Mewn ymgais i annog busnesau i gael mynediad at farchnadoedd rhyngwladol, mae’r Adran Busnes a Masnach (DBT) yn cynnig arbenigedd a chymorth gwerthfawr.
P’un a ydych chi’n newydd i fasnach fyd-eang neu’n ceisio cynyddu’ch gwerthiannau ar draws y byd, mae’r DBT yn cynnig llawer o wybodaeth, hyfforddiant, digwyddiadau, a chymorth arbenigol. Mae’r safle’n ymdrin â chodau, tariffau, ariannu, a chyllid. Gallwch ddysgu a chysylltu trwy ofyn cwestiynau neu archwilio opsiynau cymorth wyneb yn wyneb gan y DBT.
Darganfyddwch fwy trwy ddewis y ddolen ganlynol: great.gov.uk
Diben Academi Allforio’r Deyrnas Unedig, sef rhaglen hyfforddiant ar-lein am ddim gan y DCT, yw rhoi’r hyder a’r wybodaeth i fusnesau yn y Deyrnas Unedig i gynyddu gwerthiannau byd-eang.
Cynyddwch eich gwybodaeth am allforio trwy eu sesiynau Hanfodion neu datblygwch eich sgiliau presennol trwy ddigwyddiadau Dosbarthiadau Meistr a Sectorau a Marchnadoedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac ymuno â’r rhaglen hyfforddiant am ddim, dewiswch y ddolen ganlynol: UK Export Academy — Great.gov.uk
Edrychwch ar yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a all eich helpu gyda phob cam o'ch taith: Hafan | Drupal (gov.wales)