Podlediadau: Cyfres 1, Bydd yn fos arnat ti dy hun

O’ch chi'n gwybod hoffai 70% o bobl ifanc 16–24 mlwydd oed sydd mewn gwaith fod yn fos arnyn nhw eu hunain ar ryw adeg yn y dyfodol? Ydych chi'n un ohonynt? Pam na ddechreuwch chi heddiw? Fel dw i wedi dweud, mae llawer o resymau dros weithio ichi eich hun. Mae'n golygu mai chi sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a rheoli eich amser eich hun

Gallwch wrando ar Spotify, Apple Podcasts, neu ble bynnag rydych chi fel arfer yn gwrando ar bodlediadau. Chwiliwch Syniadau Mawr Cymru neu Big Ideas Wales

Grwandewch ar Youtube

"Tybed faint ohonoch chi sydd wedi cael syniad da neu sydd am ddechrau eich busnes eich hun, neu am wybod a yw hyn yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud mewn gwirionedd. Dim chi yw'r unig un. Mae llawer o bobl ifanc yn breuddwydio am fod yn fos arnyn nhw eu hunain, a hyd yn oed wedi mynd mor bell a phenderfynu pa fath o fusnes mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo. Credwch e neu beidio, ar gyfer llawer ohonyn nhw mae'r freuddwyd honna bron yn realiti"

 

"Y gwir yw nad yw'r rhan fwyaf o fusnesau newydd yn seiliedig ar ymyriad syfrdanol neu syniad radical newydd – y cyfan ydyn nhw yw fersiynau gwell o'r hyn sydd eisoes yn bodoli. Felly, os ydych mewn panig ynghylch meddwl am rywbeth cwbl wreiddiol, peidiwch poeni. Y peth cyntaf i'w gofio yw gwneud yn siŵr bod eich syniad busnes yn cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch personoliaeth, a bod ganddo'r potensial i wneud arian."

"Mae'n debyg bod gennych chi ragor o gwestiynau ar yr adeg hon ac mae hynny'n iawn. I symud ymlaen, mae llawer o bethau bydd rhaid ichi eu dysgu, a nifer o benderfyniadau i'w gwneud ar y ffordd."

 

Dwi’n gwybod bod entrepreneuriaid yn defnyddio greddf o dro i dro ond mae’r busnesau mwyaf llwyddiannus wedi’u hadeiladu ar ymchwil ymhlith cwsmeriaid, dadansoddi marchnadoedd, a mesur a phrofi manwl. Mae gwneud ymchwil i’r farchnad yn hanfodol felly paid â’i roi o i’r naill ochr achos bydd y wybodaeth gei di yn ôl yn hollbwysig. Fydd o’n dweud wrtha chdi pwy sy’n prynu beth, pryd, lle a pham.  Does dim rhaid iddo fod yn ddrud ac mi fedri wneud lot dy hun.

"Mae brand effeithiol yn gallu dy helpu di i godi ymwybyddiaeth, denu cwsmeriaid, cadw pobl yn driw i dy fusnes di ac annog pobl i argymell dy fusnes di i bobl erail"

"Mae’r rhan fwyaf ohonan ni ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd, felly dwi’n siŵr dy fod yn fwy na chyfarwydd efo sut mae Facebook, Twitter, Instagram, Pintrest LinkedIn a Snapchat yn gweithio ond trïa feddwl sut allan nhw weithio i dy fusnes di. Mae yna fwy a mwy o fusnesau’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol bob blwyddyn ac mae’n ffordd grêt o wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod amdana chdi."

“Mae yna lot o gystadlaethau busnes y medri di gystadlu ynddyn nhw. Fydd y rhain yn miniogi dy sgiliau di ac yn dy alluogi i wneud cysylltiadau. Yn fwy na hyn, bydd y profiad a’r help ymarferol gei di drwy gystadlu, heb sôn am y gwobrau sydd ar gael, yn cynnig cyfleoedd PR heb eu hail i chdi”

"Er mwyn creu cynllun busnes da, rhaid i chdi fod yn realistig a nodi, er enghraifft, pryd mae pethau am ddigwydd, be ydy dy gyllideb di a be ydy dy ragolygon gwerthiant di."

"Mae yna lot o fusnesau llwyddiannus wedi cychwyn fel hyn, wedi cychwyn heb geiniog bron, felly paid â phanicio. Ond, wedi deud hynny, fydd o ddim yn hawdd. Fydd angen lot o waith caled a gwneud pob dim dy hun heb dorri corneli. Ond y peth da ydy dy fod yn medru cychwyn arni heb orfod aros am i dy gyllid gyrraedd y banc"

"Ti ar fin cychwyn busnes a ti angen pres, o bosib i brynu deunydd, offer a stoc a ballu. Y newyddion drwg ydy, dydy cael gael gafael ar gyllid ddim yn hawdd yn enwedig os wyt ti’n newydd i’r byd busnes. Y newyddion da ydy bod yna fwy o ffynonellau cyllid  ar gael ar gyfer busnesau rŵan nag erioed o’r blaen."

 

"Gweithio allan faint o gostau sydd gen ti. I wneud hyn, ti angen ystyried cost, deunyddiau gweithio crai, stoc a chyflenwadau, costau sefydlog neu orbenion (overheads) fel rhent a biliau, staff a deunydd marchnata, treth a thaliadau buddsoddi a chofia, paid ag anghofio’r costau bach - mae bob dim yn cyfrif."

 

"Mae lot o fusnesau yn cael trafferthion gyda llif arian (cash flow) am eu bod nhw’n gorfod talu am bethau cyn i bres ddod i mewn."

"Dwi’n gwybod bod yna lot i’w gymryd mewn yn fanna ond o leia’ rŵan mae gen ti wybodaeth am dreth, yswiriant a chyfraith, pethau hollol hanfodol i’w cael pan ti’n cychwyn busnes. Ella dy fod yn meddwl rŵan, sut ar wyneb y ddaear dwi’n mynd i ffeindio’r amser i wneud hyn i gyd. Wel, paid â phanicio achos yn y bennod nesa mi fyddwn ni’n sgwrsio am sut i reoli amser!"

 

"Os ti isio osgoi teimlo bod chdi’n cael dy lethu gan bob dim sy’n mynd ymlaen, mae’n rhaid i chdi ddysgu sut mae rheoli dy amser. Mae’n bwysig cofio bod yr amser ti’n weithio yn cyfrif fel un o gostau’r busnes ac fel rydyn ni wedi sôn mewn penodau blaenorol, mae’n bwysig dy fod yn logio’r holl amser ti’n weithio."

"Dyma bennod olaf podlediad Bod yn Fos Arnat Ti dy Hun, ond cyn bwrw ymlaen a sôn am sut i ddatblygu dy fusnes, be’ am gael recap bach ar Bennod 14. Yn y bennod ddiwethaf, nes i siarad am sut i reoli amser ac, wrth gwrs, sut i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwaith a bywyd personol. Nes i roi 12 tip i chdi am sut i drio gwneud y mwyaf o dy amser a nes i bwysleisio pa mor bwysig ydy bod yn drefnus. Cofia sgwennu rhestr ‘to do’, osgoi pethau sy’n tarfu arna chdi a chofia beidio llusgo dy draed."