BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer rhwydweithiau gwresogi i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol. Maent yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau eraill.

Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol yma. Dylid anfon ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau hyn a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig at Lywodraeth Cymru yn y cyfeiriad e-bost canlynol: TrethiPolisiLleol@llyw.cymru.

Mae nifer o ryddhadau ardrethi gorfodol a dewisol eraill ar gael hefyd ar gyfer mathau penodedig o eiddo neu feddianwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am gynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig ar dudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i nodau datgarboneiddio a sero net. Mae rhyddhad rhwydweithiau gwresogi wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i gefnogi'r twf yn y maes carbon isel o'r sector hwn a ragwelir dros y degawd nesaf.

Mae rhwydweithiau gwresogi yn cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i ddefnyddwyr, drwy rwydwaith o bibellau. Maent yn amrywio'n fawr o ran eu maint a'r defnydd a wneir ohonynt, o system wresogi gyffredin mewn adeilad amlfeddiannaeth i rwydweithiau annibynnol mawr sy'n darparu gwres neu bŵer i lawer o gwsmeriaid ac adeiladau ar draws ardal fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad llawn (100%) ar gyfer hereditamentau annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi ac sy'n cyflenwi ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel. Mae'r amodau hyn yn cael eu nodi a'u diffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024,  a'u hesbonio'n fanylach yn y canllawiau hyn.

Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi datblygiad a thwf y sector hwn, drwy helpu i leihau'r rhwystrau ariannol i sefydlu rhwydweithiau. Bwriedir i hyn helpu i gefnogi'r broses o symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil a datgarboneiddio gwres.

Bydd y rhyddhad ar waith o 1 Ebrill 2024 ac ar gael hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2035.

Cymhwystra i gael rhyddhad rhwydweithiau gwresogi

Sut y pennir cymhwystra i gael y rhyddhad?

Mae hereditament (uned o eiddo ag asesiad ardrethu) ar restr ardrethu leol yng Nghymru yn gymwys i gael y rhyddhad os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi sy'n cyflenwi ynni thermol a gynhyrchir o ffynhonnell carbon isel. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am filiau ardrethi annomestig a chymhwyso rhyddhadau. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol fod yn fodlon bod yr amodau cymhwystra hyn wedi'u bodloni cyn ei fod yn cymhwyso'r rhyddhad.

A ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi

At ddibenion y rhyddhad, mae rhwydwaith gwresogi yn gyfleuster sy'n cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i gwsmeriaid, drwy rwydwaith o bibellau, at ddibenion gwresogi gofod, oeri gofod neu ddŵr poeth domestig. Ni fydd rhwydweithiau sy'n darparu gwres yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddiben arall (megis proses ddiwydiannol) yn gymwys.

Mae'n rhaid i'r hereditament yn ei gyfanrwydd ateb y diffiniad hwn. Nid yw rhyddhad rhwydweithiau gwresogi ar gael am ran o hereditament. Mae llawer o rwydweithiau gwresogi yn rhan o'r gwasanaethau i eiddo a ddefnyddir at ddiben ehangach ac nid oes ganddynt asesiad ardrethu ar wahân. Ni fydd eiddo o'r fath yn gymwys i gael y rhyddhad.

Bydd rhwydweithiau gwresogi sy'n cael eu rhedeg fel busnesau ar wahân ac sy'n gyfystyr â hereditament annomestig yn eu rhinwedd eu hunain yn gymwys i gael y rhyddhad. Mae rhwydweithiau o'r fath yn osgoi'r angen am foeleri neu wresogyddion trydan unigol ym mhob adeilad a gyflenwir ganddynt. Felly, gallent leihau biliau ac allyriadau carbon o systemau gwresogi. Mae rhwydweithiau gwresogi yn unigryw oherwydd gallant ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni a adferwyd ar raddfa fawr megis gwres o wastraff, afonydd a mwyngloddiau.

Mae a wnelo'r amod hwn ag ynni thermol, nid dibenion cynhyrchu trydan. O ganlyniad, ni ddisgwylir i hereditamentau sy'n cynnwys gorsafoedd pŵer a system adfer gwres a rhwydwaith fod yn gymwys i gael y rhyddhad. Petai system adfer gwres a rhwydwaith sy'n cael gwres o orsaf bŵer mewn hereditament gwahanol i'r orsaf bŵer, gallai fod yn gymwys o hyd. Ni fyddai cyfleuster gwres a phŵer cyfunol sy'n cynhyrchu mwy o drydan na gwres yn gymwys i gael y rhyddhad.

Bydd ystyriaethau tebyg yn gymwys lle y daw'r gwres o losgydd neu safle a ddefnyddir i gynhyrchu ynni o wastraff. Os bydd y rhwydwaith gwresogi yn rhan o'r un hereditament â'r llosgydd neu'r safle, oni bai ei fod wedi'i ddynodi'n benodol yn rhwydwaith gwresogi, mae'n annhebygol o fodloni'r amod hwn. Ei brif ddiben fydd llosgi gwastraff neu gynhyrchu pŵer, yn ôl pob tebyg. Os bydd y rhwydwaith gwresogi yn ffurfio ei hereditament ar wahân ei hun, gallai fod yn gymwys o hyd.

Gwres a gynhyrchir o ffynhonnell carbon isel

Bydd y rhyddhad yn gymwys os ymddengys i'r awdurdod lleol y mae'r hereditament wedi'i leoli ynddo, am y 12 mis yn dechrau â'r diwrnod dan sylw y gellir codi swm ynglŷn ag ef, y bydd yr ynni thermol a gynhyrchir gan y rhwydwaith gwresogi yn cael ei gynhyrchu o ffynhonnell carbon isel. Ystyrir bod hyn yn ffynhonnell sy'n cynhyrchu o leiaf:

  • 75% o wres a gydgynhyrchir
  • 50% o wres adnewyddadwy
  • 50% o wres gwastraff
  • 75% o ynni sy'n gyfuniad o'r uchod

Ystyrir bod ynni thermol a gynhyrchir o ffyhonnell adnewyddadwy yn dod yn bennaf neu'n gyfan gwbl o'r canlynol:

  • biomas
  • biodanwyddau
  • bio-nwy
  • celloedd tanwydd
  • ffotofoltäeg
  • dŵr (gan gynnwys tonnau a llanwau)
  • y gwynt
  • yr haul
  • systemau geothermol
  • gwres o aer, y gwynt neu'r ddaear

Mae gwres gwastraff yn cynnwys ynni thermol na ellir osgoi ei gynhyrchu fel sgil-gynnyrch proses arall, a fyddai'n cael ei wastraffu pe na bai'n cael ei ddefnyddio at ddibenion rhwydwaith gwresogi. Gall hyn gynnwys gwres a gynhyrchir drwy losgi gwastraff. Fodd bynnag, ni fyddai hereditamentau a ddefnyddir yn bennaf at ddiben llosgi gwastraff yn bodloni'r amod bod hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi.

Ystyr gwres a gydgynhyrchir yw ynni thermol a gynhyrchir ar yr un pryd ac yn yr un broses ag ynni trydan neu fecanyddol. Gallai gael ei gynhyrchu o ffynonellau gwres a phŵer cyfunol, ond byddai'n rhaid i'r hereditament hefyd fod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi. Er enghraifft, ni fyddai hereditamentau a ddefnyddir yn bennaf i gynhyrchu a gwerthu trydan, gydag ynni thermol yn cael ei gydgynhyrchu fel sgil-gynnyrch, yn bodloni'r amod hwnnw.

Mae'r diffiniad hwn o ffynhonnell carbon isel yn seiliedig ar baramedrau y mae Llywodraeth Cymru ar ddeall eu bod yn cael eu cydnabod yn eang yn y sector rhwydweithiau gwresogi a'u defnyddio at ddibenion eraill (e.e. y Prosiect Buddsoddi mewn Rhwydweithiau Gwresogi). Felly, disgwylir i weithredwyr rhwydweithiau gwresogi cymwys allu deall y diffiniad hwn a darparu tystiolaeth ddibynadwy eu bod yn ateb y diffiniad.

Gweinyddu rhyddhad rhwydweithiau gwresogi

Sut y caiff y rhyddhad ei roi?

Bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu'r rhyddhad, pan fyddant yn fodlon bod yr amodau cymhwystra wedi'u bodloni. Argymhellir y dylai'r awdurdod lleol perthnasol geisio datganiad gan y talwr ardrethi i gadarnhau ei fod yn bodloni'r amod carbon isel. Am y rheswm hwn, rhagwelir y bydd angen i dalwyr ardrethi wneud cais am y rhyddhad hwn a bydd gofyn iddynt adnewyddu eu datganiad bob blwyddyn wedi hynny.

Caiff rhyddhad rhwydweithiau gwresogi ei gymhwyso cyn unrhyw ryddhad llawn neu rannol arall y gall talwr ardrethi fod yn gymwys i'w gael, ac eithrio rhyddhad gwelliannau (a gymhwysir wrth gyfrifo rhwymedigaeth mewn ffordd wahanol i ryddhadau eraill).

Bydd gofyn i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a roddwyd yn eu ffurflenni ardrethi annomestig (NDR 1 ac NDR 3).

Sut y bydd talwyr ardrethi yn cael budd o'r rhyddhad?

Pan fydd hereditament yn bodloni'r amodau cymhwystra ac yn parhau i wneud hynny, bydd y talwr ardrethi yn cael budd o ryddhad llawn o'r swm o ardrethi annomestig a godir tan 31 Mawrth 2035. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.