Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Ydy sgiliau cyfredol eich busnes yn cyfyngu ar ei lwyddiant? Ydy’ch busnes chi'n ystyried cyfle busnes newydd, technoleg newydd, cynllun ehangu a thwf? 
Mae’n bosib iawn y gall ein rhaglenni eich helpu chi gyda chymorth ariannol tuag at uwchsgilio'ch staff. Ar hyn o bryd mae gennym ni raglenni penodol a fydd yn helpu gyda’r canlynol:

Bydd meini prawf cymhwysedd i dderbyn cyllid yn berthnasol. Am wybod mwy? Cliciwch neu tapiwch yma.

Sgiliau Coedwigaeth a’r Gadwyn Cyflenwi Pren

Diben y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sy'n dymuno mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau a gwella sgiliau eu gweithluoedd a helpu i ddatblygu gweithlu hyblyg ym maes Coedwigaeth ac yn y Gadwyn Cyflenwi Pren yng Nghymru

Nid oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig, gan gofio rhoi pob ystyriaeth i ansawdd, cost a gwerth cyffredinol am arian. 

Rhaid i'r hyfforddiant naill ai fod wedi'i achredu neu dylai gyfateb i safon a gydnabyddir yn eang yn y diwydiant, a dylai fod yn drosglwyddadwy.

Mae'r tabl isod yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y rhoddir cymorth ar eu cyfer o dan y rhaglen.

HyfforddiantEnghreifftiau
Paratoi, cynnal a chadw a rheoli coetir a choedHyfforddiant ar sut i ddefnyddio peiriannau bwydo â llaw i dorri sglodion coed, defnyddio peiriannau torri prysgwydd a pheiriannau tocio; Canllawiau ar Drafod a Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) ac ar Ddefnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel wrth Ddefnyddio Offer Llaw ar Droed (PA6), cynnal a chadw llifiau cadwyn, croesdorri, cwympo a phrosesu Coed; Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith + ym maes Coedwigaeth, Torri Coed sydd wedi'u Dadwreiddio neu eu Chwythu gan y Gwynt, Platfformau Gwaith Uchel Symudol, Defnyddio Peiriannau Coedwigaeth, Dyfarniad Technegol mewn Gwaith Arolygu ac Archwilio Sylfaenol ar Goed, Defnyddio Dronau, Defnyddio Llifiau Cadwyn yn Ddiogel o Blatfform Gwaith Uchel Symudol
Peiriannau MawrPeiriannau Cynaeafu, Cerbydau Tynnu Wagenni Pren, Peiriannau Telescopig i Drafod Coed
Prosesu PrenGraddio pren, gweithredu’n ddiogel (Melinau coed)
Digidol, TG a ChyfathrebuMarchnata digidol; y cyfryngau cymdeithasol; datblygu gwefannau; dylunio gyda chymorth cyfrifiadur
Technoleg prenTechnoleg, peirianneg a dylunio pren
Hyfforddiant Rheoli ym maes Coedwigaeth a PhrenRheolwr Gwaith Coedwigaeth, Cynllun Hyfforddiant ar Ddiogelwch ar gyfer Goruchwylwyr Safleoedd, FSC® ISO 19011 at ddibenion Archwilio

Caiff pob busnes wneud un cais o dan y rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddiant cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% oddi wrth Lywodraeth Cymru at gyfanswm y costau cymwys. 

Caiff y taliadau eu talu mewn ôl-daliadau ar yr amod eich bod yn darparu’r dystiolaeth angenrheidiol am y canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi dilyn cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • thystiolaeth am gostau'r darparwr hyfforddiant ac am y taliadau a wnaed.

Sgiliau Digidol

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n dymuno uwchsgilio'u gweithluoedd gyda sgiliau digidol uwch. Mae'r rhaglen yn debygol o fod yn fwyaf addas i gwmnïau sy'n gweithredu yn y sector digidol, er y gwahoddir ceisiadau gan fusnesau o unrhyw sector ac o unrhyw ran o Gymru.

