Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gwneud pethau'n symlach. Rhagor o wybodaeth am gwcis.
Rydym wedi datblygu Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd sy’n caniatáu i chi hysbysebu unrhyw gyfleoedd am brentisiaethau. Datblygwyd y system er mwyn helpu i symleiddio’r broses o hysbysebu prentisiaethau gwag a chefnogi eich proses recriwtio drwy’r gwasanaeth Rheoli Prentisiaethau.
Mae Dod o hyd i Brentisiaeth yn caniatáu i unigolion weld yr holl brentisiaethau gwag sydd ar gael yng Nghymru, ac mae ar gael i unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd gyda chyflogwyr. Mae’r safle’n gwbl ddwyieithog, a felly gall defnyddwyr chwilio am gyfleoedd yn ei dewis iaith.Chwilio am brentisiaeth
Mae Proffil Cyflogwyr yn galluogi darpar brentisiaid i ddysgu mwy am eich sefydliad a’r manteision a’r cyfleoedd rydych yn eu cynnig. Os hoffech ychwanegu eich proffil cyflogwr i’r Gwasanaeth, a fydd i’w weld ar llyw.cymru/prentisiaethau, llenwch y ffurflen isod. Bydd y tîm Prentisiaethau yn cadarnhau pan fydd eich proffil wedi’i lanlwytho.
Os hoffech gynnwys logo cwmni gyda'ch Proffil Busnes (mathau a ganiateir: JPEG. Gif. PNG.), anfonwch ymlaen at: GPG-Ymholiadau@llyw.cymru