BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Addewid Twf Gwyrdd

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd.

Beth yw’r Addewid Twf Gwyrdd?

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.

Mae’n cynnig ystod o weithredoedd syml ac ymarferol a all eu cymryd, fel lleihau defnydd o gerbyd, cynyddu effeithlonrwydd dŵr ac ynni, a gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol a fydd yn helpu cwmnïau i ddod yn fwy effeithlon, datgarboneiddio ac ennill busnes newydd. 

Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad cynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol                  
  • Logisteg a thrafnidiaeth effeithlon                  
  • Defnyddio tir, ynni a dŵr yn ddoeth              
  • Mesur effeithiau eich busnes                        
  • Gwella llesiant staff a’ch cymuned leol
  • Defnyddio pecynnau addas
  • Atal gwastraff a llygredd
  • Adolygu cynnyrch a gwasanaethau
  • Hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy

Cymryd Rhan


Pam ddylai fy musnes gymryd rhan?

Bydd llofnodi’r Addewid Twf Gwrdd yn helpu eich busnes i:

  • Gynyddu ei siawns o ennill tendrau
  • Cynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau buddsoddiad
  • Arbed arian yn hirdymor
  • Dod yn fwy effeithlon a gwella ei wytnwch  
  • Gwella delwedd y brand ac ennill mantais gystadleuol
  • Gosod arfer gorau i eraill ei ddilyn

Byddwch hefyd yn ymuno â chymuned gynyddol o dros 2,150 o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth cynaliadwy gan Busnes Cymru, gan helpu Cymru i ddatgarboneiddio a phontio at ddyfodol carbon isel.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru’n cynnig mynediad at wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn rhithiol, yn ogystal â chymorth arbenigol.

Mae gweminarau a gweithdai rhithiol yn cael eu cynnal yn rheolaidd i helpu gydag ystod o faterion busnes gan gynnig mynediad at arbenigedd annibynnol a diduedd.

Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy.


Rhagor o wybodaeth

Astudiaeth Achos - Excell Rail

Mae Excell Rail, a gafodd ei sefydlu yn 2009 gan Daniel Dummer, yn ddarparwr gwasanaethau recriwtio annibynnol yn y sector rheilffordd. Ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru, llofnododd Daniel yr Addewid Twf Gwyrdd sydd wedi’i alluogi i:

- Nodi wyth maes blaenoriaeth allweddol i’w datblygu
- Haneru’r defnydd o danwydd trafnidiaeth ac allyriadau carbon
- Datblygu cadwyn gyflenwi sy'n 100% lleol
- Gwella eu proffil tendro drwy arddangos arferion cynaliadwyedd da

Darllenwch fwy am fusnesau eraill sydd wedi llofnodi’r addewid Twf Gwyrdd yma

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.