  • datblygu sgiliau digidol uwch;
  • mynd i'r afael â heriau sgiliau sy'n gysylltiedig ag allforio;
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau yn y diwydiant Peirianneg a Cynhyrchu
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector creadigol
  • cefnogaeth i datblygu sgiliau i cynorthwyo sialensau Sero Net
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector Twristiaeth a Lletygarwch

Manylion y Rhaglen:

Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau yng Nghymru i ddilyn cyrsiau hyfforddi sydd o natur ddigidol / dechnegol iawn. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y rhaglen hon fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y cynllun hwn.

Hyfforddiant Enghreifftiau
Datblygu meddalwedd a chymwysiadau gwe Rhaglennu; Profi; Trwsio bygiau; Methodoleg ystwyth; Awtomeiddio prosesau robotig; Deallusrwydd artiffisial.
Rheoli prosiect technoleg   Datblygu meddalwedd; Seilwaith TG (dylunio rhwydwaith, Gosod a gweithrediad); Systemau gwybodaeth; Technoleg gyfrifiadurol.
Dadansoddeg data a gwyddoniaeth data Cloddio data; Integreiddio data; Gwybodaeth fusnes; Ystadegol ceisiadau.
Diogelwch gwybodaeth a seiber Rheoli data; Diogelu data; Asesiad risg; Cymdeithasol peirianneg; Gwe-rwydo ac ymosodiadau seiber eraill.

Gall pob busnes wneud un cais i'r rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Sgiliau Allforio

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sy'n dymuno gwella'u galluoedd allforio. Mae'r rhaglen yn targedu’r busnesau hynny sydd ar hyn o bryd yn allforio neu sy'n bwriadu sefydlu gallu i allforio. Yn yr hinsawdd ansicr sydd ohoni, efallai y bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ddatblygu arbenigedd a gwybodaeth am allforio.

Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau yng Nghymru i ddilyn cyrsiau hyfforddi a fydd yn datblygu eu harbenigedd allforio.

Manyldeb y Rhaglen:

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig a dylai roi pob ystyriaeth i ansawdd, cost a gwerth cyffredinol am arian.

Rhaid i'r hyfforddiant a gyflawnir naill ai fod wedi'i achredu neu fe ddylai gydweddu â safon diwydiant a gydnabyddir yn eang a bod o natur drosglwyddadwy.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y rhaglen.

Hyfforddiant Enghreifftiau
Dechreuwyr Cyflwyniad i allforio, Cyflwyniad i'r proses allforio, Cyflwyniad i 'Incoterms'
Cyllid Dulliau talu; TAW; Prisio nwyddau; masnach ryngwladol a chyllid
Gwerthu a Marchnata Marchnata rhyngwladol, adeiladu gwerthiannau tramor, llwybrau i'r farchnad, dewis asiantau a dosbarthwyr, e-fasnach
Prosesau a Gweithdrefnau Tollau Incoterms, Dogfennaeth, Dosbarthiad Nwyddau, gweithdrefnau Mewnforio, cyfraddau ffafriol, rheolau tarddiad, rhyddhad dyletswydd, trin nwyddau peryglus
Prosesau Allforio Gweithredwr economaidd awdurdodedig (AEO), Trwyddedau Allforio, cyflwyniad i allforio, deall allforio, hanfodion allfori
Ymwybyddiaeth o'r Farchnad Gwneud busnes mewn marchnad, ee Ffrainc, China neu Emiradau Arabaidd Unedig, allforion Gwyddor Bywyd yn UDA, diwylliant busnes
Cefnogaeth arbenigol Rheoli risg, Amddiffyn IP, Rheoli risg Arian

Gall pob busnes wneud un cais i'r rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Sectorau Peirianneg a Cynhyrchu 

Ydych chi'n fusnes Peirianneg neu Cynhyrchu yng Nghymru?

Manylion y Rhaglen: Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau Peirianneg a Cynhyrchu i uwchsgilio'u gweithluoedd.

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig a dylai roi pob ystyriaeth i ansawdd, cost a gwerth cyffredinol am arian.

