Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd
Mae Cronfa Penodol i’r Sector bellach wedi cau.
Er mwyn helpu busnesau i ganfod yr ystod amrywiol o gymorth sydd ar gael i’w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn, cymerwch olwg ar dudalennau Dod o Hyd i Gymorth Busnes COVID-19 yr ydym wedi'u creu.
Mae'r pecynnau cymorth hyn wedi'u cynllunio i gefnogi cymaint o economi Cymru â phosibl, ac maent yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, fel y manylir yn y dolenni isod, fodd bynnag mae cymorth cynghori busnes ar gael ar-lein drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i'ch cynorthwyo gyda chynllunio ariannol ac adfer eich busnes pan fydd yr achosion yn dod i ben, a busnesau'n dechrau ystyried eu hadferiad.
Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i economi Cymru gyfan, ac mae'r cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu wedi'i gynllunio i gynorthwyo cynifer o fusnesau ag y bo modd drwy'r argyfwng.
Darparu cyfarpar critigol a chyfarpar diogelu personol (PPE)
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o gyfarpar critigol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau a PPE i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod yr achosion o COVID 19. Os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu, mae gwybodaeth am sut i ymgysylltu ar gael yma.
Maes Allweddol