Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ionawr 2025

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig (NDR) yng Nghymru. 

Y Diweddaraf

Cyhoeddiadau o’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, cyhoeddwyd y canlynol:

  • Bydd y cynnydd yn y lluosydd NDR ar gyfer 2025-26 wedi’i gapio ar 1%, gan arwain at luosydd o 0.568 (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd o’r rheoliadau gofynnol). Mae hyn yn is na’r cynnydd o 1.7% a fyddai fel arall yn berthnasol yn sgil chwyddiant diofyn y lluosydd yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) a bydd o fudd i bob talwr ardrethi nad yw eisoes yn cael rhyddhad llawn.
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn 40% o ryddhad NDR drwy gydol 2025-26, a fydd wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2025-26, sy’n dilyn yr un model â’r cynllun ar gyfer y blynyddoedd diwethaf.

Diwygio ardrethi annomestig

Roedd diweddariadau blaenorol i randdeiliaid yn cynnwys gwybodaeth am y newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (Deddf 2024) sydd eisoes wedi dod i rym neu a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025.

Bydd adran 12 o Ddeddf 2024 yn gosod dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gynnal ailbrisiadau yn amlach. Bydd angen i dalwyr ardrethi ddweud wrth VOA am rai newidiadau penodol i’w heiddo a bydd angen iddynt gadarnhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol bob blwyddyn. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy wasanaeth ar-lein newydd.

Bydd y ddyletswydd newydd yn cael ei chyflwyno ar ôl 1 Ebrill 2026. Bydd y gwasanaeth ar-lein yn cael ei brofi gyda nifer bach o ddefnyddwyr fesul cam, fel y gall VOA sicrhau ei fod yn gweithio i bob talwr ardrethi. Wedi hynny, disgwylir i’r ddyletswydd gael ei rhoi ar waith yn ffurfiol ac y bydd yn ofynnol i bob talwr ardrethi ei chyflawni erbyn 1 Ebrill 2029.

Ni fydd y ddyletswydd yn dod yn weithredol tan y bydd VOA a Llywodraeth Cymru yn fodlon y gall talwyr ardrethi gydymffurfio yn rhesymol ac yn effeithlon gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Mae VOA wedi cyhoeddi diweddariad gyda rhagor o wybodaeth am y newidiadau a’r amserlen ar gyfer gweithredu.

Rhyddhad i ddarparwyr gofal plant cofrestredig

Ers mis Ebrill 2019, mae darparwyr gofal plant cofrestredig wedi derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn llawn (100%). Rhoddwyd y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach uwch hwn am gyfnod o dair blynedd i gychwyn ac yna cafodd ei ymestyn am dair blynedd arall. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y cymorth hwn wedi cael ei wneud yn barhaol.

Rhyddhad elusennol i ysgolion preifat

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddwn yn tynnu rhyddhad elusennol i ysgolion preifat yn ôl. Bydd hyn yn unioni sefyllfa ysgolion preifat sy’n elusennau ag ysgolion preifat eraill at ddibenion NDR. Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, yn cael eu gwneud yn gyfraith a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025.

Ymgynghori ar ardrethi annomestig

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Rhyddhad ardrethi annomestig elusennol i ysgolion preifatcrynodeb o’r ymatebion

Bu’r ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol i ysgolion preifat yn ôl ar agor am ddeuddeg wythnos, o 23 Medi i 16 Rhagfyr 2024.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf yn ystod haf 2025 (dyddiad dros dro).

Dolenni defnyddiol:
Llywodraeth Cymru 
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.