Rhaid i'r hyfforddiant a gyflawnir naill ai fod wedi'i achredu neu fe ddylai gydweddu â safon diwydiant a gydnabyddir yn eang a bod o natur drosglwyddadwy.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y rhaglen.

Hyfforddiant Enghreifftiau
Offer Ansawdd Dadansoddiad Modd ac Effaith Methiant (FMEA), Dylunio a Phrosesu; Diagram Llif Proses; Cynllun Rheoli Gallu Proses; Rhaglenni Newid Diwylliant, fel hyfforddi'r hyfforddwres.
Technoleg Roboteg; Awtomeiddio; Deallusrwydd Artiffisial; Niwmateg Hydroligion; Electroneg; Hyfforddiant proses penodol fel chwistrelliad plastig, Weldio; Hyfforddiant Gwerthwyr fel ABB
Deunyddiau Uwch Cyfansoddion; Gweithgynhyrchu ychwanegion / argraffu 3D
DCC/GCC Catia; Gweithiau Solet; Hyfforddiant penodol yn ymwneud â systemau Peiriant fel MAZAK, Heidenheim, Fanuc

Gall pob busnes wneud un cais i'r rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Sector Creadigol

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n gweithredu yn y sector creadigol i uwchsgilio'u gweithluoedd.

Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau yng Nghymru i ddilyn cyrsiau hyfforddi sydd yn perthnasol i’r sector. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.  Yr uchafswm disgwylir i Llywodraeth Cymru cyfrannu yw £25,000.

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y rhaglen hon fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y cynllun hwn.

Hyfforddiant Enghreifftiau  
Cynhyrchu Crefft a hyfforddiant ôl-gynhyrchu H&S, Colur Prosthetig, Camera, Golygu, SFX
DDefnydd o technoleg newydd i’r cwmni a Peirianneg i technolegau creadigol Ffilmio gyda Drone, VR, cynhyrchu rhithwir, peirianneg cerddoriaeth, rheoli cynnwys digidol, defnyddio technoleg injan gemau, technoleg ymgolli, llwyfannau ac offer eraill sy'n berthnasol i fusnesau creadigol
Marchnata a brandio ar gyfer diwydiannau creadigol Gwefan, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu
Hyfforddiant creu cynnwys traddodiadol a chyfoes Ysgrifennu sgriptiau, creu cynnwys digidol ar gyfer y we / Cyfryngau digidol, creu cerddoriaeth, gemau ac animeiddio
Hyfforddiant ariannol  Cadw llyfrau, Cyfrifeg cynhyrchu
Hyfforddiant cyfreithiol a busnes ar gyfer cynhyrchu ffilm, teledu a theledu, gemau, animeiddio a cherddoriaeth Contractau, sgiliau trafod, modelau masnachol, parodrwydd buddsoddwyr
Gweithgareddau yn ymwneud ag ymchwil a datblygu yn y Diwydiannau Creadigol Sut i gynnal ymchwil; defnyddio technoleg newydd sy’n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol.

Gall pob busnes wneud un cais i'r rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Sgiliau Sero Net

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol tuag at gostau hyfforddi staff cyflogwr yng Nghymru, i'w helpu i fynd i'r afael â heriau Sero Net. Gwahoddir ceisiadau gan fusnesau o unrhyw sector ac o unrhyw ran o Gymru.

Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau yng Nghymru i ddilyn cyrsiau hyfforddi i'w helpu i fynd i'r afael â heriau Sero Net. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y rhaglen hon fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y cynllun hwn.

