Boddhad Cwsmeriaid Gwasanaeth Busnes Cymru

Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Beaufort Research i gynnal arolwg gyda defnyddwyr diweddar gwasanaeth Busnes Cymru, y cwsmeriaid hynny sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn yr 8 mis cyn cael eu cyfweld. Bydd yr arolwg yn coladu lefelau boddhad gan ganolbwyntio'n benodol ar ansawdd.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Beaufort Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg dros y ffôn. 

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Beaufort Research yn symud unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad dienw.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau wrth gael mynediad at wasanaeth Busnes Cymru yn bwysig er mwyn helpu i lywio darpariaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU (GDPR y DU) yn diffinio data personol fel 'unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu’r data a roddwyd gennych pan wnaethoch gofrestru gyda Gwasanaeth Busnes Cymru er mwyn i Beaufort Research gysylltu â chi. Mae gan Lywodraeth Cymru'r data personol canlynol a fydd yn cael ei drosglwyddo'n ddiogel i Beaufort Research:

  • Enw
  • Cyfeiriad busnes
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost

Data Categori Arbennig

Mae rhai elfennau o’r data rydym yn ei rannu yn ‘ddata categori arbennig’:

  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Statws anabledd

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon yw Erthygl 9(2)(a) o GPDR y DU. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data categori arbennig ond pan fydd angen gwneud hynny at ddibenion ymchwil ystadegol yn unol ag Erthygl 89(1), a bydd yn ddarostyngedig i’r mesurau diogelu priodol ar gyfer hawliau a rhyddid testun y data, yn unol â’r Rheoliad hwn.  

Pan fyddwch yn cymryd rhan yn y cyfweliad ffôn ar gyfer yr arolwg, gofynnir cwestiynau opsiynol ichi mewn perthynas â data personol. Os byddwch yn dewis darparu’r data personol ychwanegol hwn fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu eich hunaniaeth â nhw. Gall yr wybodaeth hon gynnwys eich oedran, eich rhywedd a’ch ethnigrwydd. Os byddwch yn cyflwyno ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais yn ôl at y swyddog perthnasol yn unig.

Pan gynhelir arolwg dros y ffôn, bydd y gweithredwr yn nodi'r ymatebion a roddwch ac yn recordio’r sgwrs am resymau ansawdd a monitro. Mae’n bosibl y bydd y recordiad hefyd yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion ansawdd a monitro. Bydd Beaufort Research yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r arolwg ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym nad ydych am gymryd rhan os nad ydych yn hapus i’r drafodaeth gael ei recordio.  Bydd y cofnodion cael eu dileu o fewn 6 mis ar ôl diwedd yr arolwg. 

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Bydd rhywfaint o'r data rydym yn ei gasglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn eich statws ethnigrwydd ac anabledd) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • Gynllunio darpariaeth cymorth busnes yn y dyfodol
  • Gwerthuso lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Beaufort Research bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael gafael ar y data, a dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Beaufort Research yn defnyddio'r data hwn. 

Mae gan Beaufort Research weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os drwgdybir bod achosion o’r fath wedi digwydd, bydd Beaufort Research yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn a byddan nhw’n rhoi gwybod i chi ac unrhyw reolydd perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol iddynt wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Ni fydd eich busnes yn cael ei adnabod yn y set ddata ddienw hon. Bydd Beaufort Research yn dadansoddi'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu canlyniadau penawd a data dienw. Yna caiff y set ddata ddienw hon ei throsglwyddo'n ddiogel i Lywodraeth Cymru sy'n dehongli'r canlyniadau i wella'r modd y darperir gwasanaethau a'r ddarpariaeth yn y dyfodol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol? 

Bydd Beaufort Research yn cadw data personol am hyd y contract (Ionawr 2025 – Rhagfyr 2025, a gall hyn gael ei estyn i fis Mawrth 2028), a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Beaufort Research dim hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd y contract. 

Hawliau unigolion

O dan ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych yr hawliau y canlynol:

  • i cael gwybod am y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch a gweld y data hwnnw
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (dan amgylchiadau penodol)
  • cludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol dros ddiogelu data

Gwybodaeth Gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch ag:

Owen Knight, Rheolwr Prosiect Cyfeiriad 

E-bost: owen@beaufortresearch.co.uk   

Rhif ffôn: 029 20376741

Gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd: Gwerthusiad o Seilwaith a Ariannwyd gan yr UE yng Nghymru: Arolwg Clwstwr o Fusnesau - BeaufortResearch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data Llywodraeth
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru 

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: 

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. 

Ffôn: 0303 123 1113. 

Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.