Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. Heblaw am fanteision amlwg gwerthu rhagor a gwneud mwy o elw, mae allforwyr llwyddiannus yn dweud bod masnachu’n rhyngwladol yn rhoi manteision eraill iddynt dros eu cystadleuwyr:
- mae busnesau yn tueddu i ddod yn fwy hyblyg wrth ymateb i farchnadoedd heriol
- mae addasu gwasanaethau neu gynnyrch er mwyn cyflenwi marchnadoedd newydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd
- gallwch wneud arbedion drwy gyfeintiau mwy a chostau is
I ddechrau ar eich taith allforio, ffoniwch 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.