Lansiwyd y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ym mis Medi 2019 gan Lywodraeth Cymru. Lluniwyd y fenter i helpu busnesau ar draws y sectorau â blaenoriaeth i recriwtio talent newydd a goresgyn prinder sgiliau heddiw ac yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen hefyd yn ymateb i ofynion cyflogwyr mewn perthynas â gwella sgiliau. Gall gefnogi cyflogwyr i baratoi ar gyfer eu hanghenion o ran sgiliau a chymwysterau eu gweithlu yn y dyfodol a chryfhau busnesau yn y cyfnod ansicr hwn.
Ar gyfer cyflogeion o dan 24 oed, mae Cyfrifon Dysgu Personol hefyd yn rhan bwysig o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru i bobl ifanc 16-24 oed.
Diogelu’ch busnes at y dyfodol
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl gyflogedig ennill y sgiliau a’r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i newid gyrfa neu i wella’u sgiliau, ac ar yr un pryd mae'n darparu cyfle i recriwtio staff newydd ac i oresgyn prinder sgiliau nawr ac yn y dyfodol.
Gall y rhaglen hefyd yn helpu cyflogwyr i wneud y canlynol:
- Gwella sgiliau eu staff drwy gynnig cyrsiau a chymwysterau hyblyg ar gyfer llenwi bylchau o ran sgiliau nawr ac yn y dyfodol, gan ei gwneud yn bosibl i’w busnes addasu i newidiadau yn yr economi ac ymateb iddynt.
- Cael gafael ar unigolion sy’n dymuno newid gyrfa a chamu i lefel uwch o ran eu gwaith, lle y mae cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ar gael. Bydd yr unigolion hyn yn helpu i lenwi’r bylchau o ran sgiliau a nodwyd ledled y sectorau â blaenoriaeth.
A yw eich anghenion busnes wedi newid o ganlyniad i Covid-19?
Mae’n bosibl fod eich anghenion o ran sgiliau wedi newid o ganlyniad i Covid-19, er enghraifft:
- efallai bod angen i chi newid y ffordd rydych yn marchnata’ch busnes nawr
- mae’n bosibl y bydd angen sgiliau digidol newydd ar eich gweithwyr er mwyn addasu i farchnadoedd newydd
Mae’n bosibl y bydd y Cyfrif Dysgu Personol yn gallu helpu drwy wneud y canlynol:
- cefnogi’r broses o ddatblygu sgiliau eich gweithlu drwy gynnig cyrsiau hyfforddi hyblyg
- ei gwneud yn bosibl iddyn nhw ennill cymwysterau i’ch helpu chi i lenwi bylchau sgiliau presennol yn eich busnes
- eich helpu chi i fynd i’r afael â heriau presennol a thyfu eich busnes.
Darganfod talent newydd a recriwtio pobl â’r sgiliau cywir
Gyda chymorth eich busnes chi a sefydliadau eraill yn y sectorau â blaenoriaeth, mae Cyfrif Dysgu Personol wedi'i gynllunio i roi’r adnoddau sydd eu hangen ar ddysgwyr i’w gwneud yn bosibl iddynt wella’u rhagolygon o ran gyrfa neu i newid gyrfa, gan ennill y sgiliau a'r cymwysterau yr ydych chi eu hangen i ddatrys prinder sgiliau ar yr un pryd.
Cymryd rhan a helpu i deilwra’r cyrsiau at anghenion eich busnes
Mae colegau'n awyddus i fusnesau lleol fel chi gymryd rhan yn y rhaglen beilot a helpu i lunio'r cyrsiau. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes.
Mae'r colegau'n awyddus i gael eich barn ar y cyrsiau, â chithau yn eich tro yn cynnig eich cefnogaeth i ddysgwyr trwy gynnig eu mentora, cynnig profiad gwaith iddynt a'r cyfle i ymgeisio am swyddi addas yn eich busnes.
Trwy recriwtio trwy Gyfrif Dysgu Personol gallwch: leihau costau, creu cronfa o dalent a gweithlu medrus, ehangu eich busnes a llawer yn rhagor. Gall unrhyw fusnes, o unrhyw faint, yng Nghymru elwa ar hyn felly cofrestrwch eich diddordeb a chymryd rhan.
Manylion cyswllt
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth gallwch lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb neu siaradwch â'ch coleg lleol.
Rhestr Wirio Rhaglen | |
---|---|
Ardal Gyflenwi | Cymru Gyfan |
Statws | Yn fyw |
Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop? | Nac ydi |
Arweinydd Rhaglen |
Colegau Addysg Bellach |