Hyfforddiant Enghreifftiau
Ynni Adnewyddadwy, a Chynhyrchu Gwres, gan gynnwys Effeithlonrwydd a Rheolaeth Ynni Technolegau a systemau ynni solar, gwynt, hydrodrydanol a geothermol. Technolegau storio ynni. Archwilio a rheoli ynni, modelu ynni adeiladau, effeithlonrwydd ynni mewn diwydiant, effeithlonrwydd ynni mewn Awyru, Gwresogi ac Aerdymheru.
Dal, Defnyddio a Storio Carbon Technolegau dal a defnyddio carbon, dulliau storio carbon, datblygu seilwaith dal a storio carbon.
Newid tanwydd (oddi wrth nwy naturiol a/neu danwyddau ffosil eraill heb systemau rheoli carbon) Hylosgi hydrogen, trydaneiddio prosesau a thechnolegau cynhyrchu hydrogen carbon isel
Yr Economi Gylchol, Deunyddiau Cynaliadwy a Gwastraff Egwyddorion yr economi gylchol, dylunio adeiladau gwyrdd, dewis deunyddiau cynaliadwy, asesu cylch bywyd, rheoli gwastraff.
Symudedd a Chludiant Trydan Technoleg cerbydau trydan (gan gynnwys cerbydau a threnau), systemau trafnidiaeth cynaliadwy, datblygu seilwaith gwefru.
Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Pren a Defnydd Tir Arferion amaethyddol cynaliadwy, amaeth-goedwigaeth ac atafaelu carbon, rheoli defnydd tir ar gyfer lliniaru carbon.
Cynlluniau datgarboneiddio a chyfrifyddu carbon Egwyddorion cyfrifyddu carbon ac arfer da; datblygu Cynllun Sero Net credadwy
Codi ac Ôl-osod Adeiladau Preswyl Pob techneg ôl-osod, gan gynnwys inswleiddio toeau, waliau a lloriau i ansawdd uchel a gosod systemau ynni adnewyddadwy clyfar.

 

Gall pob busnes wneud un cais i'r rhaglen hon bob blwyddyn.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sydd am wella sgiliau eu gweithlu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i ddilyn cyrsiau hyfforddi sy’n berthnasol i’r sector. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu hyfforddiant ar-lein. Gellir disgwyl hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru.

Nid oes rhaid defnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant sydd wedi’i ardystio – ond rhaid i’r hyfforddiant fod wedi’i achredu neu fod wedi cyrraedd safon gydnabyddedig o fewn y diwydiant.

Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y cynllun.

Hyfforddiant Enghreifftiau  
Hyfforddiant iechyd a diogelwch anstatudol Iechyd a diogelwch yn y gweithle lefel 2 City and Guilds; hyfforddiant a diogelwch bwyd; hyfforddiant asesu risg; atal a rheoli haint.
Hyfforddiant Arbenigol, ee Coginio Proffesiynol, Bwyd a Diod, Goruchwylio Gwaith Cynnal a Chadw Llety, Gwasanaethau Derbynfa, Digwyddiadau, Hyfforddiant gweithgarwch awyr agored. Coginio Proffesiynol Pwrpasol; Bwyd a Diod; Cynnal a Chadw Llety; Digwyddiadau; Hyfforddwr Awyr Agored/Rhaffau Uchel.
Gwasanaeth Cwsmeriaid, ee cyflawni anghenion cwsmeriaid, delio â chwynion QCF mewn gwasanaeth cwsmeriaid; cymwysterau’r Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn datrys problemau, arloesi.
Sgiliau TGCh a Digidol Marchnata digidol; cyfryngau cymdeithasol; datblygu gwefannau.
Twristiaeth Gynaliadwy Rheoli gwastraff; arferion gwyrdd/sy’n ystyried yr amgylchedd.
Arweinyddiaeth a Rheoli Darpariaeth ILM ar wahanol lefelau; darpariaeth CMI ar wahanol lefelau; rhaglen arweiniad gweithredol Rhydychen; sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol; ysgogi timau; meithrin gwydnwch; blaenoriaethu tasgau; datrys problemau; rheoli amser; rheoli straen.

Gall pob busnes wneud un cais y flwyddyn i’r rhaglen.

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru. Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • tystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Pwy sy'n Gymwys:

Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gyflawni'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2025. 

Rhaid i'r hyfforddiant hyrwyddo dysgu'r unigolion sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r meysydd a restrir yn y tabl uchod.

Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant hyrwyddo dysgu'r unigolion sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r meysydd a restrir yn y tabl uchod.

Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant wella gallu neu gapasiti’r busnes.

Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ar gymhwysedd.

Y Camau Nesaf a Datganiad o Ddiddordeb:

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.