Cyflogi pobl

Ar ryw bwynt, mae bron pob busnes bach yn wynebu'r angen i gyflogi mwy o staff ac er ei fod fel arfer yn hanfodol os wyt ti eisiau tyfu dy fusnes, gall y profiad o gyflogi rhywun am y tro cyntaf fod yn brofiad brawychus. Mae pob math o ffyrdd i ddod o hyd i ymgeiswyr, popeth o roi hysbyseb yn ffenestr neu ar hysbysfyrddau'r siop leol i hysbysebu mewn papurau newydd, canolfannau gwaith ac asiantaethau recriwtio.  Gall argymhellion personol fod yn arbennig o ddefnyddiol, ond mae'n syniad da cael detholiad o ymgeiswyr.

 

Mae canllawiau ar gael ar wefan Busnes Cymru sydd yn cynnwys mwy o wybodaeth am fathau o gontractau gwaith a chyfrifoldebau’r cyflogwr (gwefan Llywodraeth DU, Saesneg yn unig).

Cofia bob amser fod gen ti gyfrifoldebau cyfreithiol, moesol ac emosiynol i'r bobl rwyt ti’n eu cyflogi – mae ganddyn nhw eu hymrwymiadau a'u hanghenion ariannol eu hunain. Gwna’n si?r dy fod yn deall y deddfau cyflogaeth a dy rwymedigaethau, er enghraifft talu eu treth drwy PAYE, amodau gwaith, hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol, darpariaeth gwyliau gwaith ac ati. Fel cyflogwr, rhaid i ti hefyd gymryd rôl arweiniol. Dangosa fod gen ti weledigaeth glir ar gyfer llwyddiant. Dangosa rinweddau arweinyddiaeth – creadigrwydd, canolbwynt, mwynhad yn dy waith a dy gymhelliant – a bydd dy weithwyr yn gweithredu’n gadarnhaol. Y tric yw dangos y math hwn o arweinyddiaeth hyd yn oed pan wyt ti'n teimlo’n isel dy hun. Darllena'r canllaw ar wefan Llywodraeth Du ar Cyflogi Pobl am y Tro Cyntaf (gwefan Llywodraeth DU - Saesneg yn unig).

Ar adegau gwahanol yn dy fywyd busnes, mae’n debyg y byddi’n chwarae llawer o rolau. Gad i ni edrych ar sut y mae’r rolau hyn yn gweithio a pham fod perthnasau, sut y byddi’n delio â nhw a’r rolau y bydd angen i ti eu chwarae mor bwysig. 

DY RÔL YM MHA GYD-DESTUN? BETH WYT TI’N GEISIO GYFLAWNI? Y SGILIAU FYDD EU HANGEN ARNAT
GWRANDÄWR Dy gwsmeriaid Deall eu hanghenion fel y gelli di werthu beth maen nhw ei angen Gallu gofyn y cwestiynau iawn, gwrando a rheoli dy emosiynau. Sgiliau gwerthu
ARWEINYDD Dy weithwyr Lefel uchel o berfformiad a chymhelliant

Asesu.

Cyfweld.

Gwrando.

Dylanwadu / ysbrydoli eraill.

TRAFODWR Dy gyflenwyr Bargen deg i'r ddwy ochr Sgiliau bargeinio
PERSWADIWR Gweithwyr busnes proffesiynol Diogelu eu cyngor a’u cymorth Gallu dwyn perswâd. Y p?er i ddylanwadu eraill. Sgiliau cyflwyno.
PARTNER Partneriaid Busnes Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu busnes llwyddiannus. Cymorth ac anogaeth o’r ddwy ochr. Cytuno ar amcanion ar y cyd. Gallu cyfaddawdu
RHWYDWEITHIWR Pobl a busnesau Cyfleoedd i gynyddu llwyddiant dy fusnes Gallu sgwrsio mewn ffordd gyfeillgar Gallu rhannu profiad.
JYGLWR Teulu a chydweithwyr busnes Eu cefnogaeth a’u hanogaeth. Cydnabod dy anghenion dy hun. Dysgu gofyn am help, a’i dderbyn. Cynllunio. Sicrhau cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd personol.

Beth bynnag arall wyt ti’n ei wneud, gwna’n si?r fod gen ti fywyd y tu allan i'r gwaith. Wrth sefydlu busnes, bydd angen i ti weithio bob awr posib i ddechrau, ond mae angen hefyd i ti ddadansoddi maint ac ansawdd yr hyn wyt ti’n ei wneud mewn diwrnod. Gan dy fod yn fos arnat dy hun bellach, bydd angen i ti fod yn ddisgybledig – nid oes neb yn dweud wrthyt beth i'w wneud. Ond bydda’n ofalus nad yw’r busnes yn cymryd drosodd. Mae gan dy deulu a dy ffrindiau anghenion hefyd. Y rhan anoddaf o jyglo’r cydbwysedd gwaith – bywyd yw yn y dyddiau cynnar. Rwyt ti’n symud i diriogaeth anhysbys fel bos arnat dy hun, rwyt ti’n canolbwyntio ar ddatblygu dy fusnes. Byddi’n cael dy demtio i weithio’n hwyr, codi'n gynnar a gweithio drwy gydol y penwythnos. I ryw raddau mae hynny'n anochel – ond paid â gadael iddo fynd yn obsesiwn. Gall cefnogaeth ac anogaeth dy deulu a dy ffrindiau wneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig pan nad yw pethau'n mynd cystal ag yr oeddet wedi’i obeithio neu os wyt ti’n brysur iawn. Byddan nhw’n deall y pwysau ac yn deall y sefyllfa, o fewn rheswm. Treulia amser gyda nhw, mwynha dy fywyd personol neu fywyd gyda’r teulu – a bydd gen ti adnodd gwych sef eu cefnogaeth.  Darllena'r canllaw ar wefan Busnes Cymru ar Ymgysylltu a Gweithwyr (Busnes Cymru).

Ar ôl i ti gyflogi gweithwyr, mae gen ti gyfrifoldebau o dan gyfraith cyflogaeth y DU. Bydd angen i ti drafod y rhain yn fanwl gyda dy ymgynghorydd busnes, ond dy ddyletswyddau sylfaenol di yw:

  • Rhaid i ti gytuno ar gyflog gros, gan gynnwys unrhyw gyfraddau goramser, ac oriau gwaith pan wyt ti’n cynnig y swydd – a phaid ag anghofio'r gyfraith am yr isafswm cyflog
  • Bydd angen i ti gofrestru dy hun fel cyflogwr â dy Swyddfa Cyllid y Wlad lleol.
  • Rwyt ti'n gyfrifol am dynnu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol statudol o dâl dy weithiwr ac mae’n rhaid i ti dalu cyfraniad cyflogwr i Yswiriant Gwladol
  • Byddi’n gyfreithiol gyfrifol am Iechyd a Diogelwch yn y gwaith a bydd rhaid i ti asesu unrhyw beryglon a risgiau i sicrhau amgylchedd gwaith diogel
  • Bydd angen i ti gael Yswiriant Atebolrwydd y cyflogwr – bydd brocer yswiriant yn gallu dy helpu gyda hyn
  • Bydd gan dy weithwyr hawl i gael pedair wythnos o wyliau gyda thâl bob blwyddyn
  • Cofia am Dâl Salwch Statudol – os yw gweithiwr i ffwrdd yn sâl am hyd at dri diwrnod gwaith, nid oes angen i ti eu talu. Ond os ydynt yn absennol oherwydd salwch am bedwar diwrnod neu fwy, mae’n rhaid i ti ddarparu tâl salwch am hyd at 28 wythnos.
  • A byddi’n gyfrifol am sicrhau bod dy gwmni yn dilyn y rheolau ar hawliau a thâl mamolaeth, cyfnod rhiant a materion gwahaniaethu.