Sawl gwaith ydych chi wedi bod yn pori ar wefan a llenwi eich basged gyda’r holl eitemau yr hoffech eu prynu ac yna yn newid eich meddwl a chlicio oddi ar y wefan?

 

Dyna beth yw gadael y fasged!

 

Nid rhywbeth sy’n digwydd yn anfynych yw hyn chwaith. Canfu Coremetrics/IBM bod 67% o siopwyr ar-lein yn gadael eu basged heb gwblhau'r daith i dalu a chanfu astudiaeth gan moberce mai dyfeisiau symudol sydd â’r cyfraddau gadael uchaf yn 88%.

 

Yn ôl Experian mae’r holl brynu hwn sy’n cael ei adael yn costio tua gwerth £1.02 biliwn o drafodion siopa ar-lein i werthwyr yn y Deyrnas Unedig.

 

Felly, pam fod cwsmeriaid yn gadael eu basgedi?

 

Canfu arolwg gan Econsultancy a TolunaQuick mai'r rhesymau mwyaf poblogaidd am adael y fasged oedd: yr angen i gofrestru cyn prynu (26%), prisiau yn rhy uchel (49%), problemau technegol (44%) ac yn olaf, costau cludiant uchel (75%).

 

Unwaith bydd defnyddwyr wedi cyrraedd y cam talu, y 5 prif fater sy’n atal siopwyr rhag cwblhau'r pryniant yw: diffyg manylion cyswllt (33%), proses hir (37%), problemau technegol neu lwytho tudalennau araf (44%), pryderon am ddiogelwch taliadau (58%) a thaliadau cudd (71%).

 

Er bod gadael y fasged yn anochel, mae camau allweddol y gallwch eu cymryd i wneud y gorau o’r broses talu, gwella'r daith prynu i’r cwsmer a rhoi hwb i'ch cyfradd drosi.

 

Dyma 5 prif ffordd y gallwch roi diwedd ar yr arfer o adael y fasged!

 

Caniatáu i ddefnyddwyr gadw eitemau yn eu basged ar gyfer y dyfodol

 

Peidiwch ag anfon eich siopwyr yr holl ffordd nôl i’r dechrau os ydynt yn gadael eich gwefan a'u basged. Yn hytrach, dylech gynnig yr opsiwn iddynt gadw eu heitemau yn y fasged neu eu cadw ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi iddynt adolygu eu basged yn hawdd yn ddiweddarach a pharhau gyda'r broses brynu. Drwy ei gwneud yn haws i ail gydio, gallai'r defnyddiwr ddychwelyd unrhyw bryd i gwblhau'r pryniant.

 

Atgoffwch ddefnyddwyr am eu heitemau gyda negeseuon e-bost awtomatig

 

Mae negeseuon e-bost awtomataidd yn ffordd hawdd i atgoffa cwsmeriaid am eu basged ac yn creu ymdeimlad o frys i brynu cynhyrchion y gallent eu colli fel arall. Gallech gymryd y cyfle i anfon 'cludiant am ddim' sy'n amser sensitif neu 'cod 10% i ffwrdd i gwsmeriaid’ i helpu gyrru cwsmeriaid i brynu cyn i’r cynnig ddod i ben. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn graff gyda nifer y cynigion rydych yn eu rhannu gan fod defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o'r tactegau mae brandiau yn eu defnyddio i gynyddu trosiannau. Canfu Moberce bod 15% o siopwyr sy'n gadael eu basged yn gwneud hynny’n fwriadol gan wybod y gallent dderbyn gostyngiad i gwblhau'r pryniant.

 

Deall ymddygiad pori a phrynu eich defnyddiwr

 

Gallai systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid eich helpu i ddeall eich cwsmeriaid ac i adnabod eu hymddygiad ar eich safle ac ar draws gwahanol ddyfeisiau. Gallai'r wybodaeth hon roi cipolwg i chi ar sut mae ymwelwyr wedi ymddwyn o’r blaen. Er enghraifft, a ydynt yn trosi ar ffôn symudol neu gyfrifiadur personol yn unig? A ydynt yn trosi gyda thalebau neu ar adegau penodol o'r dydd yn unig? Bydd dealltwriaeth well o'ch cwsmeriaid yn eich galluogi i ymateb a theilwra eich proses dalu yn briodol i annog trosi.

 

Byddwch yn blwmp ac yn blaen am eich dulliau talu a chludo

 

Tynnwch y colyn o'r broses brynu gan nodi'n glir y gwahanol ddulliau talu a chludo rydych yn eu cynnig. Efallai byddai'n well gan rai cwsmeriaid storio manylion cerdyn, tra bod eraill yn anfodlon gwneud hynny neu efallai byddant fel arfer yn defnyddio PayPal yn hytrach na cherdyn credyd. Drwy gynnig nifer o wahanol opsiynau talu, gall siopwyr deilwra eu profiad prynu i ddiwallu eu hanghenion. Yn yr un modd, mae'n hanfodol eich bod yn darparu costau cludiant ac amserlenni clir i’ch cwsmeriaid. Gwnewch yn siŵr bod cwsmeriaid yn cael dewis cludiant safonol neu gyflym gyda'r holl gostau ac amcangyfrifon amser wedi’u nodi. Bydd hepgor yr wybodaeth hon yn debygol o wylltio cwsmeriaid a’u harwain i adael y fasged neu ddewis cystadleuydd yn lle hynny.

 

Canwch glodydd am eich diogelwch talu

 

Rhowch wybodaeth hygyrch am y diogelwch talu a gynigir i’ch cwsmeriaid er mwyn magu hyder wrth siopa gyda'ch busnes. Drwy osod eich busnes yn un cydwybodol a dibynadwy byddwch yn rhoi’r sicrwydd hynny i gwsmeriaid i barhau gyda’r prynu. Gallai hyn fod mor syml â chynnwys tystysgrifau diogelwch ar y dudalen dalu fel dangosydd gweledol o’r lefel o ddiogelwch i gwsmeriaid.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen