Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle

Hawliau gweithwyr

P’un a ydych chi’n weithiwr neu’n gyflogwr dylem i gyd fod yn ymwybodol o’n hawliau a’n cyfrifoldebau yn y gweithle.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fwynhau gweithle lle cawn ein trin yn deg a theimlo’n ddiogel. Dyna pam rydym yn eich cysylltu â’r bobl a all eich helpu i gael gwybod mwy am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Weithwyr

Mynnwch wybod eich hawliau
 

 


Dysgwch fwy am eich hawliau yn y gwaith.

O gyngor am ddiswyddiadau yn sgil COVID 19 i gwestiynau am isafswm cyflog, gwyliau, iechyd a diogelwch yn y gwaith, a thâl salwch, mae yna bobl sy’n gallu helpu.

TUC Cymru

Dysgwch fwy am sut i ddiogelu eich hawliau yn y gwaith

Pan fo grŵp o weithwyr yn gweithredu ac yn siarad fel un, mae eu cyflogwr yn gorfod gwrando. Dyna sut mae undebau yn gwella pethau yn y gwaith.

Gall undebau negodi gwell cyflog i’w haelodau, helpu i wneud gweithleoedd yn fwy diogel a sicrhau eich bod yn cael y fargen orau yn y gwaith. P’un a ydych chi eisiau cyngor ar eich hawliau yn y gwaith neu gyfleoedd hyfforddi, neu’n teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg, mae eich undeb yno i’ch cefnogi i gael y canlyniad iawn.

 

Darganfyddwch fwy

 

Acas

Mae Acas yn cynnig cyngor ar y gyfraith gyflogaeth, hawliau cyflogaeth ac arferion gorau.

Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu i ddatrys anghydfodau yn y gweithle.

Darganfyddwch fwy

Cyngor ar bopeth

Os oes gennych broblem yn y gwaith a/neu os ydych yn meddwl eich bod yn dioddef triniaeth annheg neu wahaniaethu, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol.

Darganfyddwch fwy

   
   
   

Gyflogwyr

Mynnwch wybod eich cyfrifoldebau

 


Dysgwch fwy am sut i gefnogi eich gweithwyr.

Fel cyflogwr, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn y gwaith ac yn cael eu trin yn dda.

Os oes angen cyngor a chyfarwyddyd arnoch ynghylch gofalu am eich staff, mae yna bobl a all helpu.

CBI

Rydyn ni’n grymuso busnesau drwy gynnig gwybodaeth i’w galluogi i wneud penderfyniadau deallus, gan osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant.

Darganfyddwch fwy

Y Ffederasiwn Busnesau Bach

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnig cymorth i aelodau, cyngor ariannol a llais yn y Llywodraeth. 

Mae’n bodoli er mwyn helpu busnesau bach drwy’r heriau anoddaf.

Darganfyddwch fwy

Acas

Gall Acas Cymru gynnig cyngor a chymorth arbenigol i gyflogwyr. 

Gall ein cynghorwyr weithio gyda chi ar faterion o bob math ynghylch y gyfraith gyflogaeth, diswyddo, ailstrwythuro neu reoli newid.

Darganfyddwch fwy

Siambrau Fasnach Cymru

Mae Siambrau Fasnach Cymru yn cynnig cymorth busnes i gwmnïau ledled Cymru, gan gynnig gwasanaethau sy’n berthnasol ac yn werthfawr, a chaniatáu i gwmnïau dyfu mewn ffordd gynaliadwy.

Rydym yn cynnig gwybodaeth a chymorth clir i helpu busnesau Cymru i addasu a thyfu, gall ein harbenigwyr helpu.

Darganfyddwch fwy

Covid-19

I gael gwybodaeth sy'n ymwneud â Covid-19 i weithwyr, a chadw cymru'n ddiogel ewch i:

https://llyw.cymru/gwaith-sgiliau-chefnogaeth-ariannol

 

Covid-19

I gael gwybodaeth sy'n ymwneud â chefnogaeth Covid-19 i gyflogwyr, a chadw cymru'n ddiogel ewch i:

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy

Pam ymuno ag undeb?

Mae dros chwe miliwn o weithwyr yn y DU yn perthyn i undeb – o nyrsys i beilotiaid, actorion i yrwyr lori. Gallwch ddod o hyd i’r undeb iawn i chi heddiw.

Mae ymuno ag undeb yn fforddiadwy ac yn hawdd, ac mae’r manteision yn enfawr. Mae undebau yn helpu gweithwyr i dynnu at ei gilydd, yn mynnu gwell bargen gan gyflogwyr, ac yn codi’r safonau i bob un ohonom.

I undebau y mae’r diolch bod gennym wyliau â chyflog, absenoldeb mamolaeth ac egwyl ginio. Maen nhw’n cynnig cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim, cyfleoedd hyfforddi a dysgu, a gostyngiadau a chynigion arbennig.

Darganfyddwch fwy

Astudiaethau achos

Delwedd

Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi’i leoli yng Nghaernarfon.

Cydraddoldeb

Y Gallu i Fonitro Polisïau a Gweithdrefnau Ochr yn Ochr ag Anghenion Busnes Beunyddiol.

Diswyddo

Dod o hyd i gymorth pan fyddwch ei angen fwyaf.


 

Caethwasiaeth Fodern

Camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol yw Caethwasiaeth Fodern. Caiff dioddefwyr eu dal mewn caethwasanaeth, y cawsant eu twyllo neu eu gorfodi i mewn iddi, ac y maent yn teimlo’n analluog i’w gadael.

Mae mwy o wybodaeth yn modernslavery.co.uk, neu i gael cymorth neu roi gwybod am achos o gaethwasiaeth, ffoniwch: 0800 0121 700. Mae galwadau yn rhad ac am ddim o linellau tir a’r rhan fwyaf o rwydweithiau symudol.