Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 7 a 13 Chwefror 2022. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau.
Mae Wythnos Prentisiaethau, sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, yn amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau gyfan i hyrwyddo prentisiaethau a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar draws Cymru.
Ymunwch â’r sgwrs ar twitter:
- @NTFWwbl
- @ApprenticeWales
- #WPCymru #AdeiladurDyfodol
Am ragor o wybodaeth ewch i:
- Prentisiaethau | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)
- Prentisiaethau | LLYW.CYMRU
- App Week 2022 Toolkit WELSH.pdf (gov.wales)
- https://www.ntfw.org/events/