Recriwtiwch brentis a thrawsnewid eich busnes drwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol.
Prentisiaethau
Mae gan Gymru Raglen Brentisiaeth hynod lwyddiannus, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd uchel, y llwybrau sgiliau cywir a'r lefel gywir o gymorth i helpu i sicrhau gwydnwch economaidd.
Mae prentisiaethau yn ddewis doeth sy'n gallu:
- Galluogi recriwtio cost-effeithiol – rydych chi’n talu cyflog y prentis ac rydym ni’n talu am gost yr hyfforddiant
- Creu cronfa o dalent – gyda gweithlu medrus, cymwysedig
- Llenwi bylchau sgiliau – i fodloni eich gofynion presennol ac yn y dyfodol
- Helpu eich busnes i dyfu – p'un a ydych yn dewis recriwtio, ailhyfforddi neu adleoli eich gweithlu
Os ydych yn newydd i brentisiaethau, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chi. Neu gallwch gysylltu â Darparwr Hyfforddiant - cellir rhestr lawn ohonynt yma.
Gellir darllen Canllaw i Gyflogwyr ar Brentisiaethau yma.
Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithas – facebook: apprenticeshipscymru a twitter: apprenticewales
Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Mae'r Rhaglen Brentisiaethau ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | Cymru Gyfan | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Llywodraeth Cymru |



