Ymunwch â'r digwyddiad ar-lein hwn ar 15 Ionawr 2025, a fydd yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Microsoft.
Nod y digwyddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i gyflogwyr am rai o'r offer hygyrchedd digidol sydd ar gael drwy dechnolegau prif ffrwd, sut y gallant helpu pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd a ble i ddarganfod mwy o wybodaeth. Gallai hyn greu posibiliadau newydd o ran recriwtio, cadw a dylunio swyddi ar gyfer gweithwyr presennol a newydd.
Dyma’r manylion:
- Dyddiad: 15 Ionawr 2025.
- Amser: 11am i 12 hanner dydd.
- Math o Gyfarfod: Cyfarfod Neuadd y Dref Microsoft (ar-lein).
- Dolen i ymuno â'r alwad: Offer Hygyrchedd Digidol - Digwyddiad i Gyflogwyr Ychwanegwch y ddolen hon at eich calendr ar gyfer dyddiad ac amser y cyfarfod. Ni fydd y ddolen hon yn gweithio nes bod y cyfarfod wedi dechrau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Thîm Rhwydwaith Partneriaeth DWP gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost hwn: partnership.networkandprojectteam@dwp.gov.uk