Mynediad

Beth ydyw

Access Programme

Nod Mynediad yw darparu cefnogaeth cyflogadwyedd i oedolion di-waith sy’n agos at y farchnad lafur, gan eu helpu i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i sicrhau a chadw cyflogaeth.

Gallwch hefyd gael budd o Mynediad drwy dderbyn cyfraniad tuag at gyflogau (hyd at £3,000) a chymorth gyda chostau hyfforddi.

Sut mae’n gweithio

Os byddwch yn cyflogi recriwtiaid cymwys, byddwn yn rhoi £3,000 mewn rhandaliadau i chi bob chwarter ar gyfer y 12 mis cyntaf er mwyn helpu i dalu eu cyflogau. Byddwn hefyd yn talu 50% neu hyd at £1,000 ar gyfer unrhyw hyfforddiant sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon.

Pwy sy’n gymwys

Does dim cyfyngiad ar y nifer o bobl y gallwch eu recriwtio drwy Mynediad  – y mwyaf y byddwch yn eu cyflogi, y mwyaf y byddwch yn ei arbed.

Dylai’r swydd a gaiff ei chynnig fod am 25 awr yr wythnos neu fwy, bydd disgwyl iddi bara am o leiaf 12 mis ac ni fydd yn derbyn cefnogaeth gan unrhyw gyllid cyhoeddus neu Ewropeaidd arall. Hefyd, ni ddylai eich busnes fod wedi cyrraedd y trothwy ‘de minimis’ o ran rheolau Cymorth Gwladwriaethol.

Pan fo’r gweithiwr newydd wedi cael ei gyflogi’n rhan-amser am gyfnod o rhwng 16 a 24 awr yr wythnos, bydd y cymhorthdal cyflog yn cael ei dalu ar gyfradd o 50% o'r uchod.

Dylai’r unigolyn yr ydych yn dymuno’i recriwtio fod dros 18 oed, yn ddi-waith (ond heb fod yn ddi-waith am fwy na 2 flynedd) ac yn byw yn ardal tasglu cymoedd de Cymru, sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol:

  • Blaenau Gwent;
  • Pen-y-bont ar Ogwr;
  • Caerffili;
  • Sir Gaerfyrddin;
  • Merthyr Tudful;
  • Castell-nedd Port Talbot;
  • Rhondda Cynon Taf;
  • Abertawe;
  • Torfaen.

Hefyd, rhaid i’r swydd fod ar gael o ganlyniad i ehangu’r busnes, neu’r angen i benodi yn lle aelod o staff sydd wedi gadael. Nid yw’r arian ar gael i weithwyr presennol sy'n symud o un swydd fewnol i un arall. Mae amodau eraill yn berthnasol

Bydd yr unigolyn a recriwtiwyd yn cael ei anghymhwyso o’r cynllun os bydd yn dechrau gweithio i chi cyn i’ch cais am gyllid gael ei gymeradwyo. 

O ran y grant hyfforddi cysylltiedig â’r swydd, dylech fod yn ymwybodol, os yw eich sefydliad wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, uchafswm y grant i gefnogi hyfforddiant allanol ar gyfer y swydd  fydd 50% o’r gost net TAW ond ni fydd yn fwy na £1,000 cyn belled â bod y sawl a recriwtiwyd yn parhau i weithio ar ôl 26 wythnos. Dim ond ar ôl i’r hyfforddiant gael ei gwblhau y gellir gwneud hawliadau am daliad. Bydd y swm a delir yn seiliedig ar y costau a dalwyd am yr hyfforddiant, yn unol â’r amodau a amlinellwyd yn y Nodiadau Cyfarwyddyd.

Sut mae hyn o fudd i chi?

  • gwella eich cynhyrchiant a natur gystadleuol drwy staff o safon
  • cymorth ar gyfer hyfforddiant pellach i fireinio sgiliau newydd recriwtiaid newydd
  • lleihau eich costau staff yn sylweddol
  • hybu eich cyfalaf gwaith
  • mae gorbenion is yn golygu gwell proffidioldeb

Sut mae cymryd rhan?

I wneud cais am gefnogaeth Mynediad, darllenwch y Nodiadau Cyfarwyddyd ac yna argraffwch a llenwch y Ffurflen Gais Cymorth Recriwtio a Hyfforddi i Gyflogwyr.

Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau at dîm Mynediad Llywodraeth Cymru yn: 

Dîm Mynediad
Llywodraeth Cymru
Ty’r Afon
Bedwas 
Caerffili
CF83 8WT

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r cais ffoniwch Dîm Mynediad Llywodraeth Cymru ar 03000 259 037.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am y rhaglen Mynediad ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltu â ni.

Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru 

Rhestr Wirio'r Rhaglen
Ardal Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen.
Statws Ar waith
A yw'n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nad ydy
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru