Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnig mynediad beta gwahoddiad-yn-unig i My Cyber Toolkit i ddarllenwyr ein cylchlythyr -gwasanaeth rhad ac am ddim gan llywodraeth y DU sy'n helpu busnesau bach i amddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddwyr.
Mae My Cyber Toolkit yn cael ei ddylunio gyda mewnbwn gan fusnesau fel eich un chi ac mae'n cynnig arweiniad cam wrth gam syml sydd wedi ei deilwra i fusnesau bach. Sicrhewch eich pecyn cymorth heddiw i amddiffyn eich busnes ac i gael dweud eich dweud ynglŷn â’i ddyluniad ar gyfer miliynau o fusnesau bach ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth ac i roi cynnig ar My Cyber Toolkit, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyber Toolkit.
Hefyd, mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru a’r Hyb Arloesedd Seiber yn cynnal digwyddiad ymateb i ddigwyddiadau, am ddim, sy'n cynnig cyfle i fynychwyr brofi senario ymosodiad seiber realistig wedi’i gynllunio er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer digwyddiad seiber posibl ar eu busnes eu hunain.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Events | Cyber Resilience Centre for Wales