Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref fel rhaglen beilot i roi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam.
Bydd y gronfa hon ar gael fel grant dewisol o rhwng £2,500 - £10,000 fesul busnes i gefnogi gyda'r costau refeniw sydd ynghlwm â dechrau busnes mewn canol tref neu adleoli i ganol tref.
Er mwyn manteisio ar y gronfa, rhaid i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb (ar gael i'w lawrlwytho isod) a chofrestru gyda Busnes Cymru. Yna cewch eich neilltuo â Chynghorydd Busnes a fydd yn eich cefnogi a'ch arwain drwy'r broses ymgeisio lawn.
Bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddynt fod naill ai'n fusnes newydd (cyn-refeniw) neu'n ficro fusnes (yn cyflogi rhwng 0-9 o weithwyr) sydd wedi bod yn masnachu ers llai na 2 flynedd.
- Darparu cynllun busnes 12 mis dichonadwy ar gyfer y lleoliad dynodedig yng nghanol y dref.
- Darparu rhagolygon llif arian o 12 mis o'r dyddiad y bydd y busnes newydd yn dechrau masnachu yn y lleoliad yng nghanol y dref.
- Arddangos isafswm arian cyfatebol o 100% ar gyfer y grant (drwy arbedion, benthyciadau etc.).
- Yn gallu ymrwymo i denantiaeth yn un o'r pedwar canol tref am o leiaf 12 mis.
- Meddu ar fynediad at gyfrif banc busnes ar gyfer y busnes sy'n gwneud cais am y grant.
- Rhaid i'r busnes fod yn brif ffynhonnell incwm a/neu gyflogaeth yr ymgeisydd.
- Yn gofrestredig ac yn gweithredu'n llwyr yng Nghymru.
- Rhaid i'r perchennog busnes gyflwyno'r cais, yn hytrach nag asiantau sy'n gweithredu ar eu rhan, ond nid yw hyn yn golygu na all ymgeiswyr geisio cefnogaeth i helpu gyda chwblhau ffurflen gais.
Nid oes unrhyw waharddiadau i unrhyw un sydd wedi cael cefnogaeth ariannol yn y gorffennol gan naill ai Llywodraeth Cymru neu Awdurdodau Lleol, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y gronfa hon.
Mae Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru yn agored i geisiadau tan 20 Mehefin 2022, os yw'r cronfeydd yn caniatáu. Os caiff cronfeydd eu defnyddio cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn cau.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r gronfa a'r meini prawf cymhwysedd, lawrlwythwch y nodiadau canllaw a'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau a hoffech sgwrsio ag un o'n tîm, cysylltwch â 03000 6 03000.