BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Busnesau lletygarwch yng Nghymru i gau am 10pm, daw hyn wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru i atal argyfwng newydd oherwydd y coronafeirws.

O ddydd Iau ymlaen, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig y bydd busnesau lletygarwch yn cael ei gynnig, a bydd siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, yn gorfod rhoi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

Mae’r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cydgysylltiedig sy’n cael eu rhoi ar waith ledled y Deyrnas Unedig i reoli lledaeniad y coronafeirws. Byddant yn dod i rym am 6pm ddydd Iau, 24 Medi 2020.

I helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach, cyhoeddodd Prif Weinidog y camau canlynol hefyd:

  • taliad newydd o £500 i helpu pobl ar incwm isel os gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd bod y coronafeirws arnynt
  • rheoliadau cryfach i sicrhau bod cyflogwyr yn cefnogi pobl sy’n gorfod

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru:

Mae'r Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi amlinellu cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i roi sicrwydd i fusnesau a gweithwyr ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws, gan gyhoeddi:

• toriadau a gohiriadau treth

• hyblygrwydd i fusnesau ad-dalu benthyciadau

• cynllun cefnogi swyddi newydd

Am fanylion pellach ewch i wefan gov.uk.

Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.