Gwarant i Bobl Ifanc

Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn sicrhau nad oes 'cenhedlaeth goll' yng Nghymru o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ei nod yw rhoi cymorth i bawb dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae'r warant yn dwyn ynghyd ystod o raglenni a mentrau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fusnesau ledled Cymru ymrwymo i'r Warant i Bobl Ifanc a helpu i'w gwneud yn llwyddiant drwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad neu gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith drwy leoliadau profiad gwaith, sesiynau blasu, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg.  Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg. 

Diogelu eich busnes at y dyfodol

Mae cyflogi pobl ifanc a darparu gwaith teg yn ffordd wych o ddiogelu eich busnes at y dyfodol a dod o hyd i dalent newydd sy'n cynnig safbwyntiau newydd.  Fel rhan o'r Warant i Bobl Ifanc, mae busnesau'n cael cymorth i recriwtio a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc drwy gymorthdaliadau cyflog, grantiau hyfforddi a chyngor arbenigol.

Mae pecynnau cymorth sy'n rhan o'r Warant i Bobl Ifanc yn cynnwys:

Eisiau helpu eich gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn a rhoi hwb i’ch busnes ar yr un pryd?