1. Cyflwyniad

Pan fyddwch yn dechrau allforio, mae’r gweithdrefnau y bydd angen i chi eu dilyn yn dibynnu ar y math o gynnyrch neu wasanaeth rydych yn ei werthu yn ogystal â lleoliad eich cwsmer.

Nid yw’r DU bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac mae’r ffordd rydych yn masnachu gyda’r UE wedi newid. Mae’r DU a’r UE wedi ymrwymo i Gytundeb Cydweithredu a Masnach ac mae hynny’n golygu na fydd unrhyw dariffau na chwotas ar gyfer nwyddau a gaiff eu hallforio i’r UE ar yr amod fod y nwyddau hynny’n bodloni gofynion penodol o ran Rheolau Tarddiad.

Mae’r rheolau TAW a thollau sy'n berthnasol i nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU o wledydd yr UE a gwledydd y tu allan i'r UE, neu nwyddau sy’n mynd i’r gwledydd hynny o’r DU, bellach yr un fath.   

2. Allforio nwyddau

I allforio nwyddau i wlad y tu allan i’r DU mae angen i chi gyflwyno datganiad allforio ac mae’n bosibl y bydd angen trwydded allforio arnoch. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tollau a threthi yn y lle’r ydych yn anfon y nwyddau.  

Cod nwyddau

Mae angen cod nwyddau ar gyfer yr holl nwyddau a gaiff eu hallforio. Mae’r cod yn dosbarthu’ch nwyddau at ddibenion tollau, trethi a rheoliadau (e.e. trwyddedau). Rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd dosbarthu nwyddau’n gywir a gweld canllawiau ar ddosbarthu cynhyrchion penodol gan gynnwys tecstilau, meddyginiaeth, bwyd, cerbydau, cyfrifiaduron a meddalwedd.

Trwyddedau allforio

Weithiau, bydd angen trwydded arnoch i allforio eich nwyddau. Er enghraifft, nwyddau amaethyddol neu hynafolion  gwerthfawr. Bydd yn rhaid i chi dderbyn y drwydded gan y sefydliad perthnasol o fewn y Llywodraeth. Darllen rhagor o ganllawiau ar drwyddedau allforio. Mae hyn hefyd yn berthnasol i nwyddau a gaiff eu gwerthu i’r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Datganiadau allforio

Os ydych am allforio nwyddau, rhaid i chi neu'ch cynrychiolydd gyflwyno datganiad allforio electronig.

Er mwyn gwneud hyn, bydd angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) arnoch a bydd angen penderfynu sut rydych am wneud datganiadau tollau ac a ydych am gael rhywun i ddelio â thollau ar eich rhan.

Noder, o 30 Tachwedd 2023 ymlaen y Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS) fydd unig platfform tollau’r DU, gan ddisodli'r system ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a'u Hallforio (CHIEF) ar gyfer datganiadau allforio. Bydd angen i bob busnes ddatgan nwyddau drwy’r CDS. Cyfeiriwch at hysbysiad Llywodraeth y DU sy'n cynghori allforwyr sut i baratoi datganiad ar gyfer y CDS Customs Declaration Service - GOV.UK (www.gov.uk)

Gallwch wneud cais am drefniadadau datgan symlach ac am statws Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig. Mae'r rhain yn fwyaf addas ar gyfer busnesau sy'n allforio nwyddau'n rheolaidd.

Gwybodaeth am ddefnyddio trefniadau datgan wedi'u symleiddio

Gwirio a yw statws Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig yn iawn i chi

Talu TAW ar nwyddau a gaiff eu hallforio dramor

Mae modd allforio’r rhan fwyaf o nwyddau heb dalu TAW, ond mae’n rhaid i chi:

  • fedru dangos tystiolaeth bod y nwyddau wedi gadael y DU
  • cadw cofnod o’r nwyddau a allforiwyd yn eich cyfrif TAW

Mae angen i chi gadw cofnod manylach os yw’ch cwsmer yn casglu’r nwyddau gennych chi.

Talu tollau ar nwyddau a gaiff eu hallforio i drydedd wlad

Y wlad rydych yn allforio’ch nwyddau iddi sy’n pennu cyfradd y tollau y byddwch yn eu talu a bydd hyn yn dibynnu ar y math o nwyddau ydynt, o le y dônt a’u gwerth.  Dylech chi a’ch cwsmer gytuno ymlaen llaw pwy sy’n gyfrifol am dalu’r tollau a dylid cadarnhau hynny drwy ddefnyddio’r Termau Masnachol Rhyngwladol priodol®.

Mae’n bosibl y gallech hawlio tollau a TAW yn ôl neu ohirio’u talu ar gyfer rhai nwyddau sydd yna’n cael eu hallforio.  ‘Rhyddhad rhag talu tollau’ yw hyn ac mae nifer o gynlluniau a gallech ymgeisio amdanynt.

Mae gan rai gwledydd gytundebau â’r DU sy’n caniatáu i chi dalu llai o TAW neu osgoi ei thalu’n gyfan gwbl, ond fel arfer, bydd yn rhaid i chi fedru dangos o ble ddaeth y nwyddau’n wreiddiol. Gelwir y rhain yn Rheolau Tarddiad.   

3. Allforio nwyddau dros dro

Mae’n bosibl y byddwch am allforio nwyddau dros dro o’r DU. Gallai’r rhain fod yn samplau masnachol, nwyddau rydych am eu harddangos neu offer rydych yn eu defnyddio yn eich gwaith.

Mae dwy weithdrefn y gallech eu defnyddio i allforio nwyddau dros dro o’r DU, sef trwyddedau ATA a CPD a’r Rhestr Ddyblyg.

Mae’r trwyddedau ATA (Admission Temporaire/Temporary Admission) a CPD (Carnet de Passages en Douane) yn caniatáu i chi fynd â nwyddau/cerbydau modur i/allan o’r DU dros dro e.e. i’w harddangos mewn ffair fasnach neu i gymryd rhan mewn chwaraeon moduro heb orfod cyflwyno’r datganiadau a’r ffurflenni treth a thollau arferol. Nid oes rhaid eu defnyddio, ond os ydynt ar gael, maent yn symleiddio’r broses allforio yn y gwledydd lle y caiff y nwyddau eu dosbarthu a’u derbyn, cyhyd â’u bod yn rhan o Gonfensiwn Istanbwl neu drwydded ATA .

Caiff trwyddedau ATA eu defnyddio i osgoi talu’r tollau arferol os ydych yn mewnforio nwyddau i’w defnyddio yn y DU dros dro. Mae’n bosibl eu defnyddio hefyd i allforio nwyddau o’r DU dros dro i’w defnyddio’r tu allan i’r DU cyhyd ag y bo’r gwledydd hynny’n derbyn trwyddedau ATA at y dibenion arfaethedig – e.e. offer proffesiynol, nwyddau i’w harddangos, samplau, cerddoriaeth, ffilmiau neu gynyrchiadau theatr.

Gellir defnyddio  trwyddedau CPD ar gyfer cerbydau modur preifat neu fasnachol a cherbydau ar gyfer chwaraeon moduro a gaiff eu hallforio dros dro o’r DU. 

Gellir defnyddio’r Rhestr Ddyblyg i allforio rhai mathau o nwyddau dros dro h.y. nwyddau proffesiynol; gwaith celf ac eitemau i’w harddangos yn unig; samplau masnachol a gwobrau sy’n perthyn i gymdeithas chwaraeon gydnabyddedig neu gorff sydd wedi’i sefydlu’n barhaol yn y DU.

I fedru defnyddio’r Rhestr Ddyblyg, rhaid i’r nwyddau deithio gyda chi fel paciau. Ni chaniateir iddynt gael eu newid, eu prosesu na’u trwsio pan fyddant mewn gwlad y tu allan i’r UE. Fodd bynnag, caniateir iddynt gael eu trwsio os bydd angen gwneud hynny i’w hadfer i’w cyflwr gwreiddiol.

Yn wahanol i Drwydded ATA, nid yw’r Rhestr Ddyblyg yn symleiddio’r broses trethi a thollau ym mhen y daith. Felly, bydd angen i chi lenwi’r dogfennau priodol ar gyfer tollau mewnforio ac  ailallforio dramor a rhoi unrhyw sicrwydd ariannol angenrheidiol.

Allforio dros dro ac ailfewnforio.

4. Allforio gwasanaethau

Mae tua chwarter o holl fasnach ryngwladol y DU yn ymwneud ag allforio gwasanaethau. Mae busnesau yn y DU yn allforio llawer iawn o  wasanaethau ariannol a gwasanaethau ymgynghori.

Gellir darparu gwasanaethau rhyngwladol o’r DU, e.e. drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, neu yng ngwlad y cwsmer e.e. drwy ymweliad personol. Mae goblygiadau pwysig i’r naill a’r llall o ran y gyfraith ac o ran trethi. Mae goblygiadau pwysig o ran contractau hefyd oherwydd y ffaith nad oes unrhyw gynnyrch ffisegol. Ni fydd modd defnyddio Termau Masnachol Rhyngwladol i ffurfioli ble y caiff y gwasanaethau eu darparu neu pwy sy’n gyfrifol am yswiriant ac ni fydd modd defnyddio dulliau talu fel Llythyrau Credyd a Chasgliadau Dogfennol.

Pennir y rheolau TAW ar gyfer allforio gwasanaethau yn ôl lle mae'r gwasanaeth yn cael ei gyflenwi.  

Os ydych yn perthyn i'r DU ac mai’r DU ywr fan lle’r ydych yn cyflenwi eich gwasanaethau, rhaid i chi godi unrhyw TAW sy’n ddyledus yn y DU a rhoi cyfrif amdano i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, waeth ble mae eich cwsmer yn perthyn.

Os yw’r fan lle’r ydych yn cyflenwi eich gwasanaethau y tu allan i'r DU, dylech wneud yn siŵr bod eich cofnodion yn cynnwys digon o dystiolaeth i ddangos bod hyn yn wir.

Os yw’r fan lle’r ydych yn cyflenwi eich gwasanaethau y tu allan i'r DU, ni ddylech godi TAW yn y DU ond, gan y gallai fod angen i chi roi cyfrif am y dreth leol, bydd angen i chi ystyried rheolau treth y wlad yr ydych yn cyflenwi iddi.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhai mathau o wasanaethau gan gynnwys y rhai a gyflenwir yn electronig. nMwy o wybodaeth am sut i bennu lle y caiff eich gwasanaethau eu cyflenwi a lle mae'r gwasanaethau'n agored i TAW.

O 1 Ionawr 2021 nid oes modd i chi ddefnyddio VAT MOSS yn y DU na gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn yr UE. Mae’n rhaid i’r lle cyflenwi gyd-fynd â lleoliad y defnyddiwr ac mae’n rhaid i chi un ai:

  • gofrestru ar gyfer cynllun VAT MOSS y tu allan i’r Undeb mewn aelod-wladwriaeth o’r UE, neu
  • cofrestru am TAW o fewn pob un o aelod-wladwriaethau’r UE lle rydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr.

Darllenwch y rheolau ynghylch TAW ar gyfer cyflenwadau o wasanaethau digidol i ddefnyddwyr

Darllenwch ganllawiau ynghylch defnyddio cynllun VAT MOSS yr UE ar wefan yr UE