Gwerthu ar-lein

10 awgrym ardderchog er mwyn gwerthu rhagor ar-lein

Mae gwefan e-fasnach yn ffordd wych o gynyddu eich cynulleidfa a chysylltu â chwsmeriaid newydd ym mhobman.

computer on desk

O gofio bod cwsmeriaid yn treulio mwy o’u bywydau ar-lein nag erioed o’r blaen, mae’n hanfodol bod busnes sy’n ceisio tyfu yn yr oes ddigidol yn cofleidio datblygiadau, platfformau poblogaidd a chyfleoedd newydd i werthu.

 

Fodd bynnag, os ydych am i’ch gwefan e-fasnach lwyddo, ystyriwch sut bydd eich gwefan yn wahanol i’r rhai yr ydych yn cystadlu yn eu herbyn, yn cynnig mwy na’r hyn y mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl, ac yn eich helpu i werthu rhagor.

 

Cofiwch, nid ar eich gwefan yn unig y gallwch werthu eich syniad. Mae cyfleoedd lu i werthu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram, gwefannau gwerthu ac arwerthiant, ac apiau ar ffonau a llechi. Dewiswch yr un sy’n addas i chi ac ewch amdani!

 

Darllenwch y 10 Awgrym Ardderchog gan Gyflymu Cymru i Fusnesu i’ch helpu i ddechrau arni!

Os ydych yn defnyddio eich gwefan eich hun neu’n gwerthu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau drwy blatfform arbenigol, yr hyn sy’n bwysig am unrhyw wefan e-fasnach lwyddiannus yw pa mor hawdd y gellir ei defnyddio.

Dylai’r cwsmer allu ei defnyddio’n rhwydd a dylai pob dolen, botwm a dull talu fod yn gweithio’n ddiffwdan. Gallai unrhyw beth sy’n peri trafferth i’ch cwsmeriaid eu hannog i fynd i wefan arall neu benderfynu peidio prynu.

Dylai eich gwefan fod yn fwy hwylus ar gyfer dyfeisiau symudol. Mae mwy o ymchwilwyr yn chwilio am gynnyrch a gwasanaethau ar-lein cyn prynu, felly mae’n hollbwysig bod eich gwefan yn gweithio’n llawn ar ba bynnag ddyfais sydd gan eich defnyddiwr.

O ran sut i osod, trefnu a dylunio eich gwefan e-fasnach, y cwsmer sy’n bwysig bob amser! Dylai eich gwefan ganolbwyntio ar anghenion y cwsmer. Ewch ati drwy feddwl am beth allech ei wella i wneud eu profiad o brynu yn symlach ac yn fwy pleserus.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hyrwyddo eich cynnyrch a’ch gwasanaethau yn dda. Nid yw delweddau diflas a gwael, na chynnwys difflach sydd ag ôl brys, yn debygol o annog pobl i brynu gennych. Dylai eich lluniau fod yn glir, yn onest ac yn ddiddorol, a dylai’r cynnwys fod yn ddifyr ac o ddefnydd.

Go brin y bydd cwsmeriaid yn fodlon os ydych yn cuddio’r costau. Gwnewch yn siŵr bod yr holl gostau’n cael eu cynnwys o’r dechrau a’ch bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl am eu harcheb, yr amseroedd dosbarthu disgwyliedig, y dewisiadau dosbarthu amrywiol ac unrhyw gostau ychwanegol.

Yn yr oes ddigidol, mae diogelwch data yn hanfodol! Rhowch sicrwydd i’ch cwsmeriaid bod diogelu eu gwybodaeth ar-lein yn bwysig i chi drwy ddangos bathodynnau neu negeseuon diogelwch mewn mannau blaenllaw ar eich gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch sut rydych yn defnyddio ac yn storio data.

Mae adborth cwsmeriaid yn rhoi’r cyfle perffaith i chi wella eich gwefan e-fasnach mewn mannau penodol. Ceisiwch ddeall beth yw anghenion a disgwyliadau eich cwsmeriaid er mwyn gwneud gwelliannau.

Dylai’r broses o wneud ymchwil, rhoi eitem mewn basged, rhoi manylion talu, a phrynu fod mor syml ac mor uniongyrchol â phosibl. Gall defnyddwyr ddiflasu a cholli amynedd os oes angen clicio drwy nifer o dudalennau diangen a rhoi gormod o fanylion personol.

Nid yw’r daith yn gorffen yn y fasged. Atgoffwch gwsmeriaid posibl am yr eitemau sydd yn eu basgedi o hyd a’u hannog i ddychwelyd a’u prynu. Darllenwch flog Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael awgrymiadau am sut i leihau nifer y basgedi wedi’u gadael.

Helpwch eich cwsmeriaid i fynd yn eu blaen a phrynu drwy gynnwys argymhellion ac adolygiadau cwsmeriaid ar eich gwefan. Bydd adolygiadau a sgôr gan gwsmeriaid yn gwneud y wefan yn fwy dilys yng ngolwg defnyddwyr yn y byd digidol.

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am sut i dyfu eich busnes ar-lein, ewch i Gyflymu Cymru i Fusnesau.