpolicy@llyw.cymru 

Mae nifer o gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig gorfodol a dewisol ar gael hefyd sy'n rhoi cymorth ar gyfer mathau penodol o eiddo neu ddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys rhyddhad i elusennau a rhyddhad ar eiddo gwag.
 
Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig ar gael ar dudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Enw arall ar ardrethi annomestig yw trethi busnes.  Treth leol yw ardrethi annomestig yng Nghymru a chaiff ei chodi ar berchnogion a deiliaid eiddo annomestig er mwyn cael refeniw i dalu am wasanaethau’r heddlu a gwasanaethau llywodraeth leol. Mae yna oddeutu 120,000 eiddo annomestig yng Nghymru, ac mae'r ardrethi annomestig yn codi dros £1 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. Ar ôl i'r arian hwnnw gael ei gasglu, mae’n cael ei ailddosbarthu'n llawn i awdurdodau lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Mae dau newidyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo ardrethi annomestig:

  • gwerth ardrethol eiddo, a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio; a
  • y lluosydd. Caiff hwn ei bennu’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru yn unol â deddfwriaeth sylfaenol. Mae’n cynyddu i gyd-fynd â chwyddiant fel arfer.

Mae’r cynllun SBRR yn cael ei ariannu’n gyfangwbl gan Lywodraeth Cymru. Hwn yw’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu rhyddhad ardrethi gorfodol i adeiladau yn ôl eu gwerth ardrethol a’u categori defnyddio cyffredinol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • Mae eiddo busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ryddhad; ac
  • Mae'r rheini gyda gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n lleihau’n raddol o 100% i sero. 
  • Mae rhai categorïau busnes yn elwa o lefel ychwanegol o ryddhad.  Er enghraifft, swyddfeydd post ac adeiladau gofal plant cofrestredig.
  • Ers mis Ebrill 2018, mae nifer yr eiddo sy’n gymwys i gael SBRR yn cael ei gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol.

Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach 

Sut mae’r rhyddhad yn cael ei ddarparu? 

Mae’r cynllun SBRR yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac mae’n cael ei roi'n awtomatig ar filiau talwyr ardrethi cymwys.  

Sut mae’r cynllun yn cael ei weinyddu? 

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hwylus i'r rheini sy’n talu ardrethi ar fanylion y cynllun a sut mae’n cael ei weinyddu.  Os na fydd awdurdod yn gallu darparu'r rhyddhad hwn i fusnesau cymwys, am ryw reswm, dylid ystyried rhoi gwybod i fusnesau cymwys eu bod yn gymwys i gael y rhyddhad ac y bydd eu biliau’n cael eu hailgyfrifo. 

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a ddarparwyd o dan y cynllun yn eu Ffurflenni Ardrethi Annomestig (NDR1 a NDR3).
 

Sut bydd eiddo yn elwa o ryddhad? 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.  

  • Mae eiddo busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ryddhad; ac
  • Mae'r rheini gyda gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n lleihau’n raddol o 100% i sero. 

Mae rhai categorïau busnes yn elwa o lefel ychwanegol o ryddhad.  Er enghraifft, swyddfeydd post a safleoedd gofal plant cofrestredig.
 
Mae nifer yr eiddo a fydd yn gymwys i gael SBRR wedi’i gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol.

I’r dyfodol, bydd y cynllun SBRR yn parhau i gael ei ddatblygu i sicrhau bod y rhyddhad yn dal i gael ei dargedu at lle mae’r angen am gefnogaeth fwyaf er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y ffordd orau.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw defnyddio dull teg, tryloyw a blaengar wrth ddelio â threthiant lleol yng Nghymru sy'n parhau i ddarparu arian hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol.  Mae darparu cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar gyfer busnesau bach yn gam allweddol yn y broses hon.

Mae’r rheoliadau sy’n nodi SBRR ar gael ar Legislation.gov.

Pa gymorth all busnesau ei ddisgwyl?

Mae tabl 1 yn rhoi darlun o lefel y cymorth y gallai busnesau bach cymwys ddisgwyl ei dderbyn.
 

Tabl 1: Darlun o’r rhyddhad ar gyfer busnesau bach
Gwerth ArdretholSBRR

Atebolrwydd 2024-25

(£)

SBRR

(£)

Atebolrwydd ar ôl

SBRR

(£)

1,000100%5625620
2,000100%1,1241,1240
3,000100%1,6861,6860
4,000100%2,2482,2480
5,000100%2,8102,8100
6,000100%3,3723,3720
7,00083%3,9343,278656
8,00067%4,4962,9971,499
9,00050%5,0582,5292,529
10,00033%5,6201,8733,747
11,00017%6,1821,0305,152
12,0000%6,74406,744
13,0000%7,30607,306


Terfyn amlfeddiannaeth

Yn y gorffennol, roedd y cynllun SBRR yng Nghymru yn rhoi rhyddhad i bob eiddo cymwys heb gyfyngu ar y rhyddhad a oedd yn cael ei roi mewn perthynas â sawl eiddo bach yr oedd busnes yn ei ddefnyddio.

Roedd hyn yn golygu y gallai siop gadwyn genedlaethol elwa o gael rhyddhad ar bob eiddo bach yr oedd yn ei ddefnyddio ledled Cymru.

Roedd hyn yn wahanol i’r cynllun SBRR mewn rhannau eraill o’r DU, sy’n gosod rhyw fath o gyfyngiad cymhwysedd ar un ai nifer yr eiddo y mae cwmni yn eu defnyddio neu gyfanswm y rhyddhad y gall cwmni ei dderbyn.

Sut mae busnesau sy’n defnyddio sawl eiddo bach yn cael eu trin?

Mae nifer yr eiddo sy’n gymwys i gael y SBRR yn cael ei gyfyngu i ddau eiddo i bob busnes ymhob awdurdod lleol. 

Cyfrifoldeb y sawl sy’n talu’r ardreth yw dweud wrth ei awdurdod lleol os yw’n credu bod y cyfyngiad hwn yn berthnasol i’w eiddo.

Unwaith y bydd yn cael gwybod, yr awdurdod lleol sy’n gweinyddu fydd yn gyfrifol am newid bil yr ardreth annomestig.

Ni fydd eiddo sy’n bodloni’r amodau gofal plant neu swyddfa bost yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiad hwn.

Dylai’r rheini sy’n talu ardrethi gysylltu â’u hawdurdod lleol unigol os oes ganddynt gwestiynau am eu bil ardrethi annomestig a’u hawl i gael rhyddhad ardrethi. 

Pam mae adeiladau gofal plant cofrestredig yn elwa o’r cynllun SBRR newydd?

Pam mae safleoedd gofal plant cofrestredig yn elwa o Ryddhad Ardrethi Busnesau bach (SBRR) gwell? Mae'r sector gofal plant yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, gan gynnig amgylcheddau cadarnhaol a gofalgar i'n plant a helpu rhieni i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant. Mae'n sector sy'n wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i'r pandemig ac mae'r gofynion rheoliadol ar gyfer meithrinfeydd dydd (Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir) yn golygu bod eu gwerthoedd ardrethol yn aml yn fwy na busnesau bach eraill.

Er mwyn cefnogi'r heriau ariannol hyn a helpu i ddarparu'r cynnig gofal plant o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i blant 3-4 oed, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad o 100% i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Y lefel uwch hon o ryddhad yw fwriadu yn helpu i sicrhau lefel y ddarpariaeth y mae ar blant a rhieni ei hangen ac yn dibynnu arni. Dylai talwyr ardrethi gysylltu â'u hawdurdod lleol unigol gydag unrhyw ymholiadau ynghylch eu bil Ardrethi Annomestig a'u hawl i gael rhyddhad ardrethi.

Pam mae Swyddfeydd Post yn elwa ar y cynllun SBRR gwell?

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn fod gan swyddfeydd post bach rôl werthfawr yn cefnogi cymunedau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig lle mae'n bosib fod cyfleusterau’n brin, ac maent yn darparu gwasanaethau i bobl fregus gan gynnwys pobl oedrannus ac anabl.

Mae llawer o swyddfeydd post llai yn cael eu rhedeg gan is-bostfeistri  fel busnesau preifat yn hytrach na chael eu rhedeg gan Swyddfa'r Post ei hun.
 
Oherwydd hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gefnogaeth i swyddfeydd post llai fel a ganlyn:

  • Mae swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol o hyd at £9,000 yn cael 100% o ryddhad;
  • Mae swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol o rhwng £9,001 a £12,000 yn cael 50% o ryddhad.

Dylai’r rheini sy’n talu ardrethi gysylltu â’u hawdurdod lleol unigol os oes ganddynt gwestiynau am eu bil ardrethi annomestig a’u hawl i gael rhyddhad ardrethi.

Enghraifft o’r rhyddhad gwell ar gyfer Swyddfeydd Post

Mae tabl 2 yn dangos sut mae'r rhyddhad gwell ar gyfer swyddfeydd post yn cael ei drefnu gan ddefnyddio'r dull lleihau’n raddol.
 

Tabl 2: Darlun o’r rhyddhad gwell ar gyfer Swyddfeydd Post
Gwerth ArdretholSBRR

Atebolrwydd

2024-25

(£)

SBRR

(£)

Atebolrwydd ar ôl SBRR (£)

 

1,000100%5625620
2,000100%1,1241,1240
3,000100%1,6861,6860
4,000100%2,2482,2480
5,000100%2,8102,8100
6,000100%3,3723,3720
7,000100%3,9343,9340
8,000100%4,4964,4960
9,000100%5,0585,0580
10,00050%5,6202,8102,810
11,00050%6,1823,0913,091
12,00050%6,7443,3723,372
13,0000%7,30607,306

 

Pa fathau o hereditamentau nad ydynt yn gymwys i gael SBRR?

Mae nifer o eithriadau mewn perthynas â’r SBRR. Mae’r rhain yn bennaf ar gyfer mathau o eiddo sydd ddim yn cyd-fynd â’r diffiniad o fusnes bach. Mae rhai o’r eithriadau hefyd yn cydnabod y ffaith bod rhai mathau o eiddo yn gymwys i gael mathau eraill o ryddhad.

Mae’r eithriadau i'r cynllun SBRR presennol yn cynnwys:

  • Hereditamentau (eiddo annomestig) sy’n cael eu defnyddio gan gyngor, comisiynydd heddlu a throseddu, neu'r Goron; 
  • Cytiau glan môr; 
  • Hereditamentau a ddefnyddir dim ond ar gyfer arddangos hysbysebion, mannau parcio cerbydau modur, gwaith carthion neu offer cyfathrebu electronig.

Ydy eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio yn gymwys i gael SBRR? 

I fod yn gymwys i gael SBRR, mae gofyn bod eiddo yn cael ei ddefnyddio hefyd.  Mae eiddo gwag yn gymwys i gael rhyddhad ar eiddo gwag. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein dogfen ganllaw berthnasol. 

Ydy eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan elusennau yn gymwys i gael SBRR?

Nid yw eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan elusennau yn gymwys i gael y rhyddhad. Mae elusennau’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi i elusennau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein dogfen ganllaw berthnasol. 

Beth allaf ei wneud os oes gen i reswm i gredu bod fy rhyddhad wedi’i gyfrifo’n anghywir?

Os yw talwyr ardrethi yn credu bod y rhyddhad sydd wedi’i neilltuo i’w heiddo ar eu bil ardrethi annomestig yn anghywir, dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol sy’n gweinyddu’r cynllun. Bydd yn gallu delio â'u hymholiad ac ateb eu cwestiynau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.