Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi'u sefydlu i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion sy'n seiliedig ar angen lleol a rhanbarthol.

 

Dyma'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol:

  • Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru
  • De-ddwyrain Cymru Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Partneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol De Orllewin a Chanolbarth Cymru
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Gwaith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRhau) yw dadansoddi'r heriau economaidd a'r meysydd twf tebygol er mwyn nodi'r sgiliau sydd eu hangen o fewn y gweithlu. 

Maent yn creu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol er mwyn dadansoddi a dylanwadu ar ddarpariaeth sgiliau'n seiliedig ar angen economaidd rhanbarthol, i gefnogi twf a phrosiectau seilwaith allweddol ym mhob rhanbarth.

Mae'r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol yn cefnogi ac yn adeiladu ar flaenoriaethau a nodwyd gan Ardaloedd Menter, y Fargen Ddinesig, Dinas-ranbarthau a thrwy gydweithio trawsffiniol.

Caiff y cynlluniau eu hailwampio bob tair blynedd a byddent yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch blaenoriaethu a'r defnydd o gyllid ar gyfer sgiliau gan gynnwys dyraniadau Prentisiaeth ac Addysg Bellach

O fewn eu rhanbarthau, mae PSRhau hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil parhaus, Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, datblygu a chyflawni prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sicrhau bod rhanbarthau'n cydweddu'n strategol â chynigion am gyllid oddi wrth Ewrop, a gweithio gyda chwmnïau angori a chwmnïau eraill o bwysigrwydd rhanbarthol.

Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol 2019-22


Adolygiad Annibynnol o’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

Ym mis Mawrth 2019 comisiynwyd SQW i ystyried cysondeb mewnwelediad a gwybodaeth am sgiliau a gesglir gan y PSRhau a sut y defnyddir ac y cyflwynir hyn; a sut mae’r PSRhau yn cyfrannu at, llywio ac yn cael eu llywio gan gynlluniau’r Bargenion Twf a Dinesig. Cynhaliwyd yr ymchwil ym misoedd Mawrth ac Ebrill ac roedd yn cynnwys ymgynghoriad gyda rheolwyr a chadeiryddion y PSRhau, yn ogystal â rhanddeiliaid ehangach.

Mae canfyddiadau'r adolygiad ar gael yma yn adroddiad SQW ar gyfer Llywodraeth Cymru - “Adolygiad Annibynnol o gynllunio seiliedig ar dystiolaeth y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol”.


Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cyfres o dri Adroddiad Rhanbarthol ar Wybodaeth am y Farchnad Lafur er mwyn sicrhau bod gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol set gyson o wybodaeth graidd am y farchnad lafur i seilio eu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol arnynt.

Yn ogystal â helpu'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, dylai'r Adroddiadau Rhanbarthol ar Wybodaeth am y Farchnad Lafur fod yn ffynhonnell wybodaeth hwylus i bob defnyddiwr.


Sgiliau Map Partneriaeth Ranbarthol

I gael gwybod sut mae ein partneriaid rhanbarthol yn bwriadu ymdrin a’r blaenoriaethau economaidd yn eich rhanbarth, cliciwch ar eich rhanbarth